Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I V_y JL JO xi—L. I i JL.« Cyfrol XXII. MEDI, 1859- Rhifyn S61. Traethodan a Hanesynau. Ylì hanesyddiaeth ysgrythyrol. Y CYEN0D RHWNG Y DDAU DESTAMENT. PENNOD LXXIX. . [Parhad tudal. 274.] Wedi colli Nehemîali yr olaf o'r ysgrifenwyr ysprydoledig, mae goleuni clir yr haul yn rhoddi lle i lewyrch gwanaidd ac ansefydlog, rhyw fâu ser o haneswyr paganaidd sydd yn dygwydd dod yn awr ac eilwaith i'r golwg. Mae yn wir fod genym Josephus enwog mewn Uawer ystyr i'n harwain trwy yr oesoedd tywyllion rhwng Nehemiah a Matthew, ond ^id ysgrifenydd ysprydoledig oedd Josephus ^a thebyg iddyut; ac yn wir rhy brin y gallwn 61 goelio mewn llawer man, oblegid nid bob atüser mae yn hollol gyson hyd yn oed ag ef ei hunan. Er ar yr un pryd rhaid ei gydnabod fel hanesydd o'r radd uwchaf. Mae genym yr haneswyr Groegaidd, yn nghyda %frau y Macabeaid, yn taflu eu llewyrch gwan- aìdd ar ein llwybr yn mlaen, eto nis gallwn ^eimlo haner mor gysurus a diberygl yn nghwm- ^iaeth y goreu o honynt, ag yn nghymdeithas boff yr haneswyr Ysgrythyrol; a hyny o her- ^ydd ein bod yn methu peidio eu hameu, bron âr bob troad yn y llwybr. Ein hamcan fydd cadw golwg ar y genedl Ittddewig, yn mysg yr hon yr oedd achos Duw ^11 cartrefu, a cheisio eu dylyn yn eu helyntion ■~~bant a bryn—trwy y cyfnod o 400 o flyn- ^doedd rhwng y ddau Destament. Wrth WQeyd hyn, byddwn o angenrheidrwydd yn ^ynych gyffwrdd a hanesiaeth y Persiaid, am ^ymhor, ac yna a'r brenhinoedd Groegaidd a ^ynid Alexander fawr am óíymhor lrwy; ac yn olaf a'r Ehufeimaid—sef y tair olaf o bedair brenhiniaeth fawr y prophwyd Daniel. Mae y gyntaf, sef yr Assyriaid neu y Caldeaid, wedi myned eisoes dros y chwareufwrdd o'n golwg • a'r ail, sef y Persiaid, wedi rhedeg dros haner ei gyrfa, ac ynfuan i gyrhaedd ei therfyn eithaf, a rhoddi lle i'r Groegiaid dan Alexander a'i olynwyr. Hyd farwolaeth Nehemiah, yr hwn oedd mewn llawn awdurdod fel Uywodraethwr o dan frenin Persia. Yr oedd Judea yn llywodraeth ar ei phen ei hun, ond bellach mae yn cael ei huno a rhagla^iaeth Syria; ac o hyn allan gan. raglaw Syria yr oedd yr awdurdod i ddewis a gosodmewn swydd yr Archoffeiriaid, a phrif swyddwyr eraill y wlad, ac i ofal yr estron hwn yr ymddiriedid gweinyddiad y cyfreithiau yn nhir Israel. Ymddiriedai y rhaglaw achos y rhan lu- ddewig o'i lywodraeth, i raddau helaeth, i'r Archoffeiriaid, yr hyn a godai y swydd hono yr uctìaf yn y wladwriaeth—a mawr oedd yr awydd, a mynych y cynhenau am y fantell Archoffeiriadol. Buasai tri gwr yn y swydd anrhydeddus o'r dychweliad o Babilon hyd yr amser dan sylw — sef Josua, Jehoiacim ac Eliasib, a bu yr olaf farw C. C. 413. Dilynwyd ef gan Jehoiada, yr hwn a derfynodd ei swydd- ogaeth C. C. 373. Hyd farwolaeth hwn nid ydyni yn cyfarfod a dim hynod iawn yn hanes y geuedl. Maent yn byw yn weddol gysurus a thawel, yn gymaint felly o leiaf ag y dys- gwylid iddynt fod o dan iau dramor, o dan ly- wodraeth Persia, tuag at yr hony teimlent fwy o ymlyniad nag a deimlasant tuag at neb arall cyn nac wedi hyny, a fu yn ysgwyd y deyrn- | wialen uwch eu penau. Bu Jehoiada neu Judas fel y gelwir ef, farw yn y 31 flwyddyn i Artaxerxes frenhin, a phan oedd Bagoas yn rhaglaw Syria. Dilyn- wyd ef yn ei swydd gan Johanan, ond cyn yn brin iddo ymsefydlu, mae brawd iddo o'r enw