Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LXIV.] EBRILL, 1843. [Ctf. VI. Btttoíugîrfcíartí). ÄODIADATT AR GALEDI TR AMSEROED». Yn y dyddiau presennol pan yr achwynir mór gyffredin ar galedi yr amseroedd, ni a wel- wn, er ein galar, fod ysbryd o anfoddlonrwydd yn ymdreiddio i bob gradd a sefyllfa. Nis gallaf lai na chydymdeimlo â'm cydwladwyr, y rhai ydynt yn ocheneidio dan eu beichiau fel fy hunan. Eto, gan nad wyf yn feddyg, nag yn Brophwyd, nis gallaf iachau eu doíuriau, nag addaw rhagorach amser iddynt; er hv-ny gos- odaf rai nodiadau o'u blaen, y rhai gobeithiwyf i dueddant i esmwythau eu gofid, ac i daweìu au meddyliau dan y dymhestl a'r wasgfa bresen- nol. Y mae yn sicr fod dynion trwy feithrin ysbryd tuchanllyd yn erbyn Duw, ac anfoddlonrwydd i'r hyn y mae yn dorri atynt yn ei ragluniaeth, yn dirfawr ychwanegu at eu helbulon allanol. Pan fyddo dyn yn cael ei oddiweddyd gan ryw groes ragluniaeth, yn Ue amgaeru ei hun á meddyliau crefyddol, y mae yn rhy aml yn cyffroi y meddyliau mwyaf a lesmwyth, ymddi- aígar, a thrallodus ynddo e hunan ; a thrwy hyny yn creu rhyfel yn y fy.iwes, gan-mil mwy poenus na'r holl helbulon allanol. Os ydym am gael goruchafiaeth ar yr ysbryd uchcd, buddiol iawn fyddai i ni wneuthur cre- fydd yn brif wrthddrych ein rnyfyrdod, a phríf ddyben ein bywydau. Creaduriaid ydym ni ag sydd i ymadael yn fuan a phob peth gweledig, ac i ymddangos mewn byd Ue yr edrychwn ar wrthddrychau y ddaear fel yn ddiwerth ac yn annheüwng o'n sylw lleiaf; meddwliwyf mai eisieu cofio hyn yn fwy parhaus a difrifol yw yr achos penaf o ein hanfoddlonrwydd. Pe baem yn ystyried mai byd darfodedig ydyw hwn,-ŵ'n bod yn cyflymu i wlad yn yr hon y bydd raid i ni oesi tragywyddoldeb, Oh mór lleied fyddai {ileserau y ddaear yn medruein denu, ac mór leied fyddai ei helbulon yn raedru ein tristhau. Os cynnydda golud na roddwn ein serch arÄo, fel na thristâom fel rhai heb obaith, os cymer ei adenydd ac ehedeg ymaith. Cadwn ein golwg ar y byd draw; rhodiwn y ffordd sydd yn ar- wain i ddedwyddwch; sylwn ar frôydd a bryn- iau y wlad lle y mae'n wastadol yn ganol-ddydd náf, ac yn dawelwch diddarfod, yna ni a allem ddiystyru pob gofid bydol, a llawenhau yn jwyneb y caledi mwyaf. I I'r dyben o orthrechu yr ysbryd o anfodd- lonrwydd, sylwn eto, y dŷlcm, nid cenfigenu ^jrth rai mewn sefyllfa well, ond yn hytrach tedrych ar, a thostario wrth rai meŵn sefyllfa Cyf.YI. 7 waeth na ni ein hunain—cydnabod yr Arglwydd yn ddyiolchgar am yr oll ag ydym yn dderbyn oddiar ei law—a chyfaddef na ryglyddasom y Ueiaf o'i holl drugareddau. Nis gaîlaf lai na meddwl y dyddiau hyn, mai oherwydd y cam- ddefnydd mawr a wnaethom o ffrwyth cynnyrch toreithiog y blynyddoedd daionus diwedd- ar a gawsom, y mae y wialen hon amom; efallai i ni fyw yn rhy uchel, ymborthi yn rhy foethus, ac ymdrwsiadu mewn gwisgoedd rhy gostus eu defnyddiau, a rhy falchaidd eu gwneu- thuriad ; a diameu y buom yn rhy gybyddlyd a chynnil at achos Duw. Y mae yn amlwg fod cẃyn rhwng yr Argîwydd a thrigolion y wlad, oherwydd nid yw efe yn gweled yn dda wneuth- ur cam a gwr yn ei fatter, ac nid o'i fodd y mae yn blino, nac yn cystuddio plant dynion. Cofiwn ninau o ba le yr ydym wedi syrthio, edifarhawn, a gwnawn y gweithredoedd cyntaf; Pwy a ẃyr na thry yr Ârglwydd ac edifarhau î oherwydd tosturiol a thrugarog iawn yw efe. Dcngvs profiad cyffredinol yn mhlith pob graddau, fod tuedd gref yn natur lygredig dyn, bvdded ei sefyllfa mór dawel ag y byddo, i ddringo i'r grisiau uchelaf; a sicr yw, fod y dymer awyddus hon yn achlysur o filoedd o feddvliau dirboenus, ac ymdrechion ofer; oherwydd yr hwn sydd yn chwennych ymgyf- oethogi, sydd yn syrihio i lawer o cbwantau ynfyd a niweidiol. Yn y modd hyn, rhwng y chwenvchiad i fyw yn uwch, a'r anallu iddei gwblhau, mae lle i ofni fod Uawer teulu yn mhlith cenedl y Cymry yn America, yn myned yn nyth i ofid afreídiol, ac yn magu cenfigen, yr hon a all wneuthur y brenin mwyaf anrhydedd- us yn annedwyddach na'r cardottyn noethlymun a difẁth. Os ydym am dawelwch meddwl, ed- rychwn i ddyffryn isel tlodi; os nad oes genym Balasau drudfawr wedi eu Uiwio yn heirdd, eto, cofiwn, fod cannoedd o'n cyd-greaduriaid mewn bythod llymion, a chyffdai gwaelion; ereill yn gauafu ar fynyddoedd cribawg, yn agored i'r awel lém, a'r gawod eiriawg, ac heb ond ychy- dig o angenrheidiau y bywyd hwn. Pe ym- drechem feithrin ysbryd o dosturi at ein hîsradd, ni a anghofiem yn fuan ein gofidiau ein hunain; golwg dyner ar luoedd aneirif yn tramwy trwy anialwch adfyd, a dueddai i'n gwneuthur yn foddlon i'n cyflyrau, ac i wedyd gyda'r Apos- tol, 4 Mi a ddysgais, yn mhu gyflwr bynag y byddwyf fod yn foddlon iddo.' Ac os na thawela hyny dwrf rhagluniaeth y flwyddyn hon,