Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newspaper. Rhif. 3.] Eriited by W. ROW'LAJÍDS, \ew-lTorli. M A W R T H, 18 4 5. Pbice One Dollar a yeab, payable in advance. [Cyf. VIII. C 0 F I A N T Y DIWEDDAR BARCH. MORRIS MORRIS, OAK HILL, OHIO. Morris Morris ydoedd fab i John a Mary Morris, Cefn-y-graigwen, plwyf Llanychaiarn, swydd Ger- edigion. Ganwyd ef Tachwcdd y 12fed, 1820. Yr oedd er yn blentyn o dymher addfwyn a serchog, tawel a heddychol. Ond gan nad oedd wedi hanu o ri'eni crefyddol, ni chafodd y fraint o'i hyfforddi yn ffyrdd sancteiddrwydd, na'i faethu yn addysg ac ath- rawiaeth yr Arglwydd: ond ni bu iddo ef er hyny, fel llawer o ieuengctyd gwylltion ac anystyriol, gyd- redeg gyda 'r cyfryw i gynawni pechodau rhylÿgus a gwaradwyddus. Cafodd ychydig o ddysgeidiaeth fel y cyffredin pan yn ieuangc—a rhai misoedd cyn iddo ddechreu pregethu, ac ychydig wedi hyny. Yr oedd er yn blentyn yn aelod cyson a llafurus yn yr Ysgol Sabbotliol, ac yn wrandawwr diwyd ac astud o'r Efengyl. Pan oedd yn löeg oed, teimlodd rym cennadwri yr Efengyl yn effeithiol iawn dan weinidogaeth y Parch. J. Williams, Llanfachreth, pan yn llefaru ar y geir- iau hyny, (Luc xviii. 1.) ' Fod yn rhaid gweddi'o yn wastad ac heb ddiffygio.' [Oedfa oedd hono y cofìr am dani yn ddiau gan ddegau oedd yno.] Yn fuan wedi hyny, cymerodd yr iau arno yn ewyllysgar hyd ddiwedd ei oes. Ymunodd â'r Trefnyddion Caliin- aidd yn Elim. Bu yn ffyddlon gyda chreí'ydd, a phob moddion o ras—yn llafurus gyda 'r Ysgol Sabbothol fel athraw, ac heíÿd yn bleidiwr selog i'r Gymdeithas Ddirwestol a Chymdeithas Diweiideb. Canfyddid cyn pen hir, wedi ei ddyfod at grefydd, fcd gan yr Ärglwydd ryw waith iddo i'w wncud yn ei winllan. Ac yn Ngwanwyn y flwyddyn 1842, àechreucdd ef ac un arall yn yr un eglwys, ar y gwaith pwysig ac anrhydeddus o fynegu ffordd iechydwriaeth i'w cyd- bechaduriaid. Yr oedd y brodyr yn Elim wedi meddwl ei ddewis yn ddi'acon cyn iddo amlygu tuedd at y weinidogaeth. Ar ol iddo ddechreu pregethu, canfyddid fod ei gynnydd yn eglur i bawb. Ac ni bu ei weinidogaeth heb arwyddion o lwyddiant am- lwg arni yn ystod y tymhor y bu yn Nghymru nac ychwaith am yr amser byr y bu yn Hafuno yn y wlad hon, fel yr hyderaf fod yma dystion byw o hyny, Ye, rai nad anghofiant byth mo'i gynghorion, na'r eífeithiau a'u canlynent. Yn nechreu mis Ebrill diweddaf ymbriododd â Sarah, merch Owen Morris, meddyg, gynt o Aber- maw, swydd Feirionydd. Ac ar yr 22ain o'r un mis V cycb wynodd ef a'i briod o Gymru ar eu taith i'r wlad 1 ion, a chyrhaeddasant Gaerefrog-Newydd yn y St. Georgms#ar yr 31ain o Fai, a daethant i dŷ ei frawd ger Oak Hill, Meh. y 18fed, yn iach a chysurus, wedi caeltaith hwylus a llwyddiannus; ac