Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newspaper. | Edited by W. ROWLAIVD§, IVew-York. í Rhif. 12.] RHAGFYR, 1845. Pkice One Dollar a year, fayable in advance. [Cyf. VIII. dr *fg bìrol. A It A E T H Y DR. MERLE ü'aUBIGNE, O GENEYA, 0 FLAEN CYMANFA GYFFREDINOL EGLWTS RYDD YS- GOTLAND, MAI 28AIN, 1845. (Parhad o du dal. 164.) Barchedig frodyr, pan ystyriwyf ynghylch Ys- grif Maynooth yn myned trwy Gynghorau y deyrnas alluog hon,—a plian edrychwyf ar amryw weith- rediadau ereill—yr wyf ymron dweyd yr un fath:— ' Collasom y frwydr—ond y mae genym amser i en- nill un arall.' Ar bob llaw mae y llywodraeth yn encilio, yn rhedeg ymaith oddiwrth ryfeloedd yr Arglwydd. Eglwys Dduw, dyred yn mlaen! Bydd- ed i ni, fel Daiydd yn erbyiWjoliath, fwrw ymaith yr helm o bres a'r llurig, a chymeryd y ffon dafl a'r pum' careg, a dywedwn wrth Rufain, ' Tydi wyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, â gwaywffon, ac â tharian; a minau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a o-eblaist ti.' Gallai fod yn llesol i'r Eglwys golli cynnorthwy y wladwriaeth—braich o gnawd. Os yw y Llyw- odraeth yn gadael yr Eglwys, bydded i'r Eglwys gyfodi gyda nerth. Gorchwyl yr Eglwys yw casglu holl dylwythau y ddaear yn un teulu. Ei dyled- swyddau ydyw casglu yn un corff yr aelodau sydd yn bresennol yn wasgaredig dros wyneb yr holl ddaear. Yn awr, daeth yr adeg, yr adeg bennodol i gyflawni y gwaith mawr hwnw. Rhaid i'r Eg- lwys Gristionogol yn awr alw ar yr holl rai hyny a brynwyd gan yr Oen i Dduw,' allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl.' Ond pa íodd ygall yr EglwysGristionogolddwyn yr holl iÿd i'r fath undeb gwirioneddol, os bydd ei chylch teuluaidd ei hun yn cael ei flino gan ymran- ^adau ? Nid ydym yn oíni am yr eglwys, canys mae yr Oen wedi gorchíygu. Buddugoliaeth yr Oen yw buddugoliaeth yr Eglwys. Nid oes nerth digon galluog i'w dwyn aüan o'i law ef. Ond rhaid i'r Eglwys ymgais am fuddugoliaeth drwyadl yn nghyflawniad ei gwahanol ddyledswyddau. Dyled- swydd gyntaf yr Eglwys yw cenadaeth—cenadaeth efengylaidd; aç hyd derfynau y ddaear yr â Crist- ionogion i bregéthu yr eíengyl i bob crëadur, Ail ddyledswydd yr Eglwys'yw cyffesu ; ac hyd derfyn- au y ddaeas y bydd i Gristionogion gyffesu Crist yn ngwydd dynion. Ond trydedd ddyledswydd yr Eg- lwys yw cymundeb—cymundeb catholicaidd; ac os oes undeb mewn rhai pyngciau yn yr holl gyffesiad- au Cristionogol, onid oes ynddynt hefyd nid yn unig wahaniaeth, ond gwrthddaliadau ? Hyn sydd yn wTendid mawr yn nghorff yr eglwys. Y gwaith a gynygiaf, gan hyny, i'r Eglw'ys Rydd Bresbyteraidd ydyw ymdrechu i gynnal cymundeb cyffredinol yr Eglwys. Yr wyf yn gosod y gwaith o flaen y Gymanfa. Ond bydded i ni iawn-ddeail y mater. Y catholiciaeth sy i'w adferu nid yw seci- aidd, ond cyffredinol, Y mae catholiciaetìi sectar- aidd ag y bydd yn rhaid i ni yn gyutaf ei osod o"r neilldu. Y cyntaf sydd yn d'yfod o'r dwyrain, sef eiddo Eglwys Groeg. Y Groegiaid a haerant na oddefodd eu traddodiadau hwy unrhyw gyfnewidiad, ac na chwanegwyd dim atynt, fel y gwnaed i dra- ddodiadau Eglwys Rufain; am hyny gaìwant eu hunain yr Eglwys uniawn-gred, ac edrychant ar bawb ereill fel cyfeiliornwyr. Yr ail gatholiciaeth caeth sydd yn dyfod o Rufain ; yr ail yn unig yw, nid y cyntaf, ac ni bu ysbryd mwy sectaraidd yn hôni yr enw catholicaidd erioed. Y trydydd cathoi- iciaeth sectaraidd sydd yn dyfod o Rydychain. Yr wyf yn deall fod plaid fechan sectaraidd hyd yn hyn ag sydd yn galw ei hun yr Eglwys Gatholic yn Scotland. Yr wyf yn ofni y bydd i gatholiciaeth sectaraidd Rhydychain, gyda 'i lioll heresiau, a'i holl ynfyd- rwydd, gael ei chadw yn fyw gyhyd ag y bydd i Uchel-Eglwyswyr Lloegr roddi cymaint pwys ar yr hyn a alwant yn olyniad apostolaidd ac urddiad es- gobawl—pyngciau nad oes grybwylliad am danynt yn yr erthyglau. Gellid crybwyll yn mhellach am gatholiciaeth caeth a ddelir gan rai Lutheriaid manwl,—gan Swedenborg, gyua'i Jerusalem Newydd, a chan am- ryw fân sectau ereill,—yr oll o ba rai a ddywedant, fel Eglwysi Groeg a Rhufain,' Genym ni y mae gwir gatholiciaeth.' Ond gadawn ar hyn. Mae yr achos o'r catholiciaeth allanol hwn bob amser yr un. Y dylai yr Eglwys fod yn un a addefir gan bawb. Ond pan na byddo undeb yn gynnwys- edig mewn bywyd, rhaid iddo fod mewn ft'urf. Mae pob catholiciaeth gyfeiliornus, sectaraidd yn cael ei achosi gan ddiffyg Ysbryd Crist yn nghorff yr Eg- lwys; diffyg cariad, flydd, a gobaith—mewn gair, diftÿg bywyd. Wel, os ydyw catholiciaeth gau yn cael ei acliosi drwy ymadawiad yr Ysbryd, rhaid i wir gatholic- iaeth gael ei adferu drwy ddychweliad yr un Ysuryd yn ol i'r Eglwys. Barn yr Eglwys, yn ol Groeg, Rhufain, a Rhydychain, ydyw, fod yr Egl wys gyntaf