Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Gyt. xxvn.] EBEILL, 1884. [Erar. 568. ARWEINIOL. EDIFEIEWCH. GAN Y PABCH. IiDEWEBYN EDWAEDS, M. A., ABDWYN, ABEBYSTWYTH, D. C. * "Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao."—Ltjcst. 10. Nid ydym yn bwriadu yn yr ysgrif hon aros dim gydag esboniadaeth yr adnod hon, na myned i mewn chwaith i gysylltiad y geiriau â'r damegion prydferth a gyflwynir i ni yn y benod, nac i gysylltiad y gwahanol ddamegion hyn a'u gilydd. Ein hunig amcan fydd egluro ychydig ar natur ac ansawdd un o'r teimladau mwyaf pwysig ac ymarferol ag y mae yh bosibl iddo gael Ue yn y galon ddynol—gwir edifeirwch. Beth bynag ydyw natur y teimlad hwn, y mae yn un ag y mae yn rhaid ei brofi, i raddau mwy neu lai, tra y pery bywyd. Tu Iraw i'r terfyn hwn nis gall fyned. Mae ' yflwr o berffeithrwydd yn ei wneyd yn ddi- tngenrhaid, tra y mae y cyflwr gwrthwyneb yn ei gau allan; ond yn y sefyllfa bresenol y iiae angen am dano, a chymaint a hyny o le iddo. Beth y w natur edif eirwch ? Tuag at gael atebiad i'r gofyniad yma, byddai yn fantais njd bychan pe gallem ddyweyd yn sicr ac yn eflur beth nad ydyw—j>6 gallem ei wahan- iaethu yn eglur oddiwrth rai teimladau eraill cyfagos ato a thebyg iddo. * Mae awdwr y bregeth ragorol hon yn fab i Dr. Edwards, Bala. Darllener hi yn fanwl ac ystyriol. Da iawn genym weled y meib- ion yn dod yn mlaen i íenwi lle eu tadau yn Nghymru ac America, ac yri cael eu gwneyd yn dywysogion yn yr holl dir.—Gon. Ac, i ddechreu, dylem wahaniaethu rhwng edifeirwch a'r teimlad a elwir yn gyffredin yn argyhoeddiad. Mae y ddau beth yma ar lawer ystyriaeth yn debyg iawn i'w gilydd. Mae y ddau yn oruwchnaturiol ac ysbrydol. Yr Ysbeyd Glan yw yr hwn sydd yn cynyrchu edifeirwch, ac nis gall neb llai gynyrchu ar- gyhoeddiad yn nghalon pechadur. Ac eto y mae gwahaniaeth pwysig rhynddynt. Tra y mae dyn o dan argyhoeddiad y mae yn aros mewn marwolaeth—y tu allan i derfynau teyrnas Dduw y mae. Ond os oes ganddo y gronyn lleiaf o wir edifeirwch, y mae wedi myned drwodd o farwolaeth i fywyd. Ac felly y mae yn bosibl i'r hwn sydd dan argy- hoeddiad syrthio ymaith, er ei fod wedi teimlo "nerthoedd y byd a ddaw;" eithr y mae y pechadur gwaethaf, os ydyw yn brof- iadol o wir edifeirwch, wedi ei ddwyn i ddi- ogelwch perffaith. Bhagbarotoad i wir gref- ydd yw argyhoeddiad, ond y mae edifeirwch yn rhan hanfodol o honi. Nis gall y ddeddf fod yn fwy i ddyn nag athraw i'w ddwyn at Geist. Y mae Ceist ei hun yn nghalon yr edif eiriol. Y lle agosaf at deyrnas Ddttw tu allan i'w therfynau ydyw argyhoeddiad; y llecyn cyntaf tu mewn iddi yw edifeirwch. Eto, dylem wahaniaethu edifeirwch oddi- wrth yr hyn a elwir yn Saesoneg yn remorse —edifeirwch gau, neu gnofeydd cydwybod