Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

If Rhip. 1.] IONAWR, 1849, [Cyp. XII. YR ENETHIG a'r ADAR BACH. Mae llawer obleidwyrgwresocaf y ' Cyfaül,' yn enwedig pleidwyr y darluniau, yn blant bychain ; o herwydd hyny yr ydym yn teimlo rhwymau arnom i roddi darlun yn awr ac eilwaith priodol iddynt hwy eu hunain. Uchod y mae golygfa hoffus iawn ; geneth- ig fechan, bert dros ben, yn porthi adar bach yr eira, yn y gauaf oer. Chwi welwch ei bod yn nyfnder y gauaf; mae y coed oeddent yn wyrddion a ffrwythlon ychydig fisoedd yn °1) yn hollol noeth a di-íFrwyth, a'r ddaear wedi ei gorchuddio á mantell wen. Mae hi yn fyd caled ar yr adar bach, y mae yn an- hawdd caeî pryfyn na hedyn i gadw eu hun- ain rhag newynu. Eto y maent yn canu yn beraidd ar y hwyni noethion. ' Fa fodd yr ydych yn gall- a-el canu mór foddlawn, adar bach? A oes genych ymborth wedi ei ddarparu dros y gauaf?' 'Nag oes genym ni: ni fuom yn hau nac yn medi, ac nid oes genym ys- gubor na thrysorfa.' < Pa fodd ynte yr ydych mòr daweí, adar bach?' 'û mae yr Hwn Cyf. xii. i a'n gwnaeth yn gofalu drosom, ac nid ydym yn rhoddi lie i anghrediniaeth du, ond yn canu moliant i'n Cynnaliwr galluog.' Wele acw ferch fechan wedi cael calon i dosturio wrth yr adar bach. Mae hi wedi arfer eu porthi, am hyny nid ydynt yn ei hofni, ond yn rhedeg i'w chyfarfod. Y peth cyntaf ar ei meddwl bob boreu, wedi bod ar ei gliniau, fydd rhedeg a bwyd i'r adar bach. Un fach dyner-galon iawn yw yr eneth í'echan yma. Gwelsom hi pan oeddem yn y wlad wythnos neu ddwy yn ol. Mae hi yn ufudd iawn i'w mam hefyd, yn gwneyd pob peth ar y gair cyntaf, ac nid y w un amser yn groes. Yr oedd lesu Grist yn hoffì plant bychain, pan yn y byd yma: a bydd myrddiynau o honynt yn addurnaw ei goron mewn gogon- iant. Canwn fel hyn yn awr:— Pa le yr âi yr eneth syw, Mòr gyflym ar dy daith? I borthi'r adar tlysion bach, Y gauaf oer sy'n faith.