Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] MAI, 1883. [Rhif. 557. Arweiniol. ANERCHIAD A DRADDODWYD i Eglwys y M. C. yn Cincinnati, Ohio, yn Nghyfarfod Sefydlu y Parch, E. C. Eyans, M. A., yn Weinidog arni. GAN Y PARCH. JOHN P. MORGAN, YENEDOCIA, YANWERT CO., OHIO. Anwyl frodyr a chwiorydd yn yr Arglwydd, mae yn llawenydd genyf gael y fraint o'ch an- erch o dan yr amgylchiad presenol, wedi i chwi lwyddo i gael y brawd anwyl, a'r gwein- idog da a ffyddlon hwn, i lafurio i'ch plith. Mae yn gorphwys arnaf osod at eich ystyr- iaethau â chyngorion, gobeithiwyf, a brofant yn adeiladaeth a diogelwch i chwi yn y dyfod- ol, er gwneuthur dyfodiad ein hanwyl frawd yn fendith i'ch mysg. Maddeuwch i mi am siarad yn agos a syml, gan mai at bethau cy- ffredin ac agos yr amcanaf alw eich sylw. Mae rhai pethau, fel y dywed yr Apostol, yn dal perthynas bwysig iawn â chrefydd, y rhai a ystyriwn yn anmharchedicaf, eto ydynt ang- enrheidiol. Bellach, mae y brawd hwn wedi dyfod at- och. Dywed yr Apostol Paul o berthynas i Timotheus: " Ac os Timotheus a ddaw, ed- rychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr árglwydd y mae efe yn ei weith- io." Mewn cysylltiad â gosodiad Joshua i fod yn arweinydd i feibion Israel ar ol Moses, dywed yr Arglwydd wrth Moses, "Cadarnha di ef." Wel, dyma faich fy nghenadwri inau heddyw atoch chwi oll fel eglwys, Cadarn- hewch chwi ef. Edrjrchwch ar ei fod yn ddi- ofn gyda chwi. Cadarnhewch chwi ef fel caredigion y Ceidwad; fel milwyr o dan faner yr Oen, Cadarnhewch chwi ef. Mae digon yn ei erbyn; gellwch chwi affordio bod o'i blaid. Ydynt, mae holl allu y gelyn yn ei er- byn ; mae pyrth uffern am ei orchfygu ; mae gwrthwynebwyr lawer. Sefwch chwi fel can- lynwyr yr Oen yn ddewr o'i blaid. Aroswch chwi gydag ef yn ei brofedigaethau. I. Cadarnhewch chwi ef trwy ymddy- DDANION PARCHUS AM DANO YN MHOB CYLCH, AC YMDDYGIADAU TEILWNG TUAG ATO. Mae llawer iawn o nerth dylanwad pob gweinidog yn gorwedd yn ymddyddanion pobl ei ofal am dano. Mân ymddyddanion wrth gyfeillion, wrth ddyeithriaid, wrth bobl heb fod yn proffesu, ac yn arbenig yn y teuluoedd ger bron y plant—mae da neu ddrwg yn cael eu cynyrchu yn hynod effeithiol drwy yr ym- ddyddanion hyn. Nid yn rhaiadrau gorlifol y mae yr afonydd mawrion a llydaìn sydd fel cylchoedd arianaidd yn amgylchu ein daear ni, ond yn fân ddefnynau y disgynant—ychyd- ig yma ac ychydig acw—ond wedi eu casglu yn nghyd, mae eu nerth yn aruthrol. Felly mân wersi yr aelwyd—ymddyddanion a ystyr- ir yn fynych yn ddistadl a dibwys, sydd ya