Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlvii.] AWST, 1884. [Rhdt. 572. ARWEINIOL. ÜREFYDD DEULUAIDD.* GAN X PABCH. DAYID JONES, GAEEGDDU, BLAENAU FFESTINIOG, G. C. Un o nodweddau amlwg crefydd ydyw ei chyfaddasder i gyfarfod â dyn yn ei holl am- gylchiadau, yn mha gylch bynag y byddo ynddo. Y mae hi yn hanfodol gyfaddas iddo fel bôd personol. Peth rhwng dyn ei hun a Duw ydyw crefydd; ac os nad yw hi wedi gafael yn y dyn ei htin, nid yw yn bod, nac yn cael ei theimlo mewn un cylch arall. Ond pan y bydd dyn yn ei gael ei hnn yn y cylch teuluaidd, ac yn enwedig yn benteulu, y mae crefydd yno hefyd yn nerth ac yn brydferthwch i'r cylch hwnw. Nid oes dim cydymaith gwell iddo fel aelod o gymdeith- as y tu allan i'r teulu. Dynia y synwyr a'r ddoethineb uchaf y dichon pob dyn ei ddwyn fel dylanwad i nawseiddio ei holl ymwneyd a'i gyd-ddynion yn mhob man. Y mae yn rhaid ei bod yn gyfaddasder uchaf i ddynion yn mhob cylch, neu nid yw y peth y mae yn honi bod. Ond pan yr edrychom arni yn y cysylltiad teuluaidd, y mae hi yn cael lle uwch na bod yn gyfaddasder i ddyn fel aelod o hono. Y mae y teulu wedi ei osod yn sefydliad Dwyfol gan Dduw, gyda'r *Ofnwn fod crefydd deuluaidd yn isel iawn, hyd yn nod yn mhlith y Methodist- iaid Calfinaidd. Gan hyny, cyngorwn ben- au teuluaidd yn ein heglwysi i ddarllen yn fanwl, ac ystyried yn ddifrifol, gynwys y bregeth ragorol hon. Penderfynwn, fel Joshua, gwas yr Abglwydd, "Myfi, mi a'*i tylwyth a wasanaethwn yr Abglwydd. " Josh. 24: 15.—Gol. amcan uchel o gadw crefydd yn fyw yn y byd. Dyma amcan uchel priodas, dyma amcan dygiad y plant i freintiau cyfamod Duw yn y bedydd, a'u dygiad i fyny yn un- ol a thelerau grasol y cyfamod hwnw, sef moddion i gadw enw Duw yn fyw yn y byd. Y mae yr iachawdwriaeth a'i hwyneb at yr holl fyd, ac yn gwahodd "pwy bynag a ddêl;" ar yr un pryd, y mae yn amlwg mai llwybr mawr Duw, pan y delo y penteulu i undeb cyfamodol a Duw, ydyw cymeryd y plant gydag ef, yn rhinwedd y berthynas deuluaidd, i'r un cyfamod, ac i fwynhad o'r un bendithion. Dichon nad oes yr un mater ag y mae cy- maint o angen galw sylw ato yn y dyddiau hyn ag yw crefydd yn y teulu. Y mae y Methodistiaid wedi bod mewn blynyddoedd a aethant heibio yn enwog yn hyn. Ond y mae lle i ofni yn awr fod hyn yn cael ei es- geuluso yn ormodol. Os collir crefydd o'r teulu, cyll yn mhen ychydig amser o bob roan arall. Nis gellir ei chadw yn y wlad na'r capel; cyll o'r cyfarfod gweddi a'r cyf- arfod eglwysig, os cyll i gael ei meithrin a'i chadw yn y teulu. Er fod y sefydliad hwn i'w gael er yn foreu, fe allai mai y cjŵiriad llawnaf a geir am dano ydyw yr hyn a gawn yn hanes Abraham, pan y mae yr Aeglwydd yn gofyn iddo ei huh, o berthynas i ddinystr dinasoedd y gwastadedd, a gelai hyny oddir