Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newspaper. 5 Edited by W. ROWLANDS, IVew-York. C Price Oxe Bollar a year, ( PAYABLE IN ADVANCE. Rhif. 5.J M A I, 18 45. [Cyf. VIII. ADFERIAD YR IUDDEWON. Yr ydys wedi cyhoeddi Araith Mr. Mordecai M. Noah ar Adferiad yr Iuddewon, yr hon a draddod- wyd gan yr Iuddew enwog hwn, rai wythnosau yn ol yn y Tabernacl. Wrth ei darllen cawsom ein ìlóni yn fawr yn yr amlygiad a ddangosai fod yr hen genedl yn colli graddau o'u cenfigen at eìn Har- glwydd Iesu Grìst. Cyfaddefant yn awr ei fod yn ddyn da, ac yn ddiwygiwr mawr, ac mai o herwydd dywedyd gormod yn erbyn arferion pechadurus y penaethiaid Iuddewig y gosodwyd ef i farwolaeth. Dyben yr araith oedd ceisio cynhyrfu pobl y Tal- eithau Únedig i ymdrechu gyda'r awdurdodau Tyrc- aidd, fel y caffai yr Iuddewon berchenogi tiroedd yn Palestina. Wedi hyny clywsom fod cymdeithas wedi ei ffurf- io yn Llundain, tua 'r un amser, yr hon a elwir ' Cymdeithas Brydeinig a Thramor er dwyn yn mlaen Adferiad y Genedl Iuddewig i Balestina.'— Bwriedir cyfiawni y dyben yma trwy ymdrechu i gymhell y Llywodraeth Brydeinig i gymeryd yr Iuddewon yn Palestina dan ei hamddiffyniad neill- duol; i ammodi â'r awdurdodau Tyrcaidd dros an- nibyniaeth y wlad hono, dan amddiffyniad Lloegr a'r galluoedd mawrion a allant gytuno yn y cynllun ; ac i gynnorthwyo, ac i alw ar y byd Cristionogol i gynnorthwyo, yn nhrosglwyddiad teuluoedd Iuddew- on tlodion, awyddus i ddychwelyd i wlad eu tadau, i'w gosod ar y tir dan arolygiaeth goruchwylwyr amaethyddol medrus, a darparu iddynt hâd, offeryn- au amaethyddiaeth, a bwydydd nes cael i mewn eu cynhauaf cyntaf.—Llwyddiant i'r cynllun; a bydded i Loegr ac America gydymdrechu yn y gorchwyl haelfrydig. Nis gallwn lai na chredu fod adferiad yr Iuddewon yn ymyl, ac y mae y cynllun hwn yn ymddangos yn dra phriodol i gael hyny i ben. Mae y tir a ddylai fod yn meddiant yr Iuddewon, wedi ei dderbyn trwy weithred o'r Llŷs sydd ŷn uwch na 'r uchaf, yn agos i 600,000 o filltiroedd ys- gwâr—yn cyrhaedd o'r Nilus i'r Dardanelles, ac o Fôr y Canoldir i'r Llyngclyn Persiaidd. Trwy y newyddion diweddaraf, hysbysir fod dinas Jerusalem wedi ei gwarchae gan y Mynyddwyr o Libanus. Dichon yr egyr hyn y drws i ryw ymyr- aeth o du Lìoegr, gan fod iddi lawer o ddeiliaid. Cen- hadon, ac ereill, yn y ddinas hono; ac y mae y Llywodraeth Dyrcaidd yn rhy wanaidd i'w ham- ddiffyn. <í r t í ç ì> îr o l. SYLWEDD PREGETH A draddodwyd gan y Parch. Lewis Edwards, mewn Cymanfa yn IÂanfair-caer-einion, oddiar ESA. I. 18.—'Deuwch yr awr hon ac ymresymwn, medd yr Arglwydd.' Nid yw yr Arglwydd yn galw ar ddyn i wneyd dim, nac at ddim, nad ydyw yn eithaf rhesymol; ae y mae yn gyffredin yn ymostwng i ddangos rhesym- oldeb y peth y mae yn galw ato. Ond ar yr un pryd, mae yn amlwg mai nid ymresymu yn unig sydd yn troi yr enaid. Aiff dyn yn ei fiaen i ddin- ystr er gwaethaf rheswm, heb gael rhywbetli yn ychwaneg. Nid oes dim yn fwy eglur yn y gwir- ionedd na bcd yn rhaid cael Ysbryd Duw i droi yr enaid: ond y mae mór eglur a hyny, nad ydyw yr Ysbryd yn gweilhredu heb foddion—a'r mo'ddion yn ei law ydyw ymresymu a pherswadio dynion. Nid rheswm yn unig sydd yn troi pechadiír, ac nid yr Ysbryd yn ddigyfrwng ychwaith—ond yr Ysbryd trwy waith cenhadon Duw yn perswadio: a dyna fy nheimladau yn awr, wrth sylwi ar y geiriau hyn, yw, yr aiff y cwbl yn ofer heb yr Ysbryd : eto, os cawn nerth i weddì'o arno a dysgwyl wrtho, fe ddaw i fendithio ein gwaith yn perswadio. Yn y geiriau hyn, mae yr Arglwydd yn galw ar ddyn i dd'od ato i ymresymu. Dyma ymostyngiad anfeidrol—y Duw tragywyddol yn ymostwng i ym- resymu â'i grëadur! Nid ydyw Duw yn galw ar neb yn weledig, eto y mae wedi bod/er dechreu y Gymanfa. yn ymresymu â. phob dyn yn bersonol: a meddyliwch, wrandawwyr, mai Duw sydd yn galw, ac nid ei grëadur. Mae Duw yn galw arnoch i dd'od yn rrdaen â'ch rhesymau, paham na dderbyn- iech ei drugaredd ? A oes genych reswm am eich anufydd-dod ? A oes genych reswm am wrthod ei Fab ? A oes genych reswm a ddeil ei chwilio yn nydd mawr y Farn ? Ond sylwn ar rai rhesymau sydd gan ddynion am wrthod Crist a'i iachawdwriaeth. I. Ni ddeuant i'w dderbyn, o blegyd y maent yn ofni na etholwyd hwy gan Dduw. Mae y dyn hwn