Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyp. XLVI.] HYDEEF, 1883. [Rhif. 562. Arweiniol. ATHRAWIAETH YR YMGNAWDOLIAD. GAN Y PARCH. J. CYNDDYLAN JONES, CAERDYDD, D. C. " Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd."—Ioan i. 14. Ymgynyg y cwestiwn i'r meddwl wrth gychwyn, O ba le y cafodd Ioan ei syniad am y Gair oedd yn y dechreuad gyda Duw. Tyb- ia rhai iddo ei dderbyn o'r athroniaeth Alex- andriaidd. Ymdrechodd Philo Judaeus i uno mewn glân briodas dduwinyddiaeth yr Heb- reaid ac athroniaeth y Groegiaid—doethineb Solomon a gair Plato. A phriodolir fFurf, os nid s/lwedd, athrawiaeth Ioan am y Gair, gan amçyw feirniaid craffus, i ddylanwad cryf, ond dir|elaidd, ysgrifeniadau yr Iuddew dysgedig hvsjh ar ei feddwl. Ni wêl eraill yma ond dadblygiad llawn ac addfed o wirionedd sydd eisoes yn gynwysed- ig yn yr Hen Destament, yr hwn a adgoffa ei ddarllenwyr yn barhaus am ryw Air cyfrin, trwy yr hwn y crewyd y byd ar y cyntaf, a thrwy yr hwn y cynelir y byd yn awr. Daeth " Gair yr ARGLWYDD " at Abraham a phatri- archiaid eraill; ond hyd yn hyn amgylchynir ef â dirgelwch. Beth ydyw, ai rhan-ymad- rodd, ai peth, ai person ? Nis gallwn ddy- weyd. Ond fel y darllenwn yn mlaen yn ys- grifeniadau yr Hen Destament, gorfodir ni i dybied fod y Gair yn fwy na rhan-ymadrodd— ei fod yn beth; ei fod yn fwy na pheth, ei fod yn Berson. Dynesa, llefara, encilia. Y mae yn Berson. O'r safle ddyrchafedig hon y bernir i Ioan ddechreu ei Efengyl. " Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair." Ni welaf reswm digonol i wadu yn hollol yr un o'r tybiau hyn. Cynwysa pob un o honynt ryw gymaint o wirionedd ; ond ni chynwys yr un o honynt yr holl wirionedd. Ond gwrthddadleuir, os bydd i ni ganiatau haeriadau awduron haner anffyddol o barth i ddylanwad athroniaeth ar athrawiaeth y Gair, y bydd i ni dynu oddiwrth Efengyl Ioan. Hwyrach hyny. Ond os bydd i ni dynu oddi- wrth Efengyl Ioan, ni fydd i ni dynu oddiwrth Grist Ioan, a dyna yw y prif bwnc wedi y cwbl. Camgymeriad mawr, a dinystr hollol ar athroniaeth, yw unigoli {isolate) gwirion- eddau yr efengyl er mwyn profi eu Dwyfoldeb. Yn hytrach, dylem lawenychu yn mhob dar- ganfyddiad sydd yn lleihau eu hunigrwydd, ac yn dangos eu cysylltiad bywydoi â meddwl dyn yn gyffredinol. Pe gellid dangos fod drychfeddwl Ioan am y Gair yn hollol wreidd- iol, heb ddim yn y byd mawr, llydan, cynt nac wed'yn, i ba un y gellid am fomeat ei gyffel- ybu, ni fuasai hyny i mi yn un prawf o'i Ddwyfol dafddiad. Yn hytrach dangoser fod dyfaliadau am dano mewn oesoedd blaenorol a gwledydd estronol, fod holl linellau meddwl dyfnaf y byd i gyd yn cyfeirio tua'r un canol- bwynt, a bydd yn haws i mi gredu yn Nwyf-