Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. LVI.] A WST, 1842. [Cyf. V. Etttíjîrraetíioîraetf)* BÜCHWEDD A MARWOLAETH PARCH. GEORGE WEITFIELD. (Parhâd o du dal. 163.) Gan fod cyfleusderau i bregethu yn rhëolaidd yn y lianau wedi pallu iddo, a bod pregethu yn y caeau wedi bod yn fendithiol iawn, barnodd yn ddyledswydd arno ddilyn yr arferiad hwn, ac an- turiodd ddydd Sul, (Ebr. 29ain,) i bregethu y tro cyntaf yn Moorfields, yn Llifbdain. Aeth yno yn ol ei gyhoeddiad. Pan ddaeth allan o'r cer- byd, cafodd lu aneirif yn dysgwyl am dano.— Haerai amryw wrtho na ddeuai byth oddiyno 'n fyw. Er hyny anturiodd yno rhwng dau o'i gyf- eillion, y rhai a ysgarwyd oddiwrtho yn fuan gan y dyrfa oedd yn gwasgu arnynt, a bu orfod iddynt ei adael i drugaredd y "werinos. Gwn- acthant ffordd iddo, a dygasant ef i ganol y caeau, lle yr oedd bwrdd wedi ei osod iddo, ond a ddryiliwyd gan y dyrfa. Dygasant ef at y wál oedd yn gwahanu y Moorfields Uchaf a'r Isaf, yr amser hwnw. Yno y pregethodd, heb aflonyddwch, i lu aneirif o ddynion. Wedi cael y fath annogaeth yn y Moorfields, aeth i Kennington Common yn y prydnawn, ynghylch tair milítir o Lundain, lle y pregethodd i dyrfa hynod o luosawg, y rhai a ymddygasant mór weddus a phe buasent mewn lie o addoliad cys- segredig. Wedi hyny teithiodd trwy amryw o siroedd Lloegr, gyda phoblogrwydd a llwydd- iant anarferoi. Yr oedd rhyw gyffro rhyfedd am grofydd yn ei ddìlyn trwy yr holl wlad ddifraw a chysglyd. Casglodd lawer o arian hefyd tuag at adeiladu ei Eiusendỳ yn Ceorgia. Awet y 14eg, 1739, cychwynodd ei ail-fordaith í Araerica, a daeth i Bennsylvania Hyd. y 30ain. Gwedi hyny aeth trwy Bennsylvania, Jersey, a Chaerefrog-Newydd, ac yn ol drachefn i Mary- land, Virginia, Carolina Ddeheuol a Gogìeddol —yn pregethu ar hyd y ffordd i dyrfaoedd tra lluosawg, fyda'r un effeithioldeb ag yn Lloegr. —Ionawr y lleg, 1740, daeth í Savannah.— lonawr y 29ain, ychwancgodd dri o amddifaid at yr «gain oedd ganddo yn y tŷ o'r blaen. Y dydd canlynol, lluniodd y tír i adeüadu y tŷ arno, tua deng BiiUur o Savaimah.--Mawrth y 84ain, go- Crr. V. 29 sododd gareg sylfaen yr Elusendŷ, ac a'i galw- odd Bethesda. Yr oedd ganddo erbyn hyn yn nghylch deugain o amddifaid, ac ysgol wedi ei sefydlu i'w haddysgu.—Yn Ebrill gwnaeth daith arall trwy Bennsylvania, Jersey, a Chaer- efrog-Newydd. Tyrfàoedd anghredadwy a ddaethant yn mhob mán i wrandaw amo, yn mhlith y rhai yr oedd llawer o'r bobl dduon.— Yr oedd effeithiau rhyfeddol ar ei wrandawwyr yn gyffredinol, a chafodd Uawer, diamheu, eu dychwelyd at yr Arglwydd. Dychwelodd í Savannah Mehefin y 5ed. Yn mis Awst, aeth ar y môr i Ynys Rhode, lle y pregethodd i gynnulleidfaoedd mawrion; a daeth i Boston.— Tra ÿr oedd yno, ac yn yr amgylchoedd, yr oedd yn dra llesg yn ei gorph: er hyny yr oedd ei wrandawwyr yn lluosog, a'r effeithiau arnynt yn rhyfedd. Wedi pregethu tair pregeth yn Boston, nid oedd un tỳ yn y dref heb sẃn difrif- ol am grefydd ynddo ; ac yr oedd yr hoU dref wedi ei sobri drwyddi. Wedi darllen yn Lloegr am y diwygiad mawr yn Northampton trwy weinidogaeth y gwr enwog hwnw, Jonathan Edwards, yr hwn oedd yno yn gweinidogaethu, yr oedd awydd mawr arno i'w weled a chlywed yr hanes ryfedd ganddo ei hun; ac aeth yno i'r dyben hyny, gan bregethu ar yrholi ffordd—yn Concord, Sadbury, Marlboro', Worchester, Lei- cester, a Hadley. Yr oedd pob lle yn agored iddo —dysgwyliad cynhyrfus am daní)—a'r un effeith- iau rhyfeddol yn düyn ei weìnidogaeüi yn mhob mán. Yn Northampton, yr oedd y gweinidog a'i bobl wedi eu cyffroi yn hynod; ac felly yr oedd teulu Mr. Jonathan Edwards, i ba raì y rhoddodd air o gynghor, wrth ddymuniad cu tad. Wedì gadacl Northampton, pregethodd yn Westfield, Springfield, Suffield, Windsor, Herdfford, Withersfield, Middleton, a Walling- fford, i gynnulleidfaoedd raawrion iawn. Hyd- ref y 23ain, daeth i Newhaven, lle y cafodd dderbyniad caredig gan Mr. Pierpoint, brawd- yn-nghyfraith Mr. Edwards; a chyfarfu yno â'i