Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. AWelshNewspaper.| Edited by W. BOWJLANDS, New-York. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1845. PRICE ONE nOLLAR A YEAR, PAYABLE IN ADYANCE- [Cyf. VIII. € x t f £ b b o l. A R A E T II Y DR. MERLE d'aUBIGNE, O GENEVA, O FLAEN CYMANFA GYFFREDINOL EGLWYS RYDD YS- GOTLAND, MAI 28AIN, 1845. O'r ' Drysorfa.' Mawr oedd y pryderwchalanwai fynwesau can- noedd lawer o grefyddwyr yn Ysgotland. pan ddeall- asant fod un o'r gwyr mwyaf yn y byd, ag sydd a'i enw múr adnabyddus dros holl wledydd cred—y Parch. Dr. Merle D'Aubigne, o Germany—yn dyfod i ymweled â'r Eglwys Rydd yn Ysgotland. ac i gy- meryd rhan yn ngweithrediadau ci Chymanfa. xr oedd y gair wedi myned ar led yn gynar y byddai y Dr. Chalmers, yn cyflwyno i sylw y Cyfarfod dri o weinidogion enwog oddiar y Cyfandir—y Parch. M. Monod, o Paris, y Parch. Mr. Kuntze, o Berlin, a'r Parch. Dr. D'Aubigne ; ac o herwydd hyny yr oedd pob cwr o ystafell y cyfarfod wedi ei llenwi gan ddynion awyddus am welcd y ddau weinidog hyny i Grist, ag sydd a'u henwau ar daen mór adnabyddus dros Ewrop a'r byd—Dr. Chalmers a Dr. D'Aubigne —yn sefyll ochr yn ochr yn nghanol gosgordd o weinidooion urddasol a duwiol ereill. Yr oedd Cymanfa Eglwys Sefydledig Ysgotland wedi anfon gwahoddiad i'r hanesydd hynod hwn, Dr. D'Aubigne, i ymweled â hwythau : ond efe a wrthododd, gan ddywedyd, mai at Eglwys Rydd Ysgotland yr oedd ei gennadwri ef: ac nad oedd efe wedi dyfod i ymweled â chorjf eghcysig yn cael ei gynnysgaethu gan lytoodraeth y wlad. Na, daethai i estyn deheulaw cymdeitlias i ddilynwyr Knox, y rhai oeddynt gynnulledig o fewn muriau diaddurn Canon Mills, â miloedd o bobl yn bresennol yn eu Cymanfa ; ac nid yn nghanol pinaclau heirddwych, a thô addurnawl, Ŷictoria Hall. Yr oedd araeth Dr. Chalmers, wrth gyflwyno y Parchedigion i sylw y Cyfarfod, yn llawn o'r medd- wl tanbaid, a'r galluoedd cryfion, ag sydd eisoes wedi hynodi y gwr parchedig hwn. Ond yr oedd arwyddion amlwg nad oçdd cydymaith ei enaid— sef ei gorff—mór fywiog a heinyf ag ydoedd fisoedd yn ol. Achwynai hefyd am nad oedd ganddo nerth a gallu i wneyd cyfiawnder i'r hyn oedd ganddo mewn llaw. Wedi i'r gwr parchedig eistedd i lawr, dilynwyd ef gan y Parch. M. Monod, o Paris; ac W ei ol, cyfodai gwr tal, cryf yr olwg arno, ac oddeutu canol oed, i gyfarch y gynnulleidfa. Yr oedd gwêdd ei wynebpryd yn siriolaidd, eto yn wrol, a'i dalcen yn ardtlangos galluoeddmeddyliol cryfion iawn. Hwn ydoedd y Parch. Dr. Merle D'Aubigne, araeth pa un a ddodir yn awr o flaen y darllenydd. Ar ei ymddangosiad ar yr esgynlawr, gwnaed i bob congl o'r tŷ adseinio gan floeddiadau o gymer- adwyaeth a chroesawiad : ac wedi ymlonyddu o'r dyrfa ychydig, efe a ddechreuai fel hyn :— ' Myfi a ddaethym o Geneva, ac yr wyf yn awr yn Scotland. Ni ddaethum o Geneva i Scotland, yn unig i weled eich gwlad, i edrych ar eich huchel- diroedd, nac i ymddyddan â'ch trigolion. Na, myfl a ddaethum ar neges arall yn hollol. Oddeutu tair cannrif yn ol, daeth gwr o Ffrainçrc i'n dinas ni wrth droed mynyddoedd yr Alps, ar fin Llyn Leman, ac yno y planodd faniar ygwirionedd. Ei enw oedd John Calfin. Efe a gyhoeddai yno à llais nerthol,na chyfiawnheir dyn ond trwy ffydd yn ngwaed yr Óen yn unig—ac nid oes un traddodiad dynol—na gweitíired, nac olyniaeth dynol ychwaith, yn llesâu dim yn Nghrist Iesu; ond crëadur newr- ydd. Ac efe a wnaeth ein Geneva fechan yn am- ddiffynfa y gwirionedd. Rai blynyddoedd wedi hyny, daetíi gwr arall ar draws y Jura i'n gwlad odidog. Daliwyd ef yn Nghastell St. Andrew, ac a ddiang- odd o'r wlad yr ydym ynddi yn awr. Hyrddiwyd ef allan o Loegr a Scotland gan gynddeiriogrwydd yr Offeiriadau Pabaidd, a gorfodwyd ef i encilio i Ge- neva. Ei enw oedd John Kno.\. Yno yr ymgofleid- iodd y gwyr hyn eu gilydd fel brodyr. John Knox a ysgydwai íaw â John Calfin—cynnrychiolydd Scotland â'r gwr o Geneva. Cafodd Jolin Knox yn Calfin, nid yn unig yr athrawiaeth bur a dderbyn- iasai yn barod oddiwrth Dduw, ond hefyd, yn lle llywodraeth esgobyddol, yn ol cynllun yr eglwys Gristionogol fel y sefydlid hi yn yr Ymherodraeth Rufeinig; y drefn Bresbyteraidd ag oedd yn fwy unol a sefyllfa yr eglwys gyntefig. A thra bu Knox yn ein dinas ni, efe a sylwai ar, ac a gymeradwyai y gyfundrefn hon ; a phan y daeth yn ol atoch chwi, i Stirling a Pherth, a phob man hefyd, i gydgyfran- ogi â'i gyfeillion yn y peryglon cyffredinol, ac i'w cynnorthwyo yn yr un achos cyffredinol, efe a gyf- lwynai i'ch tadau yr hyn a welodd yn Geneva. ' Wel, anwyl gyfeillion a brod)T, yr wyf yn can- fod yn y Gymanfa hon ddilynyddion Knox a'i bobl. Mae Eglwys Rydd Bresbyteraidd Scotland yn awr o'm blaen, ac mi a ddaethym o Geneva i ro'i deheu- law brawd i chwi—i ysgwyd llaw â chwi. Mi a wn mai cynnrychiolydd gwael o Geneva ydwyf fi. Gwn nad wyf deilwng i ddwyn esgidian Caltìn : ond y mae genyf ffydd Calfin—mae genyf achos Calfin—