Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] MEHEFIN, 1883. [Ehif. 558. Arweiniol. CYNGOR I BREGETHWYR, A DRADDODWYD YN NGHYMDEITHASFA ABERYSTWYTH, AWST II, l88o.* Gan y Parch. D. Saunders, Abertawe, D. C. Anwyl Frodyr—Daeth i'm rhan, yn dra an- nysgwyliadwy, i roddi i chwi ychydig o gyng- orion priodol i'r gwaith y'ch gelwir iddo, ar eich neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth. Teimlaswn yn dra diolchgar pe buasai y gor- chwyl hwn wedi disgyn i ddwylaw rhywun ar- all, nidyn unig, ac nid yn benaf, oblegid na chef- ais hamdden a llonyddwch i ymddarpar yn briodol ar ei gyfer, ond o herwydd y teimlad 0 anghymwysder personol ag y mae y penod- iad hwn wedi bod yn achlysur i'w ddeffro. Yr oedd meddwl fod yn rhaid i mi eich cyngori heddyw yn faich trwm ar fy ysbryd am wyth- nosau. Ar yr un pryd, yr wyf yn dysgwyl llesâd personol i mi fy hun oddiwrth hyn yma, oblegid wrth feddwl am ryw bethau cymwys fel cyngonon i chwi, teimlais yn ddwys oddi- wrth fy niffygion a'm beiau gwaeddfawr fy hun, fel, er fod y teimlad yn boenus ar y pryd, yr wyf yn mawr obeithio y bydd yn elw rhag- Haw. Yr argraff a ddymunwn adael ar eich medd- *Yr ydym, heb betrusder, yn dyfrrnu y Cynger hwn yn un o'r rhai rhagoraf a ddarllenasom erioed. Ar y cyfrif hwn, tueddir ni i'w gyhoeddi yn gyflawn yn y rhifyn, a hyderwn y bydd i'n darllenwyr ei werthfawr- ogi yn ol ei deilyngdod;; ac os felly, diau y cymerad- wyant ein gwaith yn rhoddi cymaint 0 ofod iddo,— Gol. yliau wrth gychwyn ydyw, mai nid fel un yn medru yn berffaith yr amryw bethau a gymellaf arnoch chwi y byddaf yn eu llefaru, ond fel un sydd yn ymestyn.er yn eiddil, amdano—"nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, eithr yr ydwyf yn cyrchu at y nôd." A mwy na hyny, dymunaf i chwi gofio fod y nifer fwyaf o'r cyngorion a roddaf i chwi wedi eu hawgrymu yn fwy gan deimlad o ddiffyg, na chan deim- lad o fedr. Cyfreithlawn ydyw hyn, mi gred- af, i gyngorwr; oblegid nid oes dim yn dysgu dyn yn well i ganfod gwerth pob rhagoriaeth, a maint yr anhawsder i'w chyrhaedd, na meth- iant personol. Fel un sydd yn awyddu, ac i ryw raddau yn ymdrechu, ond eto, heb gyr- haeddyd, gan hyny yr wyf, gyda phob gos- tyngeiddrwydd, yn rboddi i chwi ychydig o gyfarwyddiadau. Seiliaf y cyngor a fwriadaf ei roddi ar eiriau Paul: " Ni anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu." i Cor. i. 17. Mynegu prif amcan ei anfoniad fel apostol i Grist y mae Paul yn y geiriau hyn. Nid am nad oedd ef wedi bedyddio rhyw nifer fechan, ac yr oedd rhai o'r rhai hyny yn eglwys Cor- inth ; ond yn ngwyneb yr ymbleidio cnawdol oedd wedi bod yn Corinth, ymffrostia yr Apos- tol yn y ffaith mai bychan oedd eu rhif: " Yr ydwyf yn diolch i Ddüw na fedyddiais i neb