Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*Sf 'Î\ÍÇ|*S1 Rhip. 4.1 EBRILL, 18 4 9 [Cyp. XII. G A L O N R G W A E D . 10LVBOJIB. a, Y ceudawd aswy ; 6, y ceudawd deau; c e f, y gorwythen, y rhedweli fawr sydd yn taro ymaith oddiwrth y ceudawd àswy; g h i, y rhedwelìau a anfonir oddiwrth fwa y gorwythen; k, y rhedweli ysgyfeinniawl, sydd yn rnyned oddiwrth y ceudawd deau i'r ysgyfaint; 11, cangenau o'r rhedweli ysgyfeinniawl, yn myned i ddwy ochr yr ysgyfaint; m m.y gwythenau ysgyfeiniaw], y rhai a ddygant y gwaed yn ol o'r ysgyfaint i ochr aswy y galon; n, j glusten ddeau; o, y gwythen gau {vena cava) esgynawl; q, y disgyuawl: cyfarfydda y ddwy hyn, a thrwy eu huniad ffurfiant y giusten ddeau; p, y gwythenau o'rafu, y ddueg, a'r ymysgaroedd ; s, y rhedweli goronawl aswy, ^n o'r rhedweì'iau a feithrinant y gaion. Yr ydym yn cyflwyno ì sylw ein darllen- wyr yn awr oìygfa o'r gaìon ddynol, y peiriant îhyfeddaf perthynol i goríF y cr.eadur rhyfedd ác ofnadwy ei wneutlmriad, sef dyn. Nid ydyw y galon gymaint ag y'i dangosir yma; yn gyffredin nid yw yn fwy na dwrn ei pherchenog. Ond y mae anhwylderau a phethau eraill yn ei mwyhau ac yu ei lieihau. Ei sefyllfa yw ychydig yn uwch ac i'r deau Cyf. xu. 7' o'r lie y!i teimlir yn curo. Mae ei churiadau yn deimladwy i bawb. Cura y galon oblegid ei bod yn gau—neu yn hytrach o herwydd fod ynddi bedwar ceudawd (ventricles), y rhai a gynnwysant waed. Ond nid yw y gwaed yn y galou yn aros yn llonydd: mae yn rhedeg i mewn ac yn llifo allan yn bar- haus drwy bibellau cau, a elwir rhedweliau a gwythenau. Mae gwaed coch tywyll yn