Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA.' A Welsh Newspaper. ] Rhif. 3. ] Edited by \V. Rowlands, Utica, N. Y. [ Pricc One Dolìar a year, payabìe in adoance. M A W R T II, 1 6 4 4. [ Cyf. VII. tu dal. Traethawd ar ddarllain yr YsgTythyrau,...................... 33 I Gweinidogion Cymreig gyda'r Bedyddwyr yn America,—.....31 | Y Mawr Wahaniacth,.......................................46 | Caethiwed Amsricauaidd,.................................... 39 Y Gwrth-gaethiwedyddion yn pleidiu Caethiwed, mewn Cyfar- fod Cyhoeddus,.........................................39 Atebion.—Y Creadur Newydd,.............................40 GOFYNIADAU,..............................................40 Barddoniaeth.—Cyfaddefìad yr Edifeiriol,..................4J Hanesiaeth Gartrefol.—Cyfarfod Chwe'-wythnosol y Trefn. Calfinaidd, yn Nghapel y Nant, Steuben, C, N.,...........42 Cyfarfod Gwrthgaethiwawl,.................................42 Cymdeithas Ddirwestol Cinciunati,...........................43 Cymdeithas Gerddorol Gymreig Cincinnati,...................43 Gôf Cymreig................................................44 Vestry Remsen,............................................44 Cyfrif Ysgol Sul Cincinnati,................................44 Príodasau a Marwolaethau,_________......__________________44 Dygwyddiad galarus ger Ebensburgh, Pa.,....................45 Damwain alaethus ger Ffrostburgh,..........................46 46 46 47 47 D.unwain angeuol ger \Viikesbarre, IIanesiaeth Bellenic—Prydain Fawr,.................... " Cymru.—Becca a'i Merched................... Dic Aberdaron,............................................. Llosgiad i farwolaeth.-Penbocthdra dychrynllyd._Mai-woiaeth daniweiiiioL.Hir-hoedledd anghyfTrediu.-Damwain angeuol ..Merthyr Tudfyf.-Eíddigedd a Llofruddineth.-Caru yn y gwily__.IIunan-laddiad.__Tai ar dán___Llufruddiaeth___ Effeithiau Bcccëaith.....Llofruddiaeth tebygol gerllaw Brechfa.-Eglwys Esgobaethol Gymrejg Llundain___Cry- nodeb,................................................. Priodasau a Marwolaethau Pelleni° Y Golyyydd, <fcc,................. 47 48 48 BtttoíugîtòteeUj* Traethawd byr ar ddarllain yr Ysgrythyrau, (Parhad o du dal. 19.) 4. Edrychwn am yr achosion paham y mae dynion, ie, llawer o broffeswyr yr oes hon, yn darllen cyn lleied ar y Bibl, ac yn chwilio cyn lleied am feddwl Duw ynddo. Ceisiaf enwi rhai o honynt. Yn gyntaf. Y gwrthwynebiad sydd mewn natur lygredig i'r pethau a gynnw}sir yn y Bibl. Er fod cydsyniad cyffredin yn ein gwlad, mai gair da a dwyfol ydyw y Bibl; eto ni's gall fod cydffurfiad rhwng ysbryd neb aí'r Gair, oddieithr yr hwn a dderbyniodd y ' dduwiol anian.' I'r dyn sydd yn elyn Duw, yn caru pechod, ac yn ymhyfrydu mewn gwagedd, peth blin ac anhyfryd yw darllen y Gair; am'ei fod yn darlunio natur ac atgasrwydd ei elyniaeth, yn condemnio ei bechod yn ddiarbed, ac yn dangos gwagder y pethau sydd fwyaf yn ei o|wg a hoff gan ei galon ; ie, yn brawychu ei gydwybod a'r swn am angeu, barn, a tlira- gwyddoldeb. A pheth casach ganddo eto na hyn oll, yw^ fod y Gair yn dangos annigonol- rwydd y cyfiawnder y mae ef yn ymddiried, ynddo, a gwagder ei obaith am y Nefoedd; a'i fod yn derchafu 'Crist yn bob peth,' yr hwn ni's gwelodd efe ' bryd na thegwch ynddo.' Ail bcth, sydd yn rhwystr i ddynion ddar- llen y Gair %a'i chwilio, ydyw diffyg goruch- wyliaeth yr Ysbryd Glân ar eu heneidiau. Pan y mae'r Ỳsbryd yn ymaflyd yn y dyn drwy'r Gair, y mae'r dyn fel y Bereaid, Act. xvii. 11, ' Yn derbyn y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau.' Pan y mae'r Ysbryd yn ei aileni o'r ' hâd an- llygrcdig, trwy air Duw,' (1 Pedr i. 23.) y mae efe yn ebrwydd, 'fel un bychan newydd eni, yn chwenych didwyll laeth y Gair, fel y cynycído trwyddo ef.' 1 Pedr ii. 2. ' Byth nid anghofiaf dy orchymynion (medd Dafydd,) canys â hwynt y'm bywheaist. Salm cxix. 93. Ië, pa un bynag a'i dyddanu a'i brawychu'r enaid y byddo'r Ysbryd trwy'r Gair, y mae'n sicr yn peri i'r dyn sylwi yn fanwl arno. Gan hyny, os yw y Gair yn fud, neu yn ddystaw wrthyt, mae Duw felly hefyd: ac os yw Duw heb lcfaru, y mae cweryl rhyngddo athydi. Trydydd peth, sy'n rhwystro i Iawer ddar- Hen a chwilio'r Gair, ydyw balchder, neu hun- anoldeb. Y mae ganddynt feddwl mor fawr am eu gwybodaeth yn yr Ysgrythyrau, a phethau mawrion crefydd a duwioldcb, hyd onid ydynt yn tybied mai afreidiol iddynt hwy ddarllen a chwüio llawer ar y Gair. Mae y rhai hyn yn debyg i forwyr cartrefol, sy'n arfer