Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cvfrol XXII. RHA&FYB, ISÔO. Rliifyn 364 Traethodau a Hanesynau. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. T CYFNOD RHWNG Y DDAU DESTAMENT. PBNNOD LXXXÌ. [Parhad tudal. 395.] Pan ddaeth yr holl hanes hyn i glustiau Epi- phanes, mae brou a ffrwydro gan gynddaredd ac ymddial; ac yn gorehymyn casglu ei fyddin- oedd yn nghyd, gan fwriadu «u harwain ei hunan i wlad Canaan, â thaflu yr holl genedl dros yr erchwyn. Ond wrth chwilio ei drysordy, cafodd allan nad oedd ganddo ddigon ynddo i dalu ei filwyr; ac y mae yn gorfod rhoddi ei fwriadau tanllyd i fyny er ei waethaf. Yr oedd Antiochus yn hynod am fawredd ei roddion a'i ffafrau i'w ganlynwyr; o achos hyn y gelwiref eweithiau y " mawrfrydig." Yn hyn, fel pethau ereill, mae yn cyfatebyn hollol i ddesgrifiad y Prophwyd o hono, Dan. xi. 24-44. Clywodd yn fuan fod brenhin Armenia wedi cyfodi gwrthryfel i'w erbyn. gan fwriadu atal y deyrnged ddyledus iddo; yr hon yr oedd yn sefyll mewn cymaint o anghen o honi ar hyn o bryd. Yn y benbleth hon, mae yn penderfynu rhanu ei fyddin yn ddwy ran; ac anfon ei haner o dan arweiniad Lysias, ac arwain y rhan arall ei hunan, yn erbyn Armenia a Phersia. Mae ef yn gorchfygu yr Armeniaid, gan gymeryd eu brenhin yn garcharor; ac yna yn myned yn mlaen yn erbyn Persia. Yr oedd wedi gadael gorchymyn i Lysias i lwyr ddyfethayr Iuddew- on, a phoblogi eu gwlad â chenhedloedd ereill. Casglodd Lysias fyddin o ddeugain mil o wŷr traed, a saith mil o wŷr meirch, gan eu hanfon o dan arweiniad Nicanor, tua Judea. Aeth y fyddin fawr yn mlaen yn ddirwystr hyd Emaus, yn agos i Jerusalem, ac y maent yn gwersyllu yno. Dywedir fod dros fil o fasnachwyr yn dylyn y fyddin, gyda bwriad o brynu caethion rhyfel; oblegid yr oedd Lysias wedi rhoddi cyhoeddiad allan y gwerthai 90 o'r luddewon am dalent. Ond yr oedd y caethion hyn eto, cofier, heb eu dal. Cyfrifai Lysias druan, yr adar yn y goedwig. Canfyddai Judas Macabeus wrol, fod ei hoff wlad yn cael ei bygwth â llwyr a bythol ddinystr; ac y mae ef a'i ychydig ganlynwyr yn penderfynu gwerthu eu heinioes am y pris uchaf beth bynag—chwe' mil oedd nifer ei holl fyddin. Mae Judas yn selog dros gyfraith e Dduw—yn ei chadw yn fanwl ei hunan, ac yn* rhoddi cyhoeddiad allan am i'r rhai oedd ýn ei fyddin newydd briodi, ac newydd adeiladu tai iddychwelyd adref; oblegid gwyddai yn dda nad oedd rhyfel yn eiddo y cadarn. Yna mae yn myned ati o ddifrif i guro Avrth borth y nef am help, ac yna yn troi allan yn galonog yn erbyn ei elynion—yn eu taro ac yn eu chwalu gyda'r pedwar gwynt, er eu bod o ran nifer dros un-ar-bymtheg yn mhen un ag oedd gydag ef. Cafodd drysorau bron dirif yn y gwersyll, yn nghyd ag arian a ddygasid gan y marsiand- wyr i brynu eu gwragedd a'u plant bychain hwy eu hunain. Wedi gorphen ei waith ar fyddin y Syriaid, aeth Judas yn ddioed dros yr Iorddonen, a tharawodd fyddin fawr arall oedd yn cael ei chasglu yn ei erbyn yn y wlad hono —lladdodd dros ugain mil o honynt, a dygodd adref oddi yno anrhaith fawr iawn. Pan glybu Lysias fod ei holl fyddinoedd wedi eu lladd gan ddyrnaid o Iuddewon, mae yn y dyrswch mwyaf; oblegid gwyddai yn dda am y pryder yr oedd Epiphanes ynddo, am ddarostwng a difa y genedl Iuddewig. Y mae eto yn casglu yn nghyd fyddin anferth o bedair mil a thrugain o wyr traed, a phum' mil o wyr meirch ; a'r waith hon yn eu harwain ei hunan tua gwlad Judea. Y mae yn dyfod yn mlaen