nid ychydig-oedd y gorfoledd a'r llawenydd gan y naill a'r llall o honom pan yr ymgyfarfuom â'n gilydd wedi absen- noîdeb am saith mlynedd. Ac nid ychydig oedd llawenydd y Sefydliad yn gyffredinol o'i ddyíòdiad i'w plith, (yr hwn lawenydd sydd wedi ei droi yn drist- wch ac wylofain erbyn heddyw i ni.) a chafodd y fraint o ddechreu ar yr un gwaith mawr a phwysig o bregethu yr Efengyl yn ein plith, ac yn fuan an- wylida mynwesid ef gan yr holl eglwysi. Fel dyn yr oedd—o ran taldra, yn fwy na 'r cyffredin, ond eto nid oedd yn meddiannu cyfansoddiad cadarn, na meddwl gwrol. Un llwfr a gwan ei fedJwl ydoedd. Fel Cristion, yr oedd yn brofiadol o weithrediadau Ysbryd y gras ar ei feddwl, ac yn meddu cariad gwresog yn ei enaid at Dduw a'i waith. Un eobr a difrifol oedd o ran agwedd,— gostyngedig, ac hunanymwadol. Nid crefyddwr ysgafn, gwag a chellweirus oedd mewn un modd; nid un absengar oedd ef; a phell oddiwrtho ocdd derbyn enllib yn erbyn ei frodyr na 'i gymydogion. Yr oedd y dryg- ionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond anrhydeddai y rhai a ofnent yr Arglwydd. Yr oedd yn amlwg ei fod yn meddu ar lawer o'r cariad yr hwn a ddarîun- ir yn 1 Cor. xiii. Yr oedd ei ffrwythau rhagorol yn amlygedig ynddo ac arno. Yr oedd ei grelydd yn canmol ei hun wrth gydwybodau dynion, a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Fel pregethwr—nid yw yn gweddu i mi cdywedyd llawer mewn ffordd o ganmoliaeth ; cnd dymunwn ddyrch- afu gras ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'i gal- wodd, a'i cymhwysocd, a'i doniodd ac a'i hac'dnrn- odd at waith pwysig y weinidogaeth. ac a"i cynnal- iodd fel seren danbaid a gwresog hvd derfyn ei oes fér. Gan nad ydwyf am son cymaint am dano fel pre- gethwr, tybiwyf yn fwy addas rl:oddi ei Lythyr Cy- meradwyol i mewn, yr hwn a ganìyn :— « AT Y trefnyddion calfinaidd yn unol daleithau AMERICA. " Anwyjc Frodyb,—Bydded hysbys i chwi íod ein Brawd Mr. " Morris Morris yn wr o {rymeriad ac enw da yn y wlad yina—yn "Gristiŵn diargyho»'dd. anwyl a hoff gan y broilyr. ac hefyd yn "bregethwr ieuaugc, cymeradwy agobeithiol yn ugolwg holl êg- " lwysi y sir hon. Er mai teimladau galarus sydd gènj m fel Cylar- "fod ftlifcol wrth feddwl am ymadawiad eiu'brawd o'u plith, .-to "llaw^nychu yr ydym wrth ail f.-ddwl y dichon ei ddyfodiad atoch " fod o ddefnydd mawr i'n cenedl, ac yn fendithiol iawn i eglwysi " Duw yn rahlith y Cymry sydd ar wasgar yn y wlad èanp yua. " Dymunem nawdd Duw iddo ef a'i briod.a'u dwyn dros fôr athir " yn ddiogel utoch. " Ydwyf dros, ac ar ddeisyfiad, Cyfarfod Misol Sir Aberteifi, " Anwyl Frodyr, eu diffuant gyfaill, Ebrìllìnÿ^ÌU4. \ Edward Jones. Cefais yn mysg ei bapyrau hanes ei fordaith i'r %>•