Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. XLII.] MEHEFIN, 184 1 [Cyf. IV. Y 1« W E X> » P R. B G K T H Olygydd Hynