Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyt. xlviii.] CHWEFROR, 1885. [Rhif. 578. ARWEINIOL. DAROSTYNGIAD CRIST YN ESIAMPL O OSTYNGEIDD- RWYDD. GAN Y PARCH. HUGH DAYIES, WTLEESBABBE, PA. " Canys bydded ynoch y meddwl yina, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu: Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw; eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion: A'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, 'ie, angeu y groes."—Phtl. 2 : 5—8. Ymgnawdoliad, wedi colli o gredo bywiol yr eglwys, tra eto yn cael eu cadw yn ei chredo ysgrifenedig. Ond nid oes un athrawiaeth yn werth ei chadw yn y Cyffes Ffydd, os nad ydyw yn elfen o fywyd yn mhrofìad yr eglwys. Pan y diosgir athrawiaeth sydd yn ddifgelwch i reswm o bob dyddordeb a dy- lanwad moesol, mae yn sicr o gael ei hall- tudio ó'r credo hefyd cyn hir. Os diosgir athrawiaeth y Drindod oddiwrth fantais grefyddol, mae yn sicr o ddirywio yn gredo noeth. amddifad o bob dylanwad ymarferol. Felly mae yn angenrheidiol i ni edrych aryr ymgnawdoliad fel amlygiad o ras dwyfol; os amgen, mae yn amddifad o bob dylanwad moesol ar y meddwl. Fe welir y pwysigrwydd o fod genym syn- iadau clir ac Ysgrythyrol am athrawiaeth y testyn—darostyngiad Obist—os ystyriwn fod ein syniadau am ei ddarostyngiad yn rheol- eiddio ein syniadau am Berson y Gwaredwr hefyd. Yn yr eglwys gyntefig yr oedd un blaid (yr Ebioniaid) yn gwadu ei briodol Dduwdod (hwy oeddynt Undodiaid yr oes hono). Yr oedd plaid aràll (y Docetíaid) yn gwadu ei wir ddyndod. Os syniwn gyda y cyntaf, nad oedd yn wir Dduw, yna nid Mae y testyn yn dyf od i f ewn mewn ff ordd o anogaeth. Hunanoldeb, hunangais, ydyw y pechod mae yr Apostol yn eu cyngori i wylio rhagddo; mae hwn yn ymwthio i bob man, ac yn dangos ei hun yn y cylchoedd mwyaf cysegredig, ac yn y swyddau mwyaf urddasol Fel y sarph mewn cyfrwysdra a gwenwyn, mae yn ymddolenu yn ngardd yr eglwys, ac yn codi y cwestiynau mwyaf ffol i ddadleu arnynt—yn peri y cynwrf a'r am- rywiaeth mwyaf mewn barn yn mhlith y dysgybhon—yn dinystrio eu hundeb, ac yn afionyddu ar dawelwch eu hysbryd. Am hyny, 'bydded ynoch y meddwl yma." Yn y geiriau hyn mae yr athrawiaeth bwys- icaf—sylfaen weithredol trefn iachawdwr- iaeth—y gwirionedd godidocaf, yn cael ei ddwyn yn mlaen fel rheswm dros, a chym- elliadi'r, ddyledswydd o fod yn ostyngedig— ymdddarostyngiad yr Abglwydd Iesu Gbist. Mae yn angenrheidiol idrych ar bob ath- rawiaeth yn ei phwrpas ymarferol, neu ynte mae ei nerth a'i dylanwad fel gwirionedd bywiol yn colli oddiar y meddwl. Dyma yr achos yr ydym yn cael yn hanes yr eglwys fod athraẁiaethau neillduol, megys athraw- iaeth y Drindod, y Oyfrifiad, yû gystal a*r