Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXII. T^CHWEDD, 1859. Rhifyn. 863 Traethodau a Hanesynau. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. Y CYFNOD EHWSG Y DDAÜ DESTA.MENT. PENNOD LXXX. [Parhad tudal. 355.] Sylwer mai nid y rhan hono o wlad Syria, lle y cawsom Benhadad, Hasâel, &c, sef Syria Damascus oedd hon; ond Antioch fawr, yn nês o lawer i'r Gogledd-orllewin, oedd eisteddle y llywodraethwyr newydd hyn. Yr oedd yr Iuddewon bellach, wedi bod dan lywodraeth brenhinoedd Groegaidd yr Aipht a Syria, sef olynwyr Alexander fawr, am yspaid 150 o flynyddoedd j ac yn dechreu hoífi arfer- ìon y Groegiaid, a lluaws mawr o honynt yn gwyro at grefydd y Groegiaid. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Josua. brawd Onius yr arch- offeiriad, yr hwn oedd wedi mabwysiadu yr enw Groegaidd Jason. Cynygiodd hwn bris öiawr i Antiochus Epiphanes am swydd a lle Onius ei frawd. Anfonodd Epiphanes ddi- fcgwyddor am Onius i Antiochia, a chauodd arno yn y carchar; a dyma y swydd bwysig ac anrhydeddus, wedi syrthio i ddwylaw cre- adur eithaf diras. Yr oedd plaid gref yn Jer- isalem yn cynal breichiau y Jason ddiegwyddor hwn ; a chan gynted ag y sefydlwyd efynyr «•rchoffeiriadaeth, y mae yn codi math o chwa- teu-dŷ i gario yn mlaen y campau Groegaidd ; ac y mae y rhai hyn yn dyfod i ífafr gymaint, fel y cawn fod yr offeiriaid yn gadael eu g^asanaeth cysegredig yn y deml, er mwyn ^od yn wyddfodol yn y campau. Ond nid hir Wn y cafodd yr adyn diegwyddor hwn fwyn- hau y swydd ag oedd wedi dyfod yn feddiannol %ii trwy foddion mor annheilwng. Yn mhen y tair blynedd, mae ei frawd ieu- angaf Menelaus, (yr hwn oedd yn llawn mor ddiegwyddor ag yntau) yn gwobrwyo Antioch- us Epiphanes, ac yn myned a'i swydd oddiar ei frawd. Yr oedd y Menelaus hwn yn gwbl rydd i gyflawni unrhyw anfadrwydd ; ac un o'i weithredoedd cyntaf oedd lladrata rhai o lestri y deml, a'u hanfon i'w gwerthu i farchnad Tyrus. Daeth hyn i'r amlwg, a gwnaed cyn- wrf enbyd gan y genedl; yn enwedig gan yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Antioch. Yn eu mysg yr oedd yr hen archoffeiriad parchus Onius, yn flaenaf. Anfonodd Menelaus yno, a chafodd gan lywodraethwr y ddinas ei roddi i farwolaeth. Yn fuan wedi hyn, mae Antiochus Epiphanes yn lluniaethu rhyfel yn erbyn yr Aipht; ac mewn dau ryfelgyrch mae yn gwbl Iwyddian- nus. Mae rhyw sŵn yn cyrhaedd Palestina ei fod wedi marw. Ar hyn mae Jason (yr hwn a fuasai yn archoffeiriad) yn casglu byddin yn nghyd ; a thrwy gymhorth ei bleidwyr yn Jer- usalem, yn bwriadu dial ar blaid Menelaus, yr hwn ei hun a gymerodd ei loches yn y castell, gerllaw y deml. Ond mae Antiochus Epiphanes eto yn fyw, ac ar ei ddychweliad o'r Alpht, mae Jason yn ffoi; ac ar ol crwydro o fan i fan am dymhor, mae yn marw yn dru- enus. Mae Epiphanes yn cynddeiriogi cymaint wrth yr Iuddewon, o herwydd y gorfoledd a ddangosasant o herwydd ei farwolaeth dybied- ig, fel y mae yn lladd miloedd o honynt, ac yn gwerthu miloedd ereill i gaethiwed. Y mae yn cael ei arwain gan Menelaus ddiras i'r deml, ac yn ei hyspeilio o'i holl lestri gwerthfawr ; gan eu cario gydag ef i ADtioch, yn werth deu- naw cant o dalentau. Ac i beri cymaint o ddir- myg ag a allai ar yr luddewon a'u Duw, mae yn aberthu hŵch fawrar allor ypoeth-offrwm, ac yna yn myned tuag adref, gan adael Menel- aus yn yr archoffeiriadaeth. Er hunan-amddi- ffyniad, mae brenhin yr Aipht yn gwneyd