Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. sxvni.] MAWETH, 1885. [Bmr. 579. ARWEINIOL. PREGETH—"Y GAIR." GAK T PARCH. D. C. PHILLIPS, JOHNSTOWN, PA. " A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, ac ni a welsom ei ogon- iant ef, gogoniant megys yr unig-anedig oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd."— Ioan1:14. Yr oedd ysgrifenydd yr efengyl bon yn gefnder i'n Harglwtdd. Yr oedd yn mhlith yr apostolion dri dysgybl dewisol, ac efe oedd y dewisolaf a'r anwylaf o'r tri. Efe oedd y dewisol o'r dewisolion. Efe yn unig o'r deuddeg, can belled ag y gwyddom, gafodd y fraint o bwyso ar fynwes yr Iesu; ac ni cheisiodd ein Gwaredwr neb yn ffyddlonach ac yn anwylach na Ioan i drosglwyddo ei fam dyner i'w ofal pan yn marw ar y groes. Efengyl Ioan yw efengyl yr efengylau. Y mae duwinyddion dysgedicaf yr oesoedd wedi ei galw, yr efengyl ysbrydol; ac y mae Luther yn ei galw, "yr unig wir efengyl dyner." Yr efengyl hon ydyw calon Iestj Grist. Dyma lythyr cariad Duw i'r byd— efengyl y cariad a'r bywyd ydyw. Y mwyaf syml mewnarddull ac iaith, ond y dyfnaf mewn meddwl. Mae ìnor deg a'r ffurfafen, mor anmhlymiadwy a'r môr, mor brydferth ac mor newydd a pharadwys, mor ffres ac mor ddymunol a'r nefoedd. Mae can ddyfn- ed a Duw, can leted a Duw, a chan ucheled a Duw, ac yn orlawn o bresenoldeb ei gar- iad. Fel y mae yr eryr yn ehedeg yn uwch ac yn ddyfnach na'r holl adar, fellý y mae Ioan yn mhlith yr efengylwyr. Mae yn ehedeg o'r orsedd i Bethlehem, o Bethlehem i'r groes, ac o'r groes yn ol drachefn i'r or- sedd. Y mae Ioan yn eich trosglwyddo chwi ar unwaith i gysegr sancteiddiolaf Uenyddiaeth gysegredig. Yr ydych yn teimlo calon y Gwaredwr yn curo yn eich ymyl wrth ddar- llen ei efengyl. Y mae Matthew, Marc, a Luc, yn eich tywys oddiamgylch pabell y cyfarfod, ac y mae pob un o'r tri ar adegau yn agor porth y cyntedd o'ch blaen, ac yn- eich gollwng weithiau i gymdeithas gwyrth- iau a gweithredoedd nerthol Mab Duw. Ond wedi darllen eiddo Matthew, Marc a Luc, yr ydych yn teimlo fod llen drwchus rhyngoch a'r cysegr sancteiddiolaf—yr ydych yn teim- lo fod calon Duw heb ei dadlenu yn noeth ger eich bron. Yn ddiweddaf o'r efengyl- wyr, ond nid y lleiaf, y mae Ioan yn dyfod yn y blaen, gan gymeryd yn ganiataol eich bod wedi olrhain gyda Matthew linach y Gwaredwr yn ol i Abraham—eich bod wedi myned yn nghymdeithas Luc mor bell ag Adda—eich bod wedi ymgyfarwyddo megys â'r cyntedd a'r cysegr alianol, a'ch bod yn sefyll yn fud ar y llen sydd rhyngoch a'r cysegr sancteiddiolaf—rhyngoch a dirgel- wch llinach a bonedd Mab Duw. Y mae Ioan yn agosâu atoch, a'r peth cyntaf y mae- yn ei wneyd yw tynu y llen yn ol, a'ch goll- wng i f ewn i gysegr sancteiddiolaf llenydd- iaeth gysegredig. Nid yn unig i wyddfod y geni yn Methlehem, a bywyd cyhoeddus yr