Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL Rhif. LXL] IONAWR, 1843. [Cyf. VI. Dutoíuoìr&íactij. PREGETHi A draddoduryd gan y Parch. John Jones, lÀanüyfni, yn Nghymanfa y Bala, Meh. I6eg, 1830, oddiar 2 COR. VI. 2.—" Wele, ya awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth." Mae dynolryw yn gyffredin yn cyfaddef fod ar ddyn eisieu iachawdwriaeth—mae pawb yn teimlo eisieu gwelihád ar ei sefyllfa ysbrydol. Ac fe addefir nad all neb roddi iachawdwriaeth ond Duw ; mae pob cenedl yn dysgwyl gwared- igaeth oddiwrth y gwrthddrych maent yn dybied ei fod yn dduw; ond, ' iachawdwrjaeth sydd eiddo yr Arglwydd.' Mae gan Dduw iachaw- dwriaeth gwedi ei darparu o'r fath ag sydd amora eísìeu. Mae yn perthyn i iachawdwriaeth Duw ei hamser neillduol—ei dydd penodol. Nid yw iachawdwriaeth i'w chael bob amser, nac yn mbob amgylchiad. Mae dynolryw yn gyffredin yn methu cytuno á Duw y'nghyích amser iach- awdwriaeth ; maent yn methu gweled yr amser a benododd Duw i'w rhoddì, yn amser cyfaddas iddynt hwy i'to derbyn; mae gan Dduw amser wedi ei beuu i roddi iachawdwriaeth, ac y mae dynion yn ceisio pcnu aniser iddynt hwythau i'w derbyn, ond y mae y ddau amser y'mhell iawn oddiwrth eu gilydd. Fe fynai dynion i Dduw ymostwng i'w hamser hwy, fe wna Duw i ddynion ymostwng i'w amser ef; ni byddai yn weddus ì Dduw ymostwng i amser dyn, ac ni thalai iddo wneyd ychwaith. Amser dyn yn gyffredin ydyw yr amser a ddaw; amser na welodd erioed, amser nad oes ganddo yn bre- sennol, ac amser, efallai na wél byth; ond amser Duw yw ytì bresennol, ' Weie, fn awr yr amser cymeradwy.' Mae llnwcr yn addef fod arnynt eisieu iach- awdwriaeth, ond ni fynant hi yn amser Duw; mae ilawer yn bwriadu ceisio iachawdwriaeth yr amser a ddaw, ond yn ei gwrthod yr amser presennoi j mae llawer yn ei gwrthod pan y raae i'w chaei, a byddant yn ei cbeisio pan na bydd t'w chael. Mae y rhan ílacnaf o'r testun yn adroddiad o eiriau y prophwyd Esay, ac yn cynnwys iaith y Tad wrth y Mab ar ol iddo fyned trwy waith 1 y prynedigaeth; canys mae yn dywedyd, * Mewn I amser cymeradwy yHh elwais, yn nydd iachaw- dwriaeth y'th gynnorthwyais;' yn amser ewyü- y* da, fei y gellir darllen y geiriau, sef amser fraruchwyliaetli yr ofengyl. Mae yn debyg he- yd fod yr ymadrodd yn cyfeirio at y Jubili luddewig gynt; pryd y byddai y caethion yn cael eu rhyddhau, a'r etifeddiactb yn cael ei Cîr. VI. 1 rhoddi yn ol i'r etifedd; yr oedd yr araser hwnw yn gysgod o amser goruchwyliaeth yr Efengyl. Amser i amlygu ewyllys da Duw i ddynion ydyw amser goruchwyliaeth yr Efcng- yl. Pan daeth yr augylion i gyhoeddi gene- digaeth yr Arglwydd Iesu Grist, eu cân oedd, ' Tangnefedd ar y ddaear, i ddynion ewyliys da.' Dan oruchwyliaeth yr Efengyl, mae ewyîlys da Duw i fyned yn gyffredin dros y byd, at bob cenedi heb wahaniaeth; Iuddewon a Groegiaid, caethion a rhyddion. Mae yr am- ser y prophwydodd Esay am dano gwedi dyfod, mae y dydd gwerthfawr a ragfynegodd y pro- phwydi am dano wedi gwawrio, mae—yn awr! Ond sylwiwn oddiwrth y geiriau :— I. FOD AE DDYN EISIEU UCHAWDWRIAETH. II. FOD CN GWEOI EI DARPARU GAN DdüW o'r FATH AG SYDD ARNOM EISIEÜ. III. FûD YN PERTHYN i'R IACHAWDWRIAETH ei hamser penodol.—' Wcle, yn awr yr amser cymeradwy.'' Nid peth bach ydyw adwaen am- ser iachawdwriaeth, mae llawer yn colli y cwbl o herwydd methu yr araser. I. FOD AR DDYN EISIEU IACHAWDWRIAETH.— Ystyr gyffredin y gair ydyw, gwaredigaeth o ryw drueni, neu rhag ryw drueni oeddaroddiw- eddyd un; mae weithiau yn myned am wared- igaeth dymhorol, ond y rhan amlaf am y Wa- redigaetrí ysbrydol; yr hon sydd yn cael ei chyfleu yn îíghrist, yr awdwr o honi; a gyhoedd- ir yn yr Efengyl, ac a dderbynir trwy ffydd gan bawb a gredant. Mae ar ddynolryw eisieu iachawdwriaeth o'r natur yma. Mae pob gwaredigaeth o werth mawr, ond hon o'r gwerth mwyaf. Nid oes cymmaint o anghen am un waredigaeth ag sydd o anghen am hon. 1. Mae holl ddynoiryw i ryw raddau yu teiralo eisieu hon; mae pob dyn o dán ryw radd o deimlad ysigdod y Codwm, mae ynMeall arno ei hun fod rhwyg gwedi ei wneyd ar ei hapus- rwydd. Mae cydwybod yn dywedyd hyn, nid^ rhyw athrawiaeth o'r llyfr séliedig ydyw hbn ; raae euogrwydd yn argraffedig ar bob cydwY- bod. Paham y raae dv gydwybjii yn dy g> huddo ac yn bygwth^cosp amatl Tystiolaeth. amiwg iawn yw dy fod yn euog. Paham yr • ♦'