Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

264 Marwólaethau. T. C, Cloddtä'r Coed, Llanllyfni, y 2lain a'r 22ain o fis Myhefi».-------Agorwyd capel newydd i'r un enwad yn Bethania, Môn, ar yr 17eg a'r 18fed.------'Nid hyfryd genym ddeall. fod gwein- idogion crefyddol Cymru mor flaeullaw yn eu hymyraeth à'r etholiad diweddar.------Cafodd un Evan Morgan ei ladd gan fellten, ar yr 21ain o Fyhefin, tra yn ymgysgodi yn nhy Jenkin Jones, ardal Llansantfíread, Ceredigion.------Bu farw yn ddisymwth iawn, ar y 19eg o Fyhefin, Janu Ed- wards, College, ger Lledrod.-------Anafwyd tri o ddynion eto trwy dânchwa, yn Aberdâr, yn nçwaith glo Lletty Siency%, inor ddrwg fel y mae eu hadferiad yn anobeithiol.------Mae y Mor- moniaid ar ail-ymweliad yn Llanidloes.------Dau chwareu " croai bacli,'' ond ryw fodd rhedodd y cortyn rnor dỳn am wddt'yr hynaf, (tua 14 oed,) fel i'w ündagu, cyn y gallai ei frawd bychan weinyddu uu cymhorth iddo.-------Dywedir fod dim llai nag wyth tunneü o wyrf yn cael eu gwneyd yn " faehau a llygaid," yn Birmingham, bob wythnos------Holl drigolion plwyf cyfan, yn Nucaeth Nassau, ydynt wedi cytunö i fyned gyda'u gilydd drosodd i America; ac y mae eu holl leddiannau ansymudol, megys tai, tiroedd, anifeiliaid, &c, wedi eu hysbysu i'w gwerthu. -------Dywedir fod yr afiechyd ar y cloron wedi gwneyd ei ymddangosiad eisoes yn swydd Lei- trim, Roscommon a Sligy.-------Un diwrnod yn ddiweddar, yr oedd dyn yn tori cloron, ac yr oedd un o honynt yn geuol o fewn ; ac yn y ceu- dod yr oedd pytaten fechan newydd, yr hon oedd yn ymddangos yn iachus.------Mae y pobyddion yn l.lundain wedi gostwng dimai yn mhris y dorth 4 pwys, o herwydd y cyflawnder mawr o wenith a pheilliaid a ddygwyd i mewn o Ffraingc ac America i'r deyrnas hono yn ddiweddar.------ Yn mis Gorphenaf diweddaf, yr oedd dwy leuad lawn, ar y laf a'r 31ain—amgylchiad na chy- merodd le o'r blaen oddiar y flwyddyn 1776, pan yr oedd lleuad lawn ar y laf a'r 3l)ain, ac ar y dydd olaf dygwyddodd diffyg nodedig, yr hwn oedd weledig yn mhob parth o'r byd adnabydd- us. Dygwyddodd diffyg eleni ar y laf o Or- phenaf. Wrth ymchwilio, gwelir i amryw ddae- argrynfàu gymeiyd lle yn Lloegr ac Ewrop yn y flwyddyn 1776, yn nghyda chawodydd trymion o wlaw.------Y mae rhai o'r alltudion Ffrengcig, ag sydd yn awr yn preswylio yn ninas Llundain, wedi ymffurtìo yn gymdeithas i'r dyben o wneyd ymosodiad rheolaidd ar ormesiaeth bresennol Ffraingc, trwy gyfrwng newyddiadur wythnosol, yr hwn a argreffir mewn tair iaith wahanol—y Ffrangcaeg, yr Allmanaeg, a'r Saesonaeg. Bydd dan olygiaeth Louis Blanc, Etienne Cabet a Pierre Leroux.------Allan o 411 o feibion a dder- byniwyd i wallgofdy sirol swydd Norfolk, yr oedd 170 yn briod, 208 yn sengl, 25 yn weddwon, ac 8 yn anhysbys. Yfl mysg 669 o ferched, yr oedd 180 yn briod, 356 yn sengl, 109 yn wedd- won,a 25 yn anhysbys.-------Gwerthwyd yn ddiw- eddar, yn Chatteau Thiery, yr het a wisgai Na- poleon, pan ar ei ryfelgyrcn i Rwssia, yn 1812, am 4,000 francs, neu £160------Mae yr agerlong " Great Britain" i fordwyo o hyn allan o Lyn- lleifiad i Awstralia. 