Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. XV. IONAWB, 1852. EHIF. 169. - Tuooa irmmir *eo., SWYDDFA Y "CYFAILL. ARGRAFFWAITH Y " CYFAILL." |CHOD yr ydyra yn anrhegu ein dar- llenwyr â golwg allanol o Swyddfa Ar- graffyddoly '« Cyfaill." Dichon y ce'wch fyned i mewn ryw dro, ondrhaid i chwi ymfodd- loni ar sefyllfa y tu allan y tro hwn. Llëoldeb yr adeilad yw congl héolydd Nassau a Spruce. Yn y llofft uchaf oll y mae darlleniad y " Cyfaill" yn cael ei gyssodi, ]le y ceir y goleuni puraf a dysgleiriaf. Ar y trydydd llawr, o dan y lline]], Baker, Godwin ŷ- Co., y mae y papyr-leni yn myned dan y Wasg agerawholwynawg, ac yn derbyn argraff y llythyrenau mewn ingc. Er y gallai ambell un feddwl nad oes ond ychydig o drafferth gyda chyhoeddiad misol, y mae yn cam- gymeryd yn fawr. Beth pe baem yn cynnyg am * Carwn weled cyhoeddwyr y papyrau Cymreig ereill yn dangos i'w darllenwyr ddurluniau o'r sliantccs lle yr argreffir eu cyhoeddiadau. Cysodydd. ctr. xv. 1 unwaith ddyweyd trwy ba nifer o ddwylaw y mae yn rhaid iddo fyned cyn cyrhaedd ei dder- bynwyr? Yn mlaenaf rhaid i'r Golygydd dder- byn ysgrifion o rywle, neu eu cyfansoddi ei hun; a pha faint oedd y gwewyr cyn esgor ar yr ys- grif, y pha sawl awr o gwsg a gollwyd, a pha fath oedd y pryder wedi ei gollwng gyda y Post, rhag na welai'byth oleu y dydd, ydynt bethau a ad- awn allan ; ond, dy wedwn fod y Golygydd wedi ei derbyn, y peth nesaf yw ei darllen, os medr, ac yna pasio barn arni, cymeradwy neu anghy- meradwy ; os yr olaf, nid rhaid myned yn mhell- ach, diwedda ei phererindod yn y tân-gell; ond os cymeradẃy, y peth blaenaf yw penderfynu ei sefyllfa, gyda'r Traethodau, Hanesynau, Celfydd- ydau, Gohebiaethau; &c, dan sylw yr Hen Dderwydd a'i delyn yn Nghongl y Bardd, neu gyda'r Hanesion Cartrefol neu Bellenig. Wedi hyny caiff y cysodydd hi i'w law bob yn dipyn, ac ar ol ei chysodi, ei harolygu, ei hadolygu, a'i pherffeithio, gosodir hi gyda ei chymdeithiön, o dan yr ager-beiriant, i ddangos ei gwyneb mewn du a gwyn ar bapyr, fel y crybwyllwyd o'r blaen. Yna rhaid sychu y papyr-len, ei llyfuhau gan