Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A Welsh Newspaper. > Rhif. 4.] Edited by W. ROWLAND8, New.¥ork. EBRILL, 1845. C Pbice One Dollar a yeas, \ PAYABLE IN ADYANCE. [Cyf. VIII. BYWYD GOLYGYDD NEWYDDIADÜR. Mr. Golygydd,—Wrth ddarllen eich Anerchiad at dder- bynwyr y Cyfaill yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf, a gweled fod saith amser wedi cyfnewid arnoch yn y gwas- anaeth yma i'ch cydgenedl, meddyliais mai nid y lleiaf o orchestion y blynyddau marwaidd hyn oedd dal eich ffordd hyd yma ; a chan fod yr anhawsderau y gorfydd ar olygydd newyddiadur fyned trwyddynt, a'r dyledswyddau a berth- ynant iddo, yn lluosog a phwysicach, nac y mae llawer o dderbynwyr y cyfryw gyhoeddiadau yn ei ystyried, an- fonais Adolygiad byr o'i fywyd yn y llinellau canlynol; ac os bernwch deilyngdod ynddo, crefaf am iddo gael lle yn rhyw gongl o'ch Cyhoeddiad poblogaidd, dros yr hwn y teimlwyf awydd mawr a pharhaol, am i'w drysorau fod yn helaeth a gwerthfawr, a'i dderbyniad fod yn groesawus, cyffredinol, a pharhaus. Yr eiddoch yn serchiadol, JOHN S. WlLLlAMS. Rhyfedd y fath fywyd ydyw yr eiddo Golygydd Newyddiadur—pa mór luosog, pa mór gyfnewidiol a phwysig ydyw ei ddyledswyddau! Rhaid iddo ef ad- olygu pob damweiniau, yn mhlith pob gwrthddrych- au, a aethant heibio—y rhai presennol, yn nghyda'r hyn a ddysgwylir i gymeryd lle mewn amser dyfodol, yn mhedwar ban y byd. Rhaid iddo ef fod a'i fedd- wl yn sefydlog—nid yn unig ar un gwrthddrych, fel dynion ereill yn gyffredinol—ond ar yr unwaith, a'r un amser, ar y tywydd, ar y cnydau, ar amaethydd- iaeth, ar y marchnadoedd, damweiniau, troseddau, cospedigaethau, llong-ddrylliadau, cledrffyrdd, gen- edigaethau, priodasau, marwolaethau, llysoedd cyf- reithiol, swyddfâau cyllidol, gwladol, a milwrol; sefyllfa yr eglwys, a sefyllfa y wladwriaeth; cyn- nulliadau, golygiadau a gweithrediadau y pleidiau gwladwriaethol, yn nghyda chynnulliadau pob math o derfysgwyr, dyhirwyr, a drwg-weithredwyr; y din- ystr a wneir ar feddiannau trwy dân; galanastra ar fywydau dynion drwy fin y cleddyf, a thrwy y dryll- iau a'r magnelau ; rhuthnadau berwedyddion ager- fadau ; yr agerfadau a chwythir i fyny, a'r ffumerau a chwythir i lawr. Yn fyr, dysgwylir gan lawer na byddo dim yn rhy fawr nac uchel i'r Golygydd ei gwmpasu a i gyr- haedd, na dim yn rhy isel a gwael i ddiangc ei sylw. Yn feunyddiol a chyson, y mae dan yr anghenreid- rwydd dîorphwys a pharhaus o loffit, croniclo, a chof- restru o bob hanesyddiaeth a welo, yr hyn a farno Sfuddiol ac anghenreidiol er llesoli ei gydgrëadur- d—y cwbl, a'r amrywiol, o weithrediadau y byd isod hwn, o gwymp y ddalen hyd gwymp teyrnas ; 'íe, o'r clofthi a'r gwayw lleiaf mewn aelod hyd y lladdiadau, y mwrddradau, a'r marwolaethau disyfyd ac anamserol. Dysgwylir ar y Golygydd, nid yn unig i weled pob peth, ond hefyd i wybod pob peth, ac i fod yn abl i wneyd braidd bob peth. Dysgwylir ei fod wedi ei berff'eithio i'r fath raddau yn holl ganghenau dysg- eidiaeth ddynol, fel y gallo roddi ateb goleu ac eb- rwydd, a hyny pan fetho ei holl ohebwyr, ar bob cwestiwn a ot'yner—am yr efengyl, am y gyfraith, am y wladwriaeth, hanesyddiaeth, daearyddiaeth, seryddiaeth, rhifyddiaeth, athrpniaeth, anianyddiaeth, araithyddiaeth, fferylliaeth, celfyddydwaith, &c. Os bydd âr ddyn eisiau gwybod dyddiad unrhyw hanes hynod, ysgrifena at y golygydd. Os bydd eisiau gwybodam natur, dyben a defnyddioldeb gwaith un- rhy w awdwr, hen neu ddiweddar, ysgrifena at y gol- ygydd. Os bydd gradd o amheuaeth ar feddwl rhyw- iin am olygiadau gwladol neu grefyddol Mr. Hwn a Hwn, ymofyna â'r Golygydd^a dysgwylia atebiad ebrwydd. Heblaw ei fod dan yr anghenreidrwydd o weled, gwybod a gwneuthur, mewn rhan o'r hyn lleiaf, y pethau a nodais, rhaid iddo amcanu boddloni pawb o dderbynwyr ei rifynau, yr hyn sydd orchwyl an- hawdd iawn ei gyflawni." Gellir dweyd fod y rhan fwyaf o ddynion, heb nemawr o eithriad na gwahan- iaeth, pan gymeront i fyny unrhyw gylchgrawn neu newyddiadur, dysgwyliant y cynnwysa hwnw, a hwnw yn unig, bob peth a ctìwennychont. ^ Anfodd- lonant os bydd ynddo unrhyw beth croes i'w mym- pwy a'u harchwaeth. Ymdrwsia rhai oddiallan â'r íath ostyngeiddrwydd, ac ymddangosant mór sanct- aidd, fel y beiant yn iawr lawer o bethau a ymddang- osant yn" y cylchgronau, megys prisiau cynnyrch y ddaear, anifeiìiaid, y marchnadoedd, &c, heb ystyr- ied fod gan y Golygydd amryw gannoedd o ddynion pa rai a dderbyniant ei rifynau yn benaf er mwyn y pethau hyn. Bydd ereill drachefn yr un mor feius, pan yr an- foddlonant wrth weled cymaint o'u rhifynau yn cael eu llanw â thraethodau duwinyddol a chrefyddol, megys adgofion am bregethwyr enwog y genedl, coftàdwriaeth y cyfiawn yr hwn sydd fendigedig, lianesion am lwyädiant yr efengyl, yn dramor a chartrefol, agoriad addbldai, a chynnaíiad cymanfa- oedd, &c. Da a fyddai i'r savvl a'i gwrthwynebo, ystyried fod gan y golygydd dyrfa a dderbyniant ei rifynau er mwyn y pethau hyn yn benaf; ac heb y pethau hyn, na byddai yn eu golwg ond fel corff heb enaid. Mae yngyfyng ar y Golygydd yn aml rhag blino rhywrai, trwy roddi gormod" o le ar faes ei gy- hoeddiad i feibion yr Awen. Dîau y dylai y dosparth