Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. XLIII.] GORPHENAF, 1841. [Cyf. IV. &utỳìívuttf)oìíuttỳ. C O F I A N T Y DlfÉDDAE BARCIÍ, ROBEIT MEREDYDB.* 1 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.' " Doluriasom, dwl oer eisiau " Ei rinweddau, wr iawn noddol—■*■ "Llai ein ffyniant oll i'n ffiniau •' Heb ei radau, bu waredol: " Cofiwn ninau ddilyn llwybrau " Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol— " Cawn fel yntau i'n heneidiau "TJnrhyw gaerau Oen rhagorol."t Gwethddrych y Cofiant íìwn a anwyd mewn lle a elwir Cae-glâs, plwyf Maentwrog, swydd Feirionydd, Gogledd Cymru, yn mis Ebrill, 1793. Bu farw eí dad pán nad oedd ef ond pum' mlwydd oed: wedi hyny bu farw ei fam pan oedd yn 17 mlwydd oed. Yr oeddynt ill dau yn grefyddol er yn ieuaingc, ac yn ffydd- lon iawn gyda'r Achos : a'u cymydogion a goff- hâent yn fynych am weddiau taerion ei dad dros ei blant, y rhai oeddent saith o nifer. Yn fuan ar ol marwolaeth ei fam, ymrwymodd fy nhad i fyned yn fôrwr; ac ar ei fordaith gyntaf herw-long (priiidteer) o'r wlad hon a'u cyfar- fyddodd, ac a suddasant eu llong i'r dyfnder heb arbed ond yn unig fywydau y rhai oedd ar y bwrdd, a hyny 'n brin. Trosglwyddwyd hwy i'r Iwerddon, yn dlodion iawn, gan fod eu holl eiddo yn yr eigion ; ac felly yr oedd efe mewn cyflwr lled isel y pryd hwn—-wedi colli ei rîeni a'i eiddo. Daeth trosodd i Gymru ; ac yn fuan ar ol dyfod adref aeth i wrandaw y diweddar Barch. Dafydd Cadwaladr yn pregethu, a glyn- odd rhyw ran o'r bregeth ar ei feddwl; a hir y bu mewn terfysg meddwl wedi hyn, yn methu tóri y ddadl a myned i'r Eglwys ; ond yn y fl. 1813, pan oedd yn ugain oed, penderfynodd mai yr ' Arglwydd sydd Dduw,' ac ymunodd mewn trefn eglwysig gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn Nhrawsfynydd, ac o dan luman y corff hwnw y bu yn ' ffyddlawn hyd angeu,' a gellir dywed- tM ■---------------------------------------_----------__—~~—--------------■ ■ * Gwel' Cyfaill,' cyf. iv., tu dal. 153. t Gro. Owain, Marwnad John Owen, Ceidio, Lleyn. Cyf. IV. 25 yd am dano, ' Yr hyn a allodd hẁn, efe aH gwnaeth.'' Wedi cyrhaedd 26 oed, ymunodd mewn priodas â Chatharine Roberts, ei weddw- wraig bresennol, o blwyf Ffestiniog, a threul- iodd y rhan olaf o'i amser yn Nghymru yn y plwyf uchod, lle y bu yn .flaenor' Cymdeithas (Society) amryw flynyddau, nis gwyddom yn awr pa faint, eithr hyd y flwyddyn 1831, pryd y cychwynodd i'r wlad hon. Arhwyliodd o Frydain y lOfed o Fawrth, gyda'i wraig a phedwar o blant, yr hynaf a'r ieuangaf o ba rai a fuant feirw ar y môr—un yn 10 a'r llall yn 2 fiwydd oed—a'r gweddill a gyrhaeddasant Utica y 3ydd o Fai canlynol; ac ar y 9fed, esgorodd ei wraig ar fab, yr hwn a fu farw yn 14 wythnos oed. Yn yr amser hwn yr oedd mewn dygn brofedigaeth, oblegid aethai ei holl deulu dan law y meddyg, er na chollodd ond yr ieuangaf o honynt y pryd hwn. Hydref 15fed, 1834, cafodd ganiatâd i dde- chreu pregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn swydd Oneida.—Cawsai ei flino er ys 15 mlynedd gan y crydcymalau, (rheumatism,) a thua'r amser hwnw ymosododd ei anhwyldeb arno yn drwm o herwydd gweithio mewn dwfr, a hu yn orweiddiog am ddau fis, fel yr aeth yr olwg arno y pryd hwnw hyd yn nód yn waelach na'i ddyddiau diweddaf. Dan y clefyd hwn caf- odd ddatguddiad eghu o'i anfoniad i waith y weinidogaeth, a thystiai yn gadarn iddo glywed llais fel llais dyn Lyn dywedyd wrtho, (pryd yr oedd yn meddwl ei fod yn myned i farw,) ' Ni chei di farw yrwan—mae genyf fi waith i ti