Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlvii.] ]VIEDI, 1884. [Rhif. 573. ARWEINIOL. CYNLLUN A PHROFIAD. GAN T PABCH. DATTD DAVIES, OSHEOSH, WIS. " Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth, a byddaf raor aml fy nyddiau a'r tywod." Job29:18. 1. Ceir y testyn yn nghanol atebiad olaf Job i'w gyfeillion. Cynwysa yr atebiad hwn grynodeb o hanes ei holl fywyd. Y mae yr hanes, fel darlun Raphael o'r gweddnewid- iad, yn cynwys darn dysglaer, tawel, a darn tywyll, terfysglyd; ac y mae Job, wrth osod y ddau ar gyfer eu gilydd, yn tori allan i lefain, "Ona bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi, pan wnai efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen; wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch, pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctyd, a dir- gelwch Duw ar fy mhabell," &c. Nid yw pawb, er bod yn yr unrhyw amgylchiadau, yn wrthddrychau yr un cydymdeimlad. Dyma ddau yn gyffelyb dlawd. Y mae y naill wedi ei fagu yn dlawd, ac wedi byw yn wastadol mewn tlodi; y mae y llall wedi ei fagu yn foethus, ac wedi hir-ymarfer â melus ffrwythau cyfoeth. Mor wahanol y teimla y ddau ar ol eu taflu i'r un tlodi ! Neu medd- ylier am ddau hollol ddigartref. Ni bu gan y naill erioed wraig na phlant, nac aelwyd o'i eiddo ei hun. Ar aelwyd estronol y mag- wyd ef, ac ni wybu erioed am y teimlad per- swynol hwnw sydd yn llenwi y fynwes pan y mae y gwr ieuanc a'i wraig yn cael eu hun- ain yn eu cartref newydd. Bu gan y llall gartref da a theulu anwyl a Uuosog dros faith flynyddau; ond y mae wedi colli yr oll—y mae yn amddifad o deulu ac allan o gartref. Mor wahanol yw teimladau y ddau hyn, er eu bod yn yr un amgylchiadau ! Felly Job. Y pellder rhwng y peth y bu ef unwaith a'r peth ydyw yn awr, sydd yn ysigo ei ysbryd. Hyd ei godwm sydd yn mesur ei ddolur. Unwaith aethai i borth ei ddinas, lle y dys- gwylid am dano fel am y gwlaw; yno eistedd- ai yn benaf—trigai fel brenin mewn llu, megys un a gysurai rai galarus. Ond yn awr y mae gwehilion dynoliaeth—y rhai a ruent yn mhlith perthi, ac a ymgasglent dan ddan- adl—yn ei ffieiddio, poerant yn ei wyneb, a chiliant yn mhell oddiwrtho. Mor wahanol ydoedd hi arno yn awr ! "Llymaf golyn gofid Yw cofio dyddiau gwell." Bychan y gwyddai Job y pryd hwnw fod ei "Brynwrbyw" yn Archoffeiriad hefyd, yn medru cyd-ddyoddef ag ef. Nid oedd y pell- der rhwng Job yn ei nyth, a Job ar y domen, yn ddim wrth y pellder rhwng "ffurf Duw" ac "agwedd gwas," rhwng "mynwes y Tad" a "bedd newydd Joseph." Y lle goreu i ni dan ein dolur yw "yn nghymdeithas ei ddy- oddefiadauEf." 2. Hynodrwydd geiriau y testyn, rhagor geiriau eraill Job, yw eu bod yn cynwys ei feddyliau dirgel yn amser ei lwyddiant. Nid wrth eraill yr oedd yn dyweyd, "Byddaf