33 u iFarto— MAI— 16eg, Mr. Abraham Williams, Maesteg, yn 63 ml. oed, wedi treulio 42 gyda chrefydd, ac o hyny 16 ml. yn flaen- or gyda'r T. C. 2üfed, Yn 70 oed, Mr. John Jones, Plas Llangwyfan, Môn. 25aiu, Mr. Edward Jones Pierce, Plas-uchaf, swydd Dinbych. 28ain, Yn71 oed, Mrs. Elizabeth Lloyd, Ty'nllan, Llan- fairneubwll, Môn. 29ain, Yn 'id oed, Mr. Thomas Hughes, paintiwr, Heol- y-mynydd, Bangor. 30nin, Miss Harriet Mason, Caernarfon. 3Uain, Yn Llanidloes, yu 34 oed, Henry Rogers, Ysw., Birmingham. 3Uain, Vn 40 oed, Mr. Richard Jones, masnachydd, Machynlleth. 31aiu, Yn 77 oed, Mr. Richard Griffîths, Maes-mawr, Clynog, Arfon. 28ain, Yn 89 oed. Mrs. Edwards, gweddw y diweddar Mr. J. Edwards, Caerwvs Hall, swydd Fliiiit. 3lnin, Yn 78 oed, Mr. Criflìth Howelis, Camlan-isar, Mallwyd. 25ain, Yn 78 oed, Mr. Micbael Williams, clochydd. Llanbedr. ger Pwllheli. 18ied, Yn 61 oed, Charles Simon, Ysw., Treffynnon. 20led, Yu 42oed, Yn Ruthiu, Mr. Thumas Pierce, can- wyllwr. 3lain, Yn 42 oed, Mr. David Grifflths, Brithdir, Ber- riew, Maldwyn. MYHEFIN— 2il, Yu 32 oed, Ellen Williams, gynt o'r Gwydryn, Ab- ersoch. 3ydd, Mr. Hugh Foultes, Bryn Grifflth, gcr Wyddgrug. 4vdd, Yn 58 oed, Mr. Williarn Joues, '• Hope House,'T Pwllheli. 4ydd. Yn 82 oed, Grifflth Jones, Ysw., Cefngwirgrig, ger Aberhosan, Maldwyn. 5ed Yn 82 oed, Mrs. Ann Prichard, gynt o Heol Pen- lan. Pwllheli. 6ed, Yn 76 oed, Mrs. Mary. Willlams, Ciltwllan, ger^ Bethesda. 7fed, Yn 72 oed, Mr. William- Evans, Naut-yr-henlyn. Llaniestyn, Lleyn. 7fed, Yn 66 oed, Mr. Wm. Lloyd, Rhosgoch, Llaniest- yn. Lteyn. 7fed, Yn 63 oed, Mary, gweddw y diweddar Mr. T. Da- vies, Paentiwr a Gwydrwr, Bangor. 9fed, Vn 33 oed, Ëlizabeth, priod Mr. Robert Pari^ henadur gyda'r T. C, yn Jerusalem, ger Bethesda. 9fcd, Yn67 oed, Mrs.Grace Edwards, Wu, Llanllyfni, Arfon. 9led, Yn 78 oed, Mr.Owen Williams, 'Rafonddur Llan- Uyl'ni. 12fedT Mr. John Williams, paentiwr, Abergele, yr hwn ydoedd bregethwr ffyddlon gyda'r Trefnyddiou Wesley- aidd. 14eg, Yn 48oed, Mr. John Jones, gynto Lanidloesrond yn ddiweddar teilhiwr trwy Ogledd Cymru, dros fasnach- ydd cyfrifol o Faenceinion. lifed, Yn 39 oed, Mrs. Evans, gwraig Mr. Evans, Cyff- eriwr, Llanbedr, Ceredigion. 14eg, Yn 70 oed, Mr. Thomns Davies, Cigydd, o'rGreen Isaf, Llanidloes. lOfed, l«lr. OwenThomas, Brynllys, Dinorwig. 15fed, Yn 71 oed, yn Mhwllheli, Mrs. Sydna W'illiams. 8fed, Yn y Waunfawr, ger Aberystwytb, Mr. David Thomas, Saer, a arferai weithio i Col. Powell, A. S. Naut- eos. 14eg, Yn 27 oed, Rachel, merch y diweddar John Ev- ans, Ysw., Castellhywel. Tradwy ar ei hol, bu farw ei chwaer Sarah, yn 23 oed. lSfed, Yn 22 oed, John, mab Richard Hughes, slopwr, Tydweiliog, Lleyn. 23ain, Yn 69 oed, Mrs. Charles, gwraig y diweddar Mr. T. R. Chai les, siopwr, Hala. 2tíain, Yn 38 oed, Mr. Owen Humphreys, Gwernoer, Llanllyfni. 29ain, Yn nhy ei dad, ger Aberaenon, y Parch. G. T. Evnns, gweinidog yr efengyl yn Penygraig, ger Caer- fyrddin. 23ain, Yn 40 oed, Mrs. Sandbach, Hafodunos, Dinbych. VN DDIWBDDAR— Yn 96 oed, Mr. W. Hughes, Saer, Biiou'rhaul, Capel Garmon, ger Llanrwal.