Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LXX.] H YDREF, 1843. [Cvr. VI. 13ttU3tuî?îí5ííacrtf)* DYSGYBLAETH EGLWYSIG ©AJ» T PARCH. JOHS PARRT, CAKRLLEON-GAWR. Mae yn amlwg nad yw y gair disgyblaeth, na'r gair Disgyblu, ddirn yn y Bibl; ond y rnae y geiriau disgybl, disgyblion, a disgybles yn y Bibl. Esa. viii. 16. Mat. viii. M;ai. 1. Act. ix. 10,36. Mae yn debygol mae yr ystyr goreu a ellir ei roddi i'r gair Dyssyblaeth, ydy w Rheol- aeth; addysg; iawn drefn; cervdd; ac am hyny y sillebirefyn gyffredinol, Dysgyblaeth, ac nid Disgyblaeth, am mai ei darddiad yw dysgu. Dysgyblu dynion, ydyw eu dysgu hwynt, eu hiawn-drefnu, eu hyfforddio, a'u cer- yddu. Gair Duw yw yr unig reol i Ddysçjyblu. * Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athraw- iaeihu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder.' 2 Tim iii. 16. Mae y gair dysgu yn cael ei arfer mewn dau wahanoi olygiad yn ymadroddion gorchymynol ein Harglwydd Iesu Gristi'w apostolion, ar ei ymadawiad a'r byd hwn. Gwel Mat. xxviii. 19. * Ewch a dysgwch yr holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad a*r Mab a'r Ysbryd Glán,' Dysgu, yn y lle hwn, yw gumeuthur dysgyhlion. Porcuthcntcs mathetcu- satc panta ta ethne, hyny yw, ' Ewch a gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd, gan eu hedydd- io hwynt,' &c. Mae yr ymadrodd yn Marc yti eglnrhau y peth drwy ddywcdyd pa fodd y mae fwneyd dysgyblion o'rccnedloedd. ' Ewch i'r oll fyd, a phregethwch yr efengvl i bob creadur. Y neb a gredo ac a fedvddier a fydd cadwcdig.' Marc xvi. 15, 16. Ewch i bhth yr holl gcn- edloedd, drwy yr holl fyd yn ddiwahân, a chy- hoeddwch • y newyddion da o lawenydd mawr,' i bob math o ddyn, 'ddyfod Crist Ie'su i'r byd i gadw pechaduriaid.' À'r neb a gredo y dyst- jolaeth hon, ac a wnelo broffes gyhoeddus o'i ffydd yn Nghrist, bedyddiwch hwynt ' yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glàn"; ' yna dyna hwy wedi eu gwneuthur yn ddysgyblion i Grist, yn aelodau o'r eglwys yn ol trefn y Testatneni Newydd. Ac wedi eu cael yn y modd yma i'r eglwys, dyma y gair dysgn mewn golygiad arall yn cael ei ddwyn ymlaen gan Grist, ' Gan ddysgu iddynt gadw yr hoîì bethau a orchymvnais i rkw > „.1.. há > i , f chwi.' adn. dyma yrhyn ydym ni yn anhebgorol angenrheidìol i bob un a gyraer» arno y gorchwyl o Ddysgyblu eglwys Dduw, fod yn hysbys iawn o'r holl bethau a orchymynodd Crist yn ei air. Dyben pob rhan o Ddysgybl- aeth eglwysig ydyw dyfod a dynion i gadw gorchymynion Crist: neu, mewn geiriau ereill, achub dynion oddiwrth eu pechodau, a'u dwyn yn ufudd dan iau yr Arglwydd Iesu. Ar ol cael dvnion yn ddysgyblion i Grist, mae yn angenrheidiol eu dysgu hwynt yn bar- haus. Eu dys^u hwvnt yn fanylach yn egwydd- orion iachus y grefydd Grístionogol. Eu dysgu i ymofyn am brofiad iachusol ac effeithiol o weiíhrediadau Ysbryd Duw drwy y gair ar eu calonau. A'u dysgu i fucheddu yn grefyddol a duwiol ymhob man, fel yr harddont athrawiaeth Duw a'n Hachubwrlesu Grist. Dysgui'rgwyr i garu eu gwragedd fel hwy eu hunain, ac na byddont chwerwon wrihynt; gan roddi parch i'r wraig megys Ilestr gwanaf. Dysgu i'r gwragedd ufuddhau i'w gwyr priod ymhob peth, ac edrych ar fod iddynt barchu eu gwyr. Dys- gu i'r gwasanaeth-ddynion i nfuddhau i'r rhai sydd arglwyddi iddynt yn ol y cnawd. Adysgu i'r meistriaid wueyd yr un pethau tuag atyut hwy, gan roddi bygwth heibio, a chofio fod eu Harglwydd hwythau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb gydag ef. Dysgu y plant i ufuddhau ì'w rhieni, canys hyn sydd gyfiawn. A dysgu i'r tadau a'r mamau i beidio gyru eu plant i (idigio, eithr eu maeihuhwyntyn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Os ydyw yr henuriaid yn fugeiliaid, wedi eu gosod gan yr Ysbryd Glán yn olygwyr i borthi praidd Duw yr hwn sydd yn eu plith, îe, i'w porthi hwynt â gwybod«ieth ac â deall, diau y dylent hwy fod yn wyr deallus a gwybodus, yn deall pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Dylent fod yn iach yn y ffydd; ac yn gallu iawn gyfranu gair y gwirionedd. Ac os ydynt i annog ereill i ymofyn am brofiad o ddwyfol effeithiau y gwirionedd ar eu calonau, hwy ddyl- ent fod yn ddynion profiadol eu hnnain. Gofal- wn hefyd am ein bod yn dysgu yn ein buchedd a'n hymarweddiad. yn gystal ag yn ein hymad- roddìon a'n cynghorion. Edrychwn am ein bod yn esamplau i'r praidd, gan ddangos cin huuain ymhob peth yn esampl i weithred- odd da. Eithr y jfia* U«wer un yn »on am ddyegyblu Cvr. VI.