Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LVIII.] HYDREF, 1842 [Cyf. V. BÜCHWEDD A MÂRWOLAETH 7 PARCH. QHOB.aH WHITFIELD. (Parhâd o du dal. 259.) Ymadawodd o'r Alban yn niwedd Hydref, ac a ddaeth i Lundain mewn pum' iniwrnod. Pan ddaeth yno yr oedd diwygiad newydd yn y y Babell (Tabernacle,) ac yr oedd gorfod iddynt ei helaethu o'r herwydd. Yn Mawrth, 1743, aeth i swydd Caerloyw, lle yr oedd y bobl yn fwy awyddus i wrandaw nag erioed. Aeth oddi yno i Fristol, ac oddi yno i Gymru, lle yr agorodd y Gymdeithasfa gyntaf, ac a arosodd amryw ddyddiau gyda hwynt yn sefydlu achos- ion y cymdeithasau neillduol. Teithiodd trwy Gymru rai wythnosau, yn pregethu gyda llawer o lwyddiant yn Nghaerdydd, Llantrisant, Castell- Nedd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Laagh- ame, Narbeth, Newton, Jefferson, Llys-y-Frán, Kidweli, Llangathen, Llanddyfri, Aberhonddu, Trefeca, Llanfair Muallt, &c. Teithiodd yn nghylch pedwar cant o filltiroedd mewn tair wythnos o amser, ac a bregethodd yn nghylch deugain waith. 'Mae y gwaith a ddechreuwyd gan Mr GrifEth Jones yn taenu ar led yn fawr,' medd efe, • yn Neheubarth a Gwynedd. lle y gwnaeth yr Arglwydd Mr Howel Harries yn off- erynol i ddychweliad amryw o offeiriaid yn gystal ac eraill. Yr oedd gallu Duw yn y Cymun, dan weinidogaeth y Parchedig Daniel Rowlands, yn ddigon i beri i galon dyn losgi oddi fewn iddo. Am saith o'r gloch y boreu gwelais, efallai, ddeng mil o amrywiol barth- au, yn nghanol y bregeth yn gwaeddi, gogon- iant—bendigedig—ac yn barod i neidio o lawen- ydd.' Yn y mis Mai aeth yn ol i Lundain, ' Un waith eto,' medd efe, ' i ymosod ar dy- wysog y tywyllweh yn Moorfields, yn amser y gwyüau.' Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn dra Huosog, a'r gair yn effeithiaw yn hynod arnynt. Parhâodd Mi. Whitfield hyd Awst, 1745, i deith- iaw trwy amrywiol barthau o Loegr, yn preg- ethu yr efengyl o fan i fan, gyda ei lwyddiant arferol, igynnulleidfaoedd mawrion iawn. Pen- derfynodd,yn mhen amscr, i ymweled âg Ameri- cadrachem, trwydaerddymuniadun Mr. Smìth, Cyî'. V. 87 yn enw miloedd erain. Cydunodd am ei for- daith gyda Mr. S. mewn Ilong yn myned o Portsmouth. Ond gwrthododd llywydd y llong ei gymeryd, rhag ofn iddo lygru y morwyr. Ar hyn bu gorfod iddo fyned i Plymouth. Preg- ethodd ar ei daith yno yn Wellington, Exeter, Biddeford, Kingsbridge, a Phlymouth. Dy- gwyddiad nodedig a gâf ei adrodd yma am waredigaeth ryfedd a gafodd am ei fywyd. Daeth pedwar o wyr boneddigion r dŷ un o'i gyfeiüion i ymofyn am dano, ac yn dymunaw gwybod yn mha le yr oedd yn lletya. Yn fuan wedi hyny, derbyniodd Mr. W. Iythyr, yn hys- bysu mai nai oedd yr ysgrifenwr i Mr. S. cyf- reithiwr yn Nghaerefrog-Newydd ; ac iddo swp- era gyda Mr. W. yn nhỳ ei ewythr; ac yn dymuned iddo swpera gydag ef ac ychydig gyfeillion. Anfonodd Mr. WhitfieM air yn ol, nad oedd yn arferol o swpera allan mewn taf- arndai, ond byddai yn dda ganddo weled y gwi i gymeryd tamaid gydag ef yn ei lety ; efe a ddaeth yn ganlynol ac a swperodd gydagef; ond sylwidei fodyn aml yn edrych oddiamgylch iddo, a'i fod yn dra absennol yn ei ymddygiad. Ond or diwedd cymerodd ei genad, i ddychwel- yd at ei gyfeillion i'r dafarn. Ymofynodd ei gyfeillion beth a wnaeth, átebodd, ' Iddo ym- ddwyn mór hynaws a mwynaidd tuag ato, fel nad oedd calon ynddo- i gyffwrdd âg ef.' Ar hyn un arall o honynt, îs-swyddog yn un o longau y brerün, a ddaliodd wagcr o ddeg gini, y gwnai efe ei waith erddo. Ei gyfeillion pa fodd bynag, a ragofalasant i gymeryd ei gleddyf oddiwrtho. Yr oedcL Mr. Whitfield y dydd o'r blaen wedi pregethu i gynnulleidfa luosawg, ac wedi ymweled á'r earcharorion, ac wedi myned i'w wely ; yn nghylch hanner nos, daeth ei letyea i fyny, ac a hysbysodd iddo fod gwr boneddig yn dymunaw siarad âg ef. Mr. Whitfield yn meddwl mai rhyw un dan argy- hoeddiad oedd, a barodd iddo ddyfod i fyny. Daeth i fyny, ac eisteddodd yn ymyl y gwely,