Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A WELSH NeWSPAPER. > Edited by W. BOWLANDS, New-York. C Pkice Oxe Dollar a year l TAYABLE IN ADYANCE. Rhif. 8.] AWST, 18 4 5. [Cyf. VIII. Y CADFRIDOG ANDREW JACKSOIV. BRASLUN BÜCHWEDDAWL. Ganwyd Andrew Jaciíson ar yr 16eg o Fawrth, 1767, yn Sefydlfa Waxhaw, Carolina Ddeheuawl. Ymfudwyr oedd ei rîeni o barth gogleddol a Phro- testanaidd Twerddon, a ymsefydlasent yn ylle uchod ddwy íîynedd cyn hyny, lle y dilynent yr alwedig- aeth lafurus o drin y ddaear. Yn fuan wedi gened- igaeth Andrew Jackson, bu farw ei dad, gan ei adael ef a dau frawd hynach yn wrthddrychau gofal eu mam, benyw, yr hon, fel yr ymddengys, a feddiannai lawer o rinweddau ei hystlen. Y dreftadaeth a ad- awsid gan dad Jachson nid oedd ond bechan—rhy fechan i roddi llawer o addysgiant i'r tri mab; pen- derfynwyd gan hyny i'r mab ieuangaf gael ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth, tray byddai i'r brodyr, Hugh a Robert, ddilyn galwedigaeth eu tad. Andrew, tnewn canlyniad, a anfonwydiysgollwyddiannus yn y sefydlfa, Ile yr arosai yji brysur gyda'r ieithoedd meirwon nes i'r Rhyfel Chwyldrüawl ddwyny gelyn i'r gymydogaetl). Daeth yn anghenreidiol yn awr i hyd yn nod fechgyn gario y dryll, ac yn yr oedran tyner o bedair-ar-ddeg, yn cael ei galonogi gan ei f tm wladgarol, Jackson ieuangc, yn nghyda 'i ddau frawd, a chwiliasant allan restrau y fyddin Americ- anaidd, ac a osodasant eu hunain dan eu banierau. Corfodwyd y llu, gyda pha un yr oedd y tri Jack- son, i gilio o flaen llu mwy o eiddo y Prydeiniaid, a chymerwyd y rhan fwyaf o honynt yn garcharorion ; ond Jackion ac un o'i frodyr (lladdesid y llall) a ddi'- angasant, ond dranoeth, wedi myned i dÿ cyfaill i gael bwyd, daliwyd hwy gan gyfeillach o yspail-filwyr. Adcoddir hanesyn am ymddygiad Jackson ar yr ach- lysur. Parodd swyddog Prydeinig iddo sychu ei íotasau. Yntau a wrthododd yn benderfynol, gan ddangos y mynai y driniaeth ddyledus i garcharor rhyfel. Trwy ei fod yn parhau i wrthod ufyddhau i'r swyddog, yr olaf a gynddeiriogodd, a chan dynu ei gle Idyf a gynnygiodd at ben Jachson ieuangc. Derbyniodd Jackson yr ergyd ar ei law chwith, yr hon a glwyfwyd, a charioddy graithi'w fedd. Hollt- wyd siol ei frawd am gyffelyb ymddygiad, yr hyn wedi hyny a achosodd ei farwolaeth. Y ddau frawd a gymerwyd i Camden, lle y'u car- charwyd hyd ar ol brwydr Camden, pryd y cawsant eu rhyddhau trwy ymdrechion mam serchog. Y lenyw wrol hon a fu farw yn fuan wedy'n ger dinas Cliarleston, lle yr aethai ar neges o drugaredd—es- ^wythâd carcharorion Americanaidd. Brawd arall Jackson hefyd a fu farw tua'r un amser, gan ei adael ef heb gyfaiil yn y byd. Terfynwyd y rhyfel: a Jackson, wedi myned i gyfeillach rhai dynion ieuaingc cyfoethog a phen- rydd iawn o Charleston, a aeth gyda hwynt adref. Yn y fath gyfeillach, ni pharhâodd ei dreftadaeth ond ychydig—ac yr oedd ei foesau yn llygru yn gyf- lym. Cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar, modd byn- ag trwy ymgais, egniol tôrodd oddiwrth ei gyfeill- ion; ac yn ngauaf 1784, yn ddeunaw oed, aeth i Salisbury, Carolina Ogleddol. a dechreuodd astudio tuag at fod yn gyfreithiwr. Yn mhen dwy flynedd, cafodd ganiatâd i ymarfer â'i alwedig-aeth, ond gan na hoffai Salisbury, ymfudodd i ddwyrein-barth Ten- nessee; ac wedi hyny i Nashviiìe, yn mha le, yn 1788, y sefydlodd ei hun ynbarhaus. Yma y cafodd ddigon o waith ac elw, a darnododd ei hun yn mhlith y milwyr dinasyddawl, ac fel y gwrolaf o wrolion y ile. . Yn 1796, etholwyd ef yn un o aelodau cynnadledd cynnulliedig i ffurfìo Cyfansoddiad i'r Dalaith. Y flwyddyn ganlynol, anfonwyd ef i'r Gydgynghorfa (Co?igress,) i Dŷ y Cynnrychiolwyr, a'r tìwyddyn wed'yn cafodd ei neillduo yn aelod o SeneddryTal- eithau Unedig. Rhoddodd hyny i fyny, modd byn- ag, yn yr un tìwyddyn. Trayr ydoedd ynWashing- ton, darfu i filwyr cartrefol Tennessee, heb ymgyng- hori âg ef, ei ddewis yn Uch-gadfridog, yr hon swydd a gyflenwodd hyd 1814, pryd y derbyniodd yr un graddiad yn y fyddin rëolaidd. Yn ddioed ar ei ddychweliad o'r Gynghorfa, gosodwyd ef yn un o ynadon Uchaflys Tennessee. Cyaierodd arno ddyl- edswyddau y swydd hon yn anewyllysgar, ac a'u rhoddodd i fyny gan gynted ag y geilai, yn gyfleus, gan ymneillduo i'w dyddyn ar afon Cumberland, tua deuddeng milltir uwchlaw Nashville. Yma yr aros- odd yn dilyn ac yn mwynhau pleserau amaethyJdol, nes i'r newydd am ryfel â Phrydain Fawr, yn 1812, ei alw unwaith drachefn i wasanaeth ei wlad. Ym- laddodd lawer o frwydrau yn fuddygoliaethus â'r Indiaid yma a thraw, y rhai a ymosoden^ dan gyn- hyrfiadau y Llywodraeth Brydeinig; oncl y frwydr fwyaf nodedig a ymladdodd erioed, ac yn yr hon y dangosodd fedrusrwydd rhyíelaidd o radd tra uchel, ydoedd brwydr Orleans-Newydd, yn yr honyr ennill- odd fuddygoliaeth glodfawr ar y Uuoedd Prydeinig. Dychwelodd i'w dyddyn drachefn hyd y íiwyddyn 1824, pryd y cynhygiwyd ef fel cydymgeisydd am gadair Lywyddol y Taleithau Unedig*; ond methodd y trohwn. Safodd drachefn yn 1828, ac etholwyd ef i'r swydd. Arosodd yn Llywydd hyd y flwyddÿn 1836, trwy ei ailetholiad yn 1832. Ar ei ymadawiad o swydd uchel y Llywyddiaeth, dychwelodd i'w gartref gorwych y ' Meudwygell' (Hrmitage,) lle yr arosodd hyd ei farwolaeth. Yr oedd person y Cadi'ridog Jackson yn dál a