Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LXVIII.] A W S T, 1843. [Cyf. VI. Btttoíng&*íaetf)* HAD YB EGLWTS. ( O'r Drysorfa. ) F«l yr oeddwn yn ddiweddar ar fy nhaith trwy Ogledd Cyrnru, tueddwyd fy meddwl i grafTu yn lled fanwl ar drefn yr Eglwys, ac agweddau y cynnulleidfaoedd perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn addoli. A chefais, er fy mawr lawenydd, fod llawer o gyfnewidiad er gwell yn hyn, ragor y peth a welais i, yn mhlith fy nghyd-genedl anwyl a hoff. Ond y rhyfeddod fwyaf a welais, a'r peth a dynodd fy sylw yn benaf, oedd yr hyn a gyfarfum mewn tref a elwir Llanrwst, swydd Ddinbych, ar fore#t Sabboth, fel y canlyn :— Ar ol gorphen y bregeth, gweddio a chanu, cyhoeddwyd Society, neu Gymdeithas Eglwys- ;f, arhosais yno, a cbyda fod y gynnulleidfa yn mwasgaru, gwelwn dorf o blant yn ymgasglu r lawr y Capel, ac yn cael eu gosod i eistedd n drefnus yn ol eu hoedran. Gofynais i un ' edd yn fy ymyl, ai plant yr Ysgol Sabbothol eddyntl 'Nage,' meddai yntau, ('er eu bod ' n perthynu i'r Ysgol i gyd, ac yn Ddirwestwyr j gyd,) V rbai hyn ydynt Hàd yr Eglwys hon.' j Idrychais o'm hamgylch, a gofynais drachefn, I 'a faint yw rhif yr Eglwysî Atebodd, mai j oddeutu 240.' Ac y mae gcnych gymmaint j hyn o blant 1 ' Oes.' Wel syndod, meddwn, j n wir y mae bendith llwyth Aser wedi disgyn n helaeth arnoch chwi; a diameu genyf mai yraa yr Hâd a fendithiodd yr Arglwydd. At- olwg i chwi, meddwn, pa le yr oeddynt ar y iregeth î ' O,' meddai yntau, ' yr oedd pob in tán ofal ei rieni y pryd hwnw.' Erbyn hyn yr oedd pob peth yn dawel a )hawb yn ei le yn brydferth iawn. Sefais ic edrychais yn graff ar yr olygfa ardder- :hog oedd o'm blaen, a dyma i chwi ddes- jrifiad o honynt.—Yr oedd y ddwy faingc nesaf 'r pulpit yn Uawn o blant o 3 blwydd hyd yn 5, :ebygwn, bechgyn ar un, a genethod ar y lla.Il, jrn^ un rhèa hardd, a'u dwylaw bach yn mhleth, mẁ Uonydd ac astud a hen bobl. Ar y ddwy faingc tu ol iddynt, yr oedd plant o 5 oed hyd yn 8, bechgyn ar un, a genethod »r y Uall, a'r olwg amynt yn debyg. Yn y drydedd rês, yr oedd dwy faingc o rai o 8 oed hyd yn 12, bechgyn ar un, a genethod w y Uall, yr un modd. Yn y bedwerydd rôs, yr oedd tair maingc yn eynnwys rhai o 12 oed hyd 16, yn yr un drefn a'r Ueül, ac o'r rhai hyn yr oedd mwyaf. C*r. VI. 15. Ac mewn dwy seat y tu ol iddynt, yr oedd o ddeutu 20 o rai oedd wedi cael eu derbyn yn ddiweddar oddiwrthynt i gymundeb, a golwg ddymunol iawn arnynt. Meddyliwn bod eu rhifedi i gyd o 140 i 160. Yna yr oedd yr Eglwys, sef y bobl mewn oed, o'u hamgylch fel yn eu hamddiffyn, yr hyn oedd yn dangos i mi eu cariad mawr atynt, a'u hanwyldeb o honynt. Ac o'u blaen yr oedd y Gweinidogion a'r Diaconiaid, y rhai oedd yn eu porthi â gwy- bodaeth ac à deall. Yr oeddynt yn hynod o lân a phrydferth, dim dillad coegfalch, nac un ymddygiad gwamal ni welais yn eu plith. Yr oedd y Diaconiaid yn gofyn am y testynau a'r pregethau iddynt, ac yr oeddynt yn ateb yn rhagorol dda. Yna yr oedd un o'r gweinidogion yn ymddyddan à'r rhai hynaf o honynt, gan wasgu atynt yn ddi- frifol yr anghenreidrwydd am brofiad ysbrydol o bethau crefyddol; ac ar ol cynghori ychydig arnynt yn gyffredinol, yr oedd pennill yn cael ei roddi allan i'w ganu, ac un o honyn^ hwy oedd yn dechreu canu. A hynod y canu oedd yno; yr oedd eu gwynebau llon, eu lleisiau soniarus, a'u cydgordiad rhagorol yn fy rhyfeddu yn fawr, pob un a'i holl egni yn cydblethu inawl i Dduw. Ar ol i un o'r brodyr weddio yr oeddynt yn myned allan yn rheolaidd, y bechgyn i un drws, a'r genethod i'r Uall, bob yn un ag un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr ieuangaf; ac yna yr Eglwys yn eu dilyn. Yn wir, Syr, dyma yr olygfa brydferthaf a welais i erioed ; a diamau genyf nad oedd brenhines Seba, yn mhalas gorwych Solomon, ddim mewn mwy o syndod nac oeddwn innau yn,mhlith y dorf ogoneddus hon. O! dywedais yn fy nghalon, gwyn fyd y plant hyn, gwyn fyd a'u piau, a gwyn fyd yr Eglwys sydd yn eu magu. Byddai yn werth i Ddiaconiaid Eglwysi Cymru fyned i Lanrwst i weled eu trefn, ac i efelychu eu hesiampl. Yn awr, Syr, dymunaf eich cennad i gyfarch Swyddogion tŷ Dduw trwy gyfrwng y Drysorfa ar y maleryma. Fy anwyl frodyr, a ydym yn gwneuthur cyf- iawnder â Hâd yr Eglwys, ac yn gofalu am eu magu a'u dwyn i fyny i'r Arglwydd ar ol eu bedyddio, gan eu hystyried yn berlau gwerth- fawr wedi eu hymddyried i'n gofal gan Dduw î Yr wyf yn ofni mai bylchog iawn ydyw hyn mewn Uawer man. Nid allwn ymesgusodi, a