Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newspafer. j Ediled by W. ROWLAPÍD8, IYcw-Yorfc. | Rhif. 9.] M E D 1, 1 8 4 5 . Phice One Dollar a yeab, payable in adyance- [Cyf. VIII. € r ef g ìr b o l. IAITH ALLEGAWL YR YSGRYTHYRA.U. Gwelodd Doethineb dwyfol yn dda, wrth lefaru yr Ysgrythyrau Sanctaidd, wneyd defnydd o bethau gwelecíig a theimladwy, fel arwyddion a ffugiau i osod allan bethau ysbrydol trwyddynt. Ymostyng- odd i gymeryd y dull hwn o lefaru o achos na allem ni ddeall pethau ysbrydol ond trwy dderbyn ein hamgyffred am danynt trwy gyfrwng pethau neu wrthddrychau hysbys i'n synhwyrau a'n teimladau naturiol. Mae yn amlwg nad allai iaith yn unig ddyfod â phethau ysbrydol yn gydwastad âg amgy- fired naturiol dyn yn ei sefylifa bresennol; ac i wneyd i fyny y diffyg y mae bron holl walianol ran- au y grëadigaeth weledig, o'r goleuadau mawrion a lywodraethant ddydd a nos hyd yr hedyn mwstard a guddir yn y ddaear, yn cael eu defnyddio gan ys- gnfenwyr yr Ysgrythyrau fel cynnorthwyon i iaith i oeod allan bethau anweledig byd yr ysbrydoedd yn glir a goleu o flaen y meddwl. Y dul] allegawl h wn a arferid bron yn gwbl gan Iach- awdwr y byd i osod allan bethau yr Efengyl o flaen ei wrandawwyr. Yn ei ddamhegion digymhar, mae yn eu cyfeirio at bethau ydoedd o flaen eu llygaid bob dydd, i arwain eu meddyliau at bethau ysbrydol. Arferai y dull hwn, nid fel peth priodol i'r genedl Iuddewig a'r gwledydd dwyreiniol yn unig, ond fel pethau priodol i'r natur ddynol yn mhob oes a gwlad. Yr oedd yn defnyddio math o iaith ag oedd i gael ei chario i'r holl fyd, ac sydd yn cael ei harfer o ang- henreidrwydd yn ein hoes a'n gwlad ni, ac heb yr hon byddai yn anmhosibl dyfod â phethau hollol ys- brydol o ran eu natur o fewn cyrhaedd deall ac am- gyfrred naturiol dyn. Mae bendithion ysbrydol yr Efengyl yn fynych yn yr Hen Destament yn cael eu darlunio trwy gy- ffelŷbiaeth o bethau natur, y rhai nid ydynt wirion- edd oddyeithr eu cymeryd mewn ystyr allegawl. Cymerwn yr un a ganlyn fel enghraiflt. 'Pob nrynydd a bryn a ostyngir, yr anwastad a wneir yn wastadedd,' &c. Ni welwyd erioed, a di'au na welir byth ychwaithi mo hyn yn cael ei gyflawni mewn ystyr lythyrenol, ond mewn ystyr allegawl mae yn cael ei ddwyn yn mlaen yn feunyddiol o dan oruch- wyüaeth yr Efengyl. Mae mawredd a doethineb y byd yn cael ei ddarostwng, yr isel a'r gostyngedig yn cael ei ddyrchafu, flỳrdd ceimion pechadur yn cael eu hunioni, a thymherau geirwon dyn yn cael eu gwastadhau trwy rinwedd Efengyl gras. Nid allwn yn bresennol ond megys cyflwyno y darllenydd ieuangc i'r maes ehang hwn, trwy geisio nodi allan ychydig nifer o'r rhai mwyaf amlwg o gyflèlybiaethau y Bibl. Yn fynych defnyddir yr haul naturiol i roddi i ni ryw ddrychfeddwl am Dduw yn ei fawredd a'i ogoniant anfeidroi. Nid ydyw sŵn y gair Duw yn rhoddi i ni nemawr o amgyfl'red pa fath ydyw L)uw, a phe gallem ddilyn treigliadau y gair trwy y gwahanol ieithoedd, hen a diweddar, ni chaem ddim ond sain, yr hyn nid yw yn cyrhaedd yn mhellach na'r glust, ac felly yn ein gadael bron yn yr un man; ond pan y dy wedir ' Duw sydd haul a tharian,' wele belb.au yn dyfod i gynnorthwyo geiriau, yna yr ydym yn gallu amgyffred fod y Bod a arwyddir trwy y gair ' Duw' yn nerthol, yn ddys- glaer,yn anfesurol, yn Awdwr goleuni, yn Ffynnon bywyd, ac yn Amddiffyn diogel rhag y gelynion. Yn iaith y prophwydi gelwir Crist yn Haul Cyfìawn- der; ac fel y mae yr haul naturiol yn adfywio gwyneb y ddaear, ac yn adfer y grëadiiaeth lysieu- ol megys o farw i fyw yn nhymor gwanwyn y flwyddyn, felly y mae Crist gwedi ymddangos i ad- feru bywyd i iÿd colledig; ac y mae llewyrch siriol ei wyneb bob amser yn llúni ac yn adfywio ei eiddo. Nid anfynych y defnyddir y lloer fel cynllun o Eglwys Crist. Mae ei hadnewyddiad bob mis yn gosod allan adnewyddiad yr Eglwys ar wahanol dymhora'i, ac fel arwydd o hynefallai yr ordeiniwyd cadw gwyliau ar y newydd-Ioer o dan y ddeddf ser- emoniol,' yr hon oedd yn gysgod o'r daionus bethau iddyfod.' Gelwir gwreinidogion yr Efe-ngyl yn Llyfr y Dat- guddiad yn sêr, o herwydd eu bod. fel canwyllau goleu yn neheulaw Crist.yn dalgoîenni i fyd tywyll mewn ystyr ysbrydol, fel y mae 'r sêr yn lliniaru ty- wyllwch y nos mewn ystyr naturiol. Defnyddir y gwynt, yr hwn sydd yn chwythu lle y myno ei hun, yn ddarlun o'r Ýsbryd Glân yr hwn sydd yn gweithio yn benarglwyddiaethol a dirgelaidd, eto yn rymus ac effeithiol, ar galon pechadiir ; ac hefyd i osod allan fod gwaith yr Ysbryd ar yr enaid mór anghenreidiol i fy wyd ysbryd'Ôi ag ydy w y gwynt neu yr awyr i fywyd naturiol y corlì. Cawn ei lbd ar ddydd y Pentecost yn disgyn ar y' Saint fel gwynt nerthol yn rhuthro.' Mynych y mae 'r elfen ddwfr, yr hon sydd yn rhinweddol i buro a glanhau y corff, yn cael ei def- nyddio i arwyddo glanhad yr enaid oddiwrth halog- rwydd pechod. « Yna ty^valltaf arnoch ddwfr glân fel y byddoch làn,' &c, ' Golch fì,' meddai y Salm- ydd,' a byddaf wynach na'r eira.' Mae dwfr hefyd yn rhagorol i ddisychedu ac adfywio y lluddiedig, ac yn yr un ystyr y mae athrawiaethau gras yn adfywio ac yn cryfhau yr enaidgwan a lluddiedig ar eî daith