Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL Rhif. LXIX.] MEDI, 1843. [Cyf. VI. Butotuölrîîtaetl)* PSEGBTH: A druddodwyd gan y Parch. Henry Rees, Lẁerpool, yn Nghymanfa y Bala, Meh. 16, 1831, oddiar 1 10AN V. 15.—' Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando m, pa beth bynag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.' Mae yr Ysgrythyrau Santaidd, heblaw ein dysgu am amrywiol wrthddrychau, ac heblaw dangos a gosod o'n blaen amryw ragorfreintiau, yn ein galw at amryw ddyledswyddau; a phwy bynag a ddaeth i iawn adnabyddiaeth o wrth- ddrychau y Bibl, ac i wir feddiant o'i ragor- freintiau, maent yn cael eu tueddu i gyflawni y dyledswyddau hyny. Nid ydyw yr Ysgrythyr- au yn ein galw at un ddyledswydd nad ydyw yn cyssylltu gyda hyny bethau anogaethol i'w chyflawni: gelwir ni i gredu yn Nghrist, o her- wydd ni chollir pwy bynag a gredo ; gelwir ni i edifarhau a dychwelyd, o herwydd addewir derbyn pwy bynag a ddêl; gelwir arnom i wrando, o herwydd addewir by wyd am wrando; gelwir arnom ì weddio, o hcrwydd addewir gwrandawiad i'n gweddiau. Ni buasai un rheswm i'n hannog i weddio, oni buasai fod addewid am wrandawiad ; a'r'fheswm mwyaf annogaethol i ymaflyd yn y ddyledswydd ydyw fod gobaith llwyddo gyda Duw. Mae hyn yn cael ei ddangos yn y geiriau o flaen y testun; ' A hyn yw yr hyder sydd genym tuag ato Ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynwn ddim yn ol ei ewyilys ef.' Gofyn yn ol ei ewyllys ef, yw gofyn am y pethau a addawyd ganddo, gofyn yn ol trefn Duw, gofyn gydag iawn ddyben, ac mewn iawn agwedd ; a phan y mae yr enaid yn cael ci nerthu i hyn, y mae hyder ynddo y bydd i Dduw ei wrando. Yna mae y testun yn dyfod i mewn, ' Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni,' &c. Mae y geiriau yn rhoddi mantais i ni sylwi ar ddau beth:— I. Y DESORIFIAD A R0D0IR 0 WIR WEDDI: Deisyf de.isyfwdau gan Dduw. II. Y DANGOSUD SYDD YMA 0 LWYDDIANT gweddi : * Ni a wyddom ein bod yn cael.' I. Desgrifiad o wir weddi : Dci&yf deisyf- iadau gan Dduw. Gallu a medr ysbrydol yn enaid y cristion ydyw gweddi. Gwrthddrych gweddi ydyw Duw, ffordd gweddi ydyw yr Ar- glwydd lesu Grist, nerth gweddi ydyw yr Ys- hryd Glàn. Os darllenwn yr Ysgrythyrau santaidd cawn weled gwaith yr Ysbryd Glân mewn gweddi. ' Mi a dywaHtaf ar dŷ Dafydd, ac ar bteswyrwyr Jerusalem ysbryd grâs a Cyf. VI. 17. gweddiau.—Ac o herwydd eich bod yn feibion, danfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonau, trwy yr hwu yr ydych yn llefain, Abba, Dad.— Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed dra- chefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy yr hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.—Y mae yr Ysbryd hefyd yn cyn- nortbwyo ein gwendid ni; canys ni wyddom ni beth a weddiom megis ag y dylem, eithr mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn drosom âg ochen- eidiau annhraethadwy.' Yma ni a welwn fod He mawr i'r Ysbryd Gìân mewn gweddi; ac nid oes gwir weddio hebddo ef. Ond sylwn ar waith yr Ysbryd Glân mewn gweddi. 1. Mae yn bywhau yr enaid â grás i weddio. Mae hyn yn perthyn iddo yn fwy fel Ysbryd santeiddliad nac Ysbryd gweddi: fe ail -oddi dawn gweddi, He na byddo grâs, eto nid oes modd gwir weddio hebràs; a'r peth cyntaf y mae yr Ysbryd Glàn yn ei wneyd, ydyw byw- hau yr enaid â grâs i weddio—anadlu grâs i'r enaid, yna bydd yr énaid yn sicr o anadlu yn ol at Dduw mewn gweddi. Nid oes rrtodd gwedd- io yn iawn heb râs: anadl yw gweddi, nid oes anadl yn yr esgym sychion; ceisio Duw yw gweddi, nid all y marw geisio Duw; rhodio gyda Duw yw gweddi, ni rodia dau ynghyd heb fod yn gytun. Ond y funyd y daw grâs ì'r en- aid, bydd yno weddio; pan ddaeth grâs i enaid Manasse, dechreuodd weddio yny fan; dechreu- odd Saul weddio yn y mán y cafodd râs. Yr oedd yn isel iawn arno mae'n wir, yr oedd wedi colli Hewyrch ei Iygaid, yn cymysgu ei ddiod ag wylofain, ond wele y mae yn gweddio! A ydyw wedi Henwi y byd ac Efengyll Nag ydyw; mae yn rhy fuan eto. A ydyw yn gallu dyweyd fod coron cyfiawnder yn nghadw iddo 1 Nag ydyw; ond, wele mae'n gweddio î 2. Mae yr Ysbryd Glàn yn dodrcfnuy medd- wl à mattír gweddi. Pan y bydd y pechadur yn dechreu gweddio, ni ŵyr pá beth i*w ofýn. «Ni wyddom ni pa beth a wedáiom megys ag y dylem.' Ni wyddom ni, er y gwyddom fwy na Hawer. Ni a gawn hanes rhai o'r gweddiwyr enwocaf a fu ar y ddaear erioed, yn methu yn rhyfedd wrüi fyned i weddio heb- yr Ysbryd G lân; cawn fod dau fab Zebedeus, yn myned i