Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] TACHWEDD, 1883. [Rhif. 563. Arweiniol. CYNGOR AR ORDEINIAD Y PARCH HENRY R. WILLIAMS, YN NGHYMANFA Y GORLLEWIN, A GYNALIWYD YN RED OAK, IOWA, AWST 17 —19, 1883. Gan y Parch. Richard Hughes, Columbus City, Iowa.* " Cyflawna dy weinidogaeth."—2 Tim. 4: 5. Gyda phriodoldeb neìllduol y gelwir y llyth- yrau hyn at Timotheus, yn nghyd a'r llythyr at Titus, yn " Epistolau Bugeiliol," oblegid y maent yn cynwys cyfres gyflawn o reolau a chyfarwyddiadau i fugeiliaid eglwysig yn mhob oes a gwlad i rodio wrthynt. Ac yn mysg yr holl gyfarwyddiadau a'r cyngorion a roddir, y mae Paul yn ein testyn yn cyngori Timotheus, gan ddywedyd, " Cyflawna dy weinidogaeth,'' sef ei swydd fel gweinidog yn eglwys Crist. Cyflawna bob gorchwyl a berthyn iddi. Gol- yga rhai esbonwyr mai y meddwl yw, Cyflawn gadarnha dy weinidogaeth, neu cyflawn brofa dy weinidogaeth, fel un ddigonol i gyrhaedd ei dyben, a hyny trwy iawn gyflawni ei holl ddyledswyddau, heb adael dim ar ol heb ei wneyd. Ac felly, er mai byr iawn yw ein tes- tyn, dim ond tri gair, eto y mae o gynwys eang—y mae yn cymeryd i fewn holl ddyled- swyddau y cylch mawr gweinidogaethol. Yr ydych chwi, fy anwyl frawd, wedi eich gosod heddyw yn gyflawn yn y cylch pwysig hwn, a'ch dyledswydd ydyw ymdrechu ei gyf- lawni yn ffyddlawn. "Cyflawna dy weinidog- aeth:" I. Trwy bregethu y gair yn ffydd- LAWN. *Cyhoeddir ar gais y Gymanfa. Dyna orchwyl penaf eich swydd, ac y mae pob gorchwyl arall a berthyn iddi i fod yn is- wasanaethgar i'r gorchwyl mawr hwn, oblegid pregethu yr efengyl yw y prif foddion a drefn- odd Duw er achub y byd, a sancteiddio yr eg- lwys. I weinidogaeth y Gair fel prif offeryn yn llaw yr Ysbryd Glan y mae yr eglwys Gristionogol yn ddyledus am ei dechreuad, ei pharhad, a'i llwyddiant yn y byd. " Fe wel- odd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." "Ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw." "Myfi (meddai Paul wrth y Corintbiaid) a'ch cen. edlais yn Nghrist Iesu trwy yr efengyî." "O'i wir ewyllys (meddai Iago) yr ynillodd efe nyni trwy Air y gwirionedd." Y gair yn y darlleniad o hono, ac yn neillduol yn y pregethiad o hono. Dyna y moddion mawr a ddefnyddia yr Ysbryd i argyhoeddi ac ail-eni pechaduriaid, sancteiddio a dyddanu y duw- iolion. Nis gall y Gair o enau y pregethwr mwyaf hyawdl, hyn, heb yr Ysbryd ; ac ni wna yr Ysbryd mo hono heb y Gair. Hefyd, pregethu yr efengyl yw y prif fodd- ion i roi nerth a bywyd yn yr ordinhadau er- aill. Dyma yr olwyn fawr a ddefnyddia Ys- bryd Duw i osod holl beiriant moddion gras mewn gweithrediad cyson ac effeithiol. Os