Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Otp. xlvii.] CHWEFROR, 1884 [Rhif. 566. ARWEINIOL. EANGDER Y GORCHYMYN. GAN Y PABCH. H. M. PUGH, BANGOB, WI8. " Dy orchymyn di sydd dra eang."—Salm cxix. 96. Dengys y Salmydd yn y rhan gyntaf o'r adnod hon, nad oes gan y dynol a'r daearol ddim ag sydd yn ddigon mawr o ran cynwys, ac eang o ran terfynau, i gyfarfod â dymun- iadau cryfaf, ae angenion dyfnaf calon dyn. Edrycha ar y cwbl sydd yn meddu perffeith- rwydd dynol, a thystia ei fod yn gweled trwy a thu hwnt i'r oll. " Yr ydwyf yn gwel- ed diwedd ar bob perffeithrwydd," nieddai. Nid diwedd arfodolaeth pob perffeithrwydd a feddylir, ond diwedd mewn ffordd o gyr- haedd ei derfyn eithaf. Mae mawredd a go- goniant y greadigaeth, yn nghyd a dyn a'i holl ragoriaethau, feì y mae wedi ei osod yn ar- glwydd arni, yn dda yn eu lle; ond yr hyn oedd yn eu gwisgo â diflasdod a siomedig- aeth i'r Psalmydd oedd, fod ei feddwl a'i galon yn myned trwy, a thu hwnt i'r oll, heb gael gafael ar ddigon i lenwi a digoni ei ang- enion. Hawdd y gallasai adrodd ei brofiad mewn geirian feliy, " Canys byrach yw y gwely nag y gellir ymestyn ynddo, a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo." Ond yr oedd cynwys y gorchymyn yn fôr anfeidrol mewn eangder, fel yr oedd Dafydd yn methu gwel- ed terfyn na glan iddo: "Dy orchymyn di sydd dra eang." Pan fydd y blawd o bob celwrn wedi darfod, a'r olew o bob ystên wedi ei dreulio yn llwyr, fe bery y gorchym- yn i gyfarfod a dymuniadau cryfaf, ac ang- enion dyfnaf y galon ddynol am amser a thragywyddoldeb: " Dy orchymyn di sydd dra eang." Wrth y gorchymyn yn y fan hon y meddyl- ir yn gyffredin y datguddiad a roddodd Duw o hono ei hun i ddynion, yr hwn a geir yn ei air, neu yr Ysgrythyrau; ac yn yr ystyr yna yr edrychwn arno ynbresenol, gan sylwi: I. El FOD YN DBA EANG YN EI GYNWYS. II. El FOD YN DBA EANG YN EI GYMWYSDEE- AU I GYFABFOD AG ANGENION PLANT DYNION. III. El FOD YN DBA EANG YN EI EFFEITHIAU a'i DDYLANWAD AB Y BYD. I. El FOD YN DBA EANG YN EI GYNWYS. Daw hyn f r golwg wrth i ni edrych arno yn ei berthynas â Duw, ac yn ei berthynas â dynion. 1. Yn ei berthynas a Duw. Gan mai Duw ydyw ei awdwr, neu ei ffyn- onell wreiddiol, nis gall o angenrheidrwydd fod yn ddim amgen na gorchymyn sydd, ar ryw ystyriaeth, gymaint a'r hwn y mae wedi dyfod oddiwrtho, neu gael ei lefaru ganddo. Oeir mewn creadigaeth a natur luaws o beth- au mawrion a grymus, y rhai oeddynt yn eu dechreuad neu eu tarddiad yn hynod o fych- ain a gweiniaid. Bhai felly ydyw bron yr oll o afonydd y ddaear; rhaid iddynt redeg am filldiroedd lawer, a derbyn i mewn o wa- hanol gyfeiriadau luaws o fân ffrydiau, cyn y gellir eu hystyried yn afonydd llydain a dwfn. Ond y mae y gorehymyn hwn yn dra