Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LX.] RHAGFYR, 1842. [Cyf. V. î&ttcfjîrrattsoîraetti* BUCHWEDD A MARWOLAETH Y PARCH. GEORGE WHITPIELD. (Parhád o du dal. 323.) Ytí y ddwy fiyncdd 1761, a 1762, yr oedd yn wán ei nerth a'i iechyd, fel nad oedd yn gallael pregethu fel arferol. Teithiodd i'r Alban a'r Almaen am adferiad iechyd, heb bregethu ond yn anaml. ' Yn bresennol,' medd efe, (yn ys- grifenu o Holland, Letter 1267,) 'dyiolch i Dduw, yr wyf yn gallael pregethu unwaith y dydd. Y mae awdurdod rhyfedd yn cydfyned a'r Gair. Y mae fy hen amseroedd yu cael eu hadnewyddu eto.'—Yn y flwyddyn 1763. aeth drachefn i'r Alban, yn pregethu un waith y dydd ar y flbrdd ac yno ; ac o Greenoclt mordwyodd y chweched waith i Yirgmia, lle y daeth yn Awst. Ymwelodd ag amryw barthau o'r America, gan bregethu mór aml ac y goddefai ei nerth, Cafodd hanes yn y daith hon am ddcugáin o weinidogion o amrywiol enwadau a gawscnt eu galw trwyddo yn Ameríca, ac un-ar-bymthcg o'rysgoleigionyn ysgoldŷ (collcgc) NewJersey. Gwedi ymweled â'r Elusendỳ yn Georgia, pan yr oedd yr amser ar y flwyddyn yn goddef iddo, yn Chwefror, 1765, teithiodd lua 'r gogledd, a mordwyodd o New York i Loegr, lle tiriodd yn Gorphenaf 5ed, 1765. Yr oedd yn parhâu yn wán, ac yn gorfod myned rhagddo yn fwy araf nag yr arferai. Eto yr hyn a allai yr oedd yn ei wneyd, mewn gobaith o fyned yn fuan i'w orphwysfa.—Yn Hydref 6fed, cafodd ei alw i agor Capel yr Arglwyddes Huntingdon yn Bath. Pregethodd ar yr achlysur ar 2Cor. vi. 16 — Awst y 9fed, 1768, bu farw Mrs. Whitfield, a phregethodd yntau yn ei chladdedigaeth ar Rhuf. viiì. 20.—Awst 24ain, 1768, agorodd Gapel ac Ysgoldỳ (coücge) yr Arglwyddes Huntingdon yn Nhrefeca, plwyf Talgarth, sîr Frecheiniog yn Neheubarth Cymru, ' Cawsom awelon hyfryd efengylaidd,' medd efe,'aryr achlysur.' Pregethodd ar Exod. xx. 24.— Awat 2Ôain, rhoddodd gynghor i'r ysgoleigion oddiwrth Luc ì. 15,—Awst28, y Sabboth, preg- ethodd i filoedd ar 1 Cor. iii. II, yn y cyntedd o flaen y tỳ.—Aeth rhagddo yn pregethu fel y C?r. V. 45 gallai yma ac acw, hyd Medi, 1769, pan y cychwynodd y seithfed waith i America. Caws- ant hir fordaith o dair-wythnos-ar-ddeg ; ond tiriodd yn ddiogel ac yn o iach, yn Charles- Town, Tachwedd 30, 1769. Cafodd bob peth yn llwyddiannus yn Bethesda. Ychwanegwyd dwy aden at yr Elusendŷ er cyfleusdra i'r ys- goleigion, eu hyd oedd 120 troedfedd bob un. Cychwynodd ar daith i'r taleithau gogleddol, Mai, 1770, yn o gryfyn ei iechyd, ac yn preg- ethu fel arferol gyda diwydrwydd a llwyddiant mawr. Medi 29ain, cyn iddo ddyfod i Newbury lle yr oedd i bregethu bore dranoeth, buont daer arno bregethu yn Exeter ar y Öbrdd. Yma pregethodd allan agos i ddwy awr; wedi blino yn fawr aeth yn yr hwyr i Newbury. Aeth i'r gwely yn gynnar, yn ol ei arfer, ac yn bwriadu pregethu dranoeth. Deffrodd yn aml yn y nos, ac yr oedd yn achwyn yn fawr ei anhawsdra i anadlu. Am chwech o'r gloch bore Sabboth, bu farw, Medi 30, 1770, mewn llewyg o ddiffyg anadl. Yn Exeter cyn iddo fyned i bregethu, sylwodd un Mr. Clarkson arno, ei fod yn fwy anesmwyth nag arférol, dywedodd wrtho, * Yr ydych yn fwy addas i fyned i'r gwely nag i bregethu ;' atebodd Mr. Whitfield, 'Gwir Syr,' ac yn troi o'r neilldu pìethodd ei ddwylaw yn nghyd, a chan edrych i fyny, dywedodd, ' Ar- glwydd Iesu, yr wyf yn flinedig yn dy waith, ond nid ar dy waith. Os nad wyf eto gwedigor- phen fy ngyrfa, gâd i rai fyned a llefaru drosot unwaith eto yn y meusydd, selio dy wirionedd, dyfod adref, a marw.' Y testun y pregethodd arno oedd, 2Cor. xiii. 5. Aeth i Newbury, gyda 'r Parch. Mr. Parsons, yr hwn oedd wein- idog yn Newbury, ac yn nhý yr hwn y bu farw. Rhwng dau a thri o'r gloch y bore pan ddeff- rodd, cwynodd fod diffyg anadl yn drwm aino. Gwedi rhoddi rhyw beth yn gynes iddo, eistedd- odd ì fyny yn y gwely, a gweddiodd am fendith ar eì bregethu lle yr oedd wedi bod—am fendith ar 'Bethesda' a'i deulu yno—ar gynnulleidfa-