Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. XV. EBBILL 185 2. BHLF. 172. ARBEDIAD ISAAC. €ra*t|rnìnm. TREFN ACHUB YN GWBL O DDUW. [Barch. Olyoydd—Traddodwyd y bregeth hon vn Nghymanl'a Columbus, Wisconsin, Myheftn 13,1851, g'an y Brawd Robert Williams,* Rock Hill; ac mewn cyf- arfod neillduol yn yr un Gymanfa, rhoddodd y cyfeilliou oll gais unfrydol ar iddynt gael eu hanrhegu à hi trwy >' " Cyfaill." Oble^id nad oedd yn dysgwyl nac yn ystyried y cyfryw i ymddangos felly, teimla yn anewyllysgar i'w hanfon : tystia fod rhai ymadroddion ychwanegol yma, oblegid iddo dalfyru llawer yno wrth ei thraddodi, gan fod amgylchiadau yn galw iddo fod yn fyr.] "Yna, eb efc, wele dan a choed; ond mae oen y ■poeth-offrwm ? Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwmP Gen. xxit. 7, 8. |MDDENGYS yn yr Ysgrythyrau mai nid peth ffurfiol ydyw gwir grefydd, can- fyddwn yn yr un man hefyd, mai nid peth heb ffurfiau ydyw chwaith ; nid ydyw gwir * Gall fod Mr. Williams yn hysbys i lawer yma oedd- ent yn ddarllenwyr y "Drysorfa," yn Nghymru, yn y blyn- grefydd yn gynnwysedig mewn ffurfiau a defod- au amryw; eto ni bu canrif nac oes pryd nad yd- oedd yn eu nieddu. Mae gwir grefydd o ran ei hanfod, bob amser yr un peth ; ond o ran eî ffurfíau, ei defodau, a'i goruchwyliaethau, mae yn amrywiol a chyfnewidiol. Ffurf anmherffaith ydoedd y gyntaf ar grefydd ; yr oedd yr aìl yn rhagorach, a'r trydydd yn rhagoraeh drachefn. u Os bu yr hyn a ddilëid, mwy o lawer y mae yr hyn sydd yn aros, yn ogoneddus." Mae gwa- hanol ffurfiau ac amgylchiadau o lwyddiant yn bod ar deyrnas y diafol yn y byd hwn ; yr ydoedd yn sefyll yn ei ffurf gadarnaf yn yr oes flaeuorol i ymddangosiad Crist, oblegid nid oedd gwlad Ju- dea, yr hon ydoedd unig deml crefydd y byd y pryd hyny, ond " bro a chysgod angau." Yn yr yspaid liwn yr oedd y llewyrch nefol ar ein byd fel y goleuni gwasgaredig ar wawr creadigaeth cyn ei ffurfiad yn haul, yn wanaidd a di'effaith ; yddoedd 1840-45, fel awdwr llawer o lythyrau rhagorol a ysgrifónodd iddo o'r Iwerddon. Efe ydoedd y gwr cref- yddol a ymsefydlodd yn eithaflon yr Iwerddon, fel arolyg- wr ar weithfeydd Uechau, ag y sonia Mr. Parry, y golyg- ydd, am dano. H. Jones.