Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XIX. M A 1, 18 5 6 Rhif. 221. Ämtjrnìto nr J3ítm>0pEtt. YR HANESYBDIAETH YSGEYTHYROL. PEÎfNOD L V . [Parhad o du dal. 51.] AR farwolaeth Solomon, raae Rehoboam ei fab yn parotoi i esgyn yr orsedd wag yn ei le. Yr oedd ar y pryd yn un mlwydd a deugain oed, ac felly wedi ei-eni pan oedd ei dad gerllaw deunaw oed. Yr oedd Rehoboam, o ochr ei fam, o deulu Amon, mab Lot. Mae holl lwythau Israel yn ymgasglu i Sichem, hen ddinas enwog yn llwyth Ephraim, o gylch deugain milltir i'r gogledd o Jerusalem, ac y mae y brenin newydd yn myned yno o Jerusa- lem i'w cyfarfod, i dderbyn awenau y llyw- odraeth o'u dwylaw. Ond yr oedd gan y bobl (iŵynion trymion yn erbyn y llys gwas- trafflyd yn Jerusalem, a phenderfynasant fynu addewidion difrifol o ddiwygiad yn ngwein- yddiad y llywodraeth, cyn yr ymddiriedent y deyrnwialen i law Rehoboam. Er fod Solo- mon yn nechreu ei deyrnasiad yn trin ei ddeiliaid o feibion Israel fel boneddigion, gan osod pob gorchwyl caled ar y dyeithriaid oedd wedi eu goddef i breswylio yn y wlad, y mae yn ddigon eglur fod pethau wedi cyf- newid yn fawr, er gwaeth, yn mhell cyn ei ddiwedd. Fel y crybwyllwyd yn barod, yr oedd der- byniadau Solomon oddiwrth elw masnach a'r deyrnged a delid gan y lluaws breninoedd o dan warogaeth iddo, yn nghyda'r anrhegion a gyflwynid iddo bron yn ddigyfiif. Ond ym- ddengys fod y cyfan yn rhy fach i gynnal yr 6YF. XI3C. 22 I holl filoedd gwragedd, gweision a morwynion, : ynnghydaswyddogion o bobmath oeddentyn | gwneyd i fyny ei lys lluosog a thraulfawr, yn I nghyda'r holl fyrddiynau o arian a werid yu flynyddol i adeiladu dinasoedd a phalasau yn- ddi, a gwinllanoedd ar hyd a lled y wlad. Ilefyd, yr oedd yr Edomiaid, a Syriaid Da- mascus yn ei flynyddoedd olaf wedi gwrthry- fela yn ei erbyn, ac, yn debygol, wedi rhoddi attalfa ar ran fawr o'i fasuach ; ac, i wneyd y diffyg i fyny, yr oedd wedi gosod trethoedd I trymion a gorthrymus ar ei frodyr o Israel, yr | hyn oedd yn beth newydda thra annyoddefol ■ ganddynt; ac ar waith Rehoboam yn ceisio I esgyn yr orsedd, mae y genedl yn ddigon ; rhesymol a chyfiawn yn galw arno am gynnilo ì a symud y trethoedd trymion oddiarnynt. I Gofynai yntau am dri diwrnod o amser i ys- i tyried y peth ac ymddyddan â'i gynghorwyr | ar yr achos. Canfyddai yr henafgwyr ag j oeddent wedi bod yn gynghorwyr i'w dad Solomon arwyddion amlwg yn ngwedd a Uais y genedl gynnulledigoanfoddlonrwydd dwfn, ac annogeut Rehoboam i gyd}-mdeimlo achyd- ddwyn â'r bobl, ac ysgafnhau peth o'r treth- oedd trymion a osodasid arnynt gan ei dad ; ond nid oedd efe erioed wedi gweled ond eithaf rhwysg a gwastraff, ac nid ganddo fawr o archwaeth i feddwl am gynnildeb; a chyn- nelid ei freichiau yn hyn gan y dynion ieuainc ag oeddent fel ef ei hun, wedi eu dwyn i fyny yn foethus a didoraeth, ac yn tybied fod y byd a'r bobl ynddo wedi eu gwneyd at eu gwasanaeth hwy. Ar y trydydd dydd, mae yn cyfarfod y bobl, ac yn eu hateb yn arw a tlirahaus, yn gyffelyb fel yr atebai Pharaoh eu hynafiaid gynt, gan roddi amnaid iddynt, os na byddent yn bur ddystaw, y trymhai ef eu beichiau iddynt. Yr oedd Jeroboam, mab Nebat, wediclywed