Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. XV. HYDBÈF, 1852. ehif. m. CERBYDAU RHYFEL Y CANAANEAID. €ta*tjioìUtt. YR ÌIANESYDDIAETH YSGRYTHÌROL. PENNOD XXV. DTDD hwn mae y wyrth fyth-gofiadwy hono yn cymeryd Ue,oattal yr haul a'r lleu- ad yn eu cylchdaith, i roddi mantais i Israel i lwyr dd'ial ar eu gelynion. Atebai y wyrth aruthrol hon-ddyben pwysig arall, sef rhoddi er- gyd ar ben eilun-addoliaeth. Addolai y Canaan- ëaid yr haul a'r lleuad; hwy oeddent eu prif dduwiau, a digon tebyg ibd miloedd o honynt wedi bod yn gweddío ar y rhai hyn am Iwydd- iant yn y frwydr yn erbyn Israel. Ond dyma Dduw Israel á'i fys yu attal duwiau y cenedloedd hyn, yn eu gyrfa yn y ffurfafen, megys i edrych ar eu haddolwyr yn cael eu dyfetha, ac heiÿd i roddi llaw o gymhorth, i ddal y ganwyll, i add- olwyr Duw Israel i'w dinystrio. Rhoddai y fuddugoliaeth fawr hon Josuah mewn meddiant o holl ddeheudir Canaan, sef rhandiroedd Judah, Benjamin, Dan, a Simeon, oddigerth ychydig o amddiffynfeydd, megys eiddo y Jebusiaid yn Je- rusalem, ac ychydig ereill. Mae dinas ar ol din- CYF. XV. 19 as yn syrthto o'i flaen, a llwyth ar ol Uwyth yn cael eu dyfetha ganddo. Wedi myned o amgylch yr holl wlad, mae yn dychwelyd yn llwythog o ysbail i'r gwersyll yn GilgaL Nid hir wedi iddo ddychwelyd i'r gwersyll, mae y lluaws cenedloedd oedd yn preswylio can- olbarth a gogledd y wlad eto yn ymuno à'u gil- ydd yn erbyn Israel; maent yu ymgasglu yn nghyd wrth ddyfroedd Merom, y rhai ydynt ym- ledaeniad o afon yr Iorddonen, o gylch deuddeg milldir uwchlaw mór Genesareth. Mae Josuah yn myned â'i wýr i fyny o Gilgal,ynymosodar- nynt, ac yn rhoddi llwyr ddymchweliad iddynt Wedi dinystrio eu byddiuoedd ar faes y gwaed, mae yn myned o gwmpas i daro yr holl ddinas- oedd o lán yr Iorddonen hyd Sidon. Erbyn hyn yr oedd holl wlad Canaan, o fynydd Lìbanus yn y gogledd hyd derfyn Edom yn y dê, ac o fyn- yddoedd Gilead yn y dwyrain, hyd fôr y Canol- dir, tua machlud haul, yn eu meddiant; cannoedd o filoedd o'r trigolion wedi myned yn ymborth i'r cleddyf, a llawer, debygid, wedi cilio o'r ffordd, i'r gwledydd cylchynol. Er ein bod, fel hyn, wedi adrodd hanes y daros- tyngiad mewn ychydig linellau, eto ymddengys fod meibion Israel wedi bod gerllaw saith mlyn- edd wrth y gorchwyl; rhaid eu bod yn claddu y lladdedigion; buasai eu gadael i bydru ar wyneb y wlad, ao yn y dinasoedd, yn fuan yn magu plâ-