Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlvii.] HYDREF, 1884. [Rhif. 574. ARWEINIOL. MADDEUANT YE EFENGYL. ÖAN T PAECH. H. P. HOWELL, MELWAUEEE, WIS. :Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau."- Colossiaid 1: 14. Yn yr adnod hon ä yr oll o'r iachawdwr- iaeth o dan yr enw prynedigaeth. Rhyddhad trwy bryniad yw ystyr rawyaf cyfriniol y gair. Edrycha yr adnod hon arno yn ei ffynonell, ei gyfrwng, a'i gynwys. "Yn yr hwn," dyna ei ffynonell; " trwy ei waed ef," dyna ei gyfrwng; "sef niaddeuant pechod- au," dyna ei gynwys. Cyfyngir y gair madd- euani weithiau i un o fendithion mawrion y cyfiawnhad; pryd arall cymwysir ef atyr oll o drefn y prynedigaeth yn y cyfanswm o hono. Dyna yr ystyr sydd i'r gair yn yr ad- nod hon: " Yn yr hwn y mae i ni brynedig- aeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pech- odau." Felly gair a'i lon'd o gynwys ydyw y gair maddeuant. Cymaint ydyw ei gyn- wys, yn yr ystyr y defnyddir ef gan yr Apos- tol yma, nad oes un o fendithion y pryned- igaeth yn cael ei adael allan. Y rheswm fod yr oll o drefn y prynedigaeth yn myned o dan y gair maddeuant yw, fod yr hwn y maddeuwyd iddo ei bechodau wedi cyfran- ogi o holl fendithion yr efengyl. Ein ham- can ni yn y sylwadau hyn fydd edrych ar faddeuant yn ei ystyr gyfyngaf, fel mae yn rhan o'r prynedigaeth, neu yn un o foddion y cyfiawnhad. Hanfod cyfiawnhad trwy ffydd ydyw cyf- rifiad o gyfiawnder meichniol yr Aeglwydd Iesu i bechadur, trwy yr hwn y rhyddheir ei berson ef o dan gondemniad y ddeddf, ac y codir ef i ffafr Duw, a chyflawn fwynhad dros byth o holl fendithion y prynedigaeth. Ac wrth faddeuant y golygir, y weithred o faddeu i droseddwr, neu symud ymaith eu- ogrwydd pechod, f el na byddo i'r gosb ddy- ledus am dano gael ei gweinyddu ar y cyf- ryw droseddwr. Ceir dau air gwahanol yn yr iaith Roeg am faddeuant, sef pagesis, myned heibio, peidio sylwi ar; a'r gair arall, aphesis, anghofio, dileu. Dan yr ben oruch- wyliaeth, myned heibio heb sylwi ar bechod yr oedd Duw; ond trwy ddyoddefiadau iawn- ol y Mab y mae yn gwneyd mwy—yn anghof- io a dileu pechod. Duw sydd yn madd- eu pechod, ac efe a ddatguddiodd y ffaith i'r byd. Bu y byd yn dyfalu yn hir uwchben adferiad; ond yn addewid rasol Duw y gol- euodd hi gyntaf ar gyflwr drwg y ddaear. Wedi tori y wawr yn Eden, cododd yr hauJ yn angeu y groes, cyrhaeddodd y meridian yn Ngheist, ac aeth yn ddydd goleu yn yr iachawdwriaeth. Gwirionedd ysbrydol ddatguddiwyd i ffydd ydyw maddeuant. Er cyflymed y tramwyai y byd mewn gwelliantau a darganfyddiadau yn mlaen at berffeithrwydd, nid oedd ronyn yn nês at gael allan y dirgelwch hwn yn y diwedd nag ydoedd yn y dechreu. Dyma un o gudd-bethau Duw orweddai yn nyfn-