Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A Welsh Newspaper. Rhif. 2.] Edited by W. BOWLAWDS, Híew.lTork. CHWEFR-OR, 18 4 5. C Pbice One Pollar a yeab, \ PAYABLE IN ADYANCE. [Cyf. VIII. I3ucljtü£bbtaetlj. CEFNOGWYR ENWOCAF CREFYDD YN NGHYMRU, O AMSER Y DIWYGIAD ODDIWRTH BABYDDIAETH HYD Y FLWYDDYN M DCCC. (Dctholedig o Gofiant y Parch. Daniel Rowlands,gany Parch. John Owen, Thrussington, Swydd Leicester, Lloegr.) [Gorpheniad o du dal. 161, Cyf. VII.] 17. Y Parchedig Stephen Hughes.—Lle gened- igol y gwr dyniongar a llafurus hwn ydoedd Caer- fyrddin. Ganwyd ef yn 1623 ; a bu farw yn 1688. Taflwyd ef allan o Eglwys Meidrim, yn y sir y'i ganwyd, ar ddychweliad Charles yr ail, a dyoddefodd lawer o driniaeth greulawn wedi hyny. Pregethai yn dra eglur a thoddedig, ac ymgadwai ' at bethau mawrion a sylweddol crefydd.'" Yr oedd y dagrau a dywalltai yn aml, yn tynu dagrau o lygaid eraill. Byddái yn myned i bregethu i'r lleoedd tywyllaf yn y wlad, a chafodd gymeradwyaeth gan amryw o ddynion cyfrifol o herwydd ei gymhedroldeb a'i ddull bywtbg o lefaru. Bu ei weinidogaeth, er yr holl rwystrau a gafodd, o fudd helaeth trwy y wlad. An- nogai benau teuluoedd i ddysgu eu plant a'u gweision a'u morwynion, a chymydogion eu gilydd : a chafodd gan rai ddysgu darllen pan oeddynt yn ddeugain ac yn hanner cant oed, neu ychwaneg. Yr oedd, mewn fibrdd, yn pregethu pa le bynag y byddai, gan gyng- hori dynion ar achos eu heneidiau yn mron ar bob cyfle a gaffai i ymddyddan â hwynt. Yr un peth anghenreidiol oedd megys yn gorphwys yn wastadol ar ei feddwl. Ymddengys ei fod yn ddyn tra duwiol, o dymherau serchog a chariiaidd,o ysbryd haelionus a diduedd, ac yn dra diwyd a ffyddlon yn ei waith. Gwel Hanes Crefydd, tu dal. 561. Bu yn gynnorthwy i Gouge yn y gwaith o ar- graífu y Bibl: a chyhoeddodd, ar ei gost éi hun, a thrwy haelioni eraill, ddim llai nag ugain o wahanol Lŷfrau, y rhan fwyaf o honynt yn gyíìeithadau, o'i eiddo ei hun ac ereill: yn mhlith y rhai'n, enwir y rhai canlynol:— Galwad i'r Annychweledig,gan Baxter. Yn awr, neu Byth, gan yr un. Traethawd ar Drò'edigaeth, gan Joseph Allein. Eglurhad ar Weddi yr Argíwydd, gan W. Perkins. Ymarfer o Dduwioldeb. Ymddengys mai efe a gasglodd gyntaf Ganiadau Rees Prichard, o Lanymddyfri. Cyhoeddodd o leiaf ddau argraffiad o honynt. Gwnaeth fwy tuag at an- nog dynion i geisio gwybodaeth grefyddol, a fhuág atgynnorthwyo ei gydgenedl i gyrhaedd y wybodaeth hon, na ncb a fu o'i flaen. Bu yn gynnorthwyol ac yn offerynol i gael allan ddau argraffiad o'r Bibl, a gynnwysent ddeunaw mil o Lyfrau. Y Traethodau a gyfieithodd, a gyhoeddodd, ac a wasgarodd trwy y wlad, oeddynt luosog iawn. Y siroedd a gawsant y budd yn fwyaf neillduol, oddiwrth ei lafur haelionus ef, a Gouge hefyd, oeddynt Gaerfyrddin, Brycheiniog a Morganwg. Gwel' Trysorfa,' Llyfr ii., Rhif. 2, tu daî. 49—58; 18. Y Parchedig Peregrine Phillips. Ganwyd hwn yn Ambra, yn sir Benfro, yn jt un flwydd^m a Stephen Hughes, sef 1623. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain. Gwasanaethodd yn gyntaf Gydweîi, sir Gaerfyrddin. Curad oedd i'w ewythr, y Dr. Collins. O ìierwydd ei boblogrwydd a'i ddon- iau helaeth, rhoddwyd iddo Mounton yn agos i dref Penfro; a chafodd hefyd Eglwys St. Mary a Chos- hestru. Pregethwr diwyd a thra doniol oedd, yn rhagori ar y rhan fwyaf yn ei ddydd. Yn amser Cromwel pregethodd yn gyffredin trw)r y sir; a dywedir nad oedd nemawr o eglwysi ynddi na fu ef yn pregethu ynddynt. Efe a bregethai ỳn rhwydd yn y ddwy iaith, Saesonaeg a Chym- raeg. Ond ar ddychweliad Charles yr ail, cafodd, fel llawer eraill, ei daflu allan. Taíiu ymaith yr aur, a chadw y sothach, oedd jt ynfydrwydd a wneid yr oes hono. Mochynaidd hollol oedd tymher yr amser, gan y dewisid y cibau, a sathrid y perlau yn y llaid. Gorfu arno wed'yn gymeryd t}rddyn er cyn- nal ei deulu; ond ni allai lai na phregethu yr efeng- yl: ac o herwydd hyn blinwyd ef yn íawr gan rai o swyddogion y wlad. Bu íÿw hyd y flwyddyn 1691. Äfwynhâodd ryddid i bregethu y rhan oláf o'i fywyd. Ei weinidogaeth a fu yn helaeth ddef- nyddiol. 19. Hugh Owen. Bron-y-clydwr. yn sir Feirionydd, oedd lle gened- igol a thrigfod y gwr duwiol hwn trwy ei oes. Gan- wyd ef yn y tìwyddyn 1637, a bu farw yn 1699. Cafodd ei ddwyn i íÿny yn Rhydychain tua dechreu amser y chwyldröad yn y deyrnas. O herwydd rhyw wrthwynebiad oedd ganddo i rai pethau yn yr eg- lwys, ni chymerodd urddau ynddi. Bu byw ar ei dreftadaeth fechan, ac ymroddodd ei hun i bregethu yr efengyl yn rhad i dlodion diddysg. Yr oedd gan- ddo tua deuddeg o fanau y pregethai ynddynt, yn sir- oedd Meirionydd a Threfaldwyn: rhai o honynt ddeg-ar-hugain o filltiroedd oddiwrth ei le anneddol,