Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. XXVII.] MEHEFIN, 1884. [Rhif. 570. ARWEINIOL. ADDOLI DONIAU DUW. <iAN Y PABCH. ROBERT YATJGHAN GRIEITTH, COLUMBUS, OHIO. 'Canys hyd y dyddiau hyny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi."—2 Bben. 18: 4. Un o bechodau duaf y natur ddynol yw eilun-addoliaeth, ac un o ffurfiau atgasaf y pechod hwnw yw addoli seirph. Nid ar un- waith y cyrhaeddodd dynion yr eithafnod yma ìnewn ynfydrwydd pechadurus. Nod- weddir hanes eilun-addoliaeth gan gynydd ar raddfa ddisgynol. Ar y cyntaf, addolid yr haul, y lloer, a'r sêr. Ystyrid y rhai hyn fel cysgod-luniau o'r Duwdod, a pherchid hwy fel y cyfryw. Wedi hyny daeth gwlad- garwyr enwog, gwroniaid dewr, ac areithwyr hyawdl, yn wrthddrychau addohad; ac yn ddiweddaf oll, anifeiliaid o amryw fathau, ymlusgiaid, ehediaid, bwystfilod, prenau, a meini. Yn yr Aipht, fel y bernir, y dechreu- odd yr arferiad o addoli seirph. Gwrth- ddrych i'w ofni yw y sarph, a hyny ar gyf'- rif ei gwenwyn marwol. Mae yr olwg ar y creadur annymunol hwn yn ein llenwi â braw, ac yn cynhyrfu ein gelyniaeth. Un o'r pethau cyntaf a wneir yw ceisio ei lladd. Mae yn rhyfedd fod creadur sydd yn cyn- rychioli gwenwyn, dinystr, a marwolaeth, wedi dyfod yn wrthddrych addoliad creadur rhesymol. Ond y mae hyn yn ffaith, ac nid gorchwyl hawdd yw rhoddi cyfrif am dani. Y mae amryw lyfrau dysgedig a llafurfawr wedi eu hysgriftnu ar y mater; er hyny teimlir yn awyddus am ragor o oleuni arno. Pa fodd y daeth y sarph—cynrychiolydd gwenwyn a marwolaeth, i fod yn arwydd- lun o iechyd, llwyddiant, ac anfarwoldeb, ac felly yn wrthddrych addoliad, nid yn un- ig yn yr Aipht, ond yn Judea, a manau er- aill V Edrychai yr Aiphtiaid arni fel ar- wyddlun o allu iachaol, ac fel y cyfryw, tel- id parch addoliadol iddi. A dywedir wrthym fod y Groegiaid a'r Ehufeiniaid yn edryeh ar y sarph fel cynrychiolydd duwiau iechyd, ac arwyddlun rheolaidd gwyddoniaeth fedd- ygol. Ond pa fodd y daeth y fath greadur brawychus a dinystriol i gael edrych arno yn y goleu hwn ? Fel atebiad i'r gofyniad yma, y mae Kubtz yn cyfeirio at ffaith ad- nabyddus i feddygon er yr amseroedd bor- euaf, sef, fod y meddyginiaethau mwyaf eff- eithiol niewn natur i'w cael mtwn gwenwyn; fod gwenwyn yn cael ei ddÌBYfctrio gan wen- wyn. Ac yn sefyllfa bresenol gwyddon- iaeth feddygol, ceir fod y cysylltiad agosaf rhyngddi a sjdweddau gwenwynig. Mae yr hyn sydd ynddo ei hun yn wenwyn marwol, yn nwylaw meddyg deallus, yr hwn sydd yn gwybod pa fodd i'w ddefnyddio, yn eff- eithiol i ladd dylanwad yr afìechyd, ac i ad- fer y cyfansoddiad i'w sefyllfa flaenorol. Dichon fod hyn yn tafiu rhyw gymaint o ol- euni ar y modd y daeth seirph i feddu lle mor neillduol yn nghrefyddau y byd pagan- aidd.