Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xi/vii.] MAWBTH, 1884. ARWEINIOL. Y DDAU FYWYD. [Ehif. 567. GAN Y PARCH. JOSEPH ROBERTS, RAÍTNE, WIS. " Oanys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg."—2Cor. v. 7. Yr ydyra wedi arfer meddwl a theimlo fod y byd yr ydym yn byw ynddo yn gymysgedig o oleuni a thywyllwch. Perthyna iddo ei ddydd a'i nos, yn nghyda chyfnodau cymysg- edig o'r naill a'r llall, fel y gellir dyweyd am derfynau boreu a hwyr, "Nid dydd, ac nid nos." Ac y mae dydd goleuaf ein byd ni yn meddu ei gysgodion, fel nas gallwn weled pob peth yn ei liw priodol: ac y mae ein cysgod yn ein dilyn ninau i bob man. Nis gallwn fod yn sicr nad yw Duw wedi creu meddwl dyn i gyfarfod a sefyllfa gyraysglyd fel hon; oìdegid cawn ein hunain yn fynych yn caru ac yn ymhyfrydu yn y cudd, y dir- gel, y cymysgedd o oleuni, cysgodion, a thy- wyllwch. Nid oedd Paul yn deall athraw- iaeth y sefyllfa ddyfodol o wobr a chosb yn llawn. Ac nid oedd yn ei deall yn well nag yr ydym ninau yn ei deall; oblegid y mae pobpeth a ddatguddiwyd iddo ef, a mwy nag a ddatguddiwyd iddo ef, am y sefyllfa hono, wedi ei ymddiried i ni. Ond nid oedd y tywyllwch a'r dirgelwch ni ddatguddiwyd yn atal i'r apostol sugno cysur a dyddanwch o'r hyn a ddatguddiwyd, o dan ei drallodau a'i brofedigaethau fel gweinidog da i Iesu Grist. Er nad yw y daU yn canfod y lliw- iau prydferth a baentir o'i amgylch gan oleuni yr haul, eto y mae yn mwynhau ei wres. Ac er nad oedd Paul ond yn gwybod mewn rhan am y sefyllfa ddyfodol o ogon- iant sydd yn aros y saint, eto i gysgod y nef- oedd ei hun yr oedd yn cilio yn ei dywydd mawr, a'i ffydd yn derbyn goleuni a gwres y sefyllfa hono. Y syniad mwyaf gafaelgar ac anwyl am y nefoedd i feddwl Paul, ac i fedd- yliau y saint trwy yr oesau, ydyw edrych arni f el eu cartref. Yr oedd yr apostol wedi cyrhaedd sicrwydd ffydd fod y nefoedd yn gartref iddo. " Canys ni a wyddom, os ein daearol dy o'r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd." "Cartrefu gyda'r Arglwydd." Tybia rhai athronwyr a gwyddonwyr diweddar, fod yr enaid yn bod- oli mewn math o gorph fel gwefr; ond ei fod yn ysbrydol, ac nid yn hylif naturiol fel gwefr. Gelwir yr amwisg hon yn "soid fluid," neu "non-alomie ether," trwy yrhwn yr amlyga yr enaid ei hun; ac er iddo golli y corph naturiol yn angeu, bydd yr amwisg hon yn aros am dano fel corph ysbrydol. Ond nid hwn a elwir gan Paul yn "dy nid o waith llaw;" ondy nefoedd ei hun, i'r hon y bydd enaid y credadyn yn ehedeg o dan law angeu. Gan fod y sefyllfa ddyfodol o wobr a chosb mor bwysig, a chan y gallasem gasglu y bu- asai gwybodaeth fanwl yn ei chylch yn dy- lanwadu yn dda ar foesau, ac ar grefydd dyn ar y ddaear, nis gallwn lai na rhyfeddu na buasai yn llanw lle llawer mwy pwysig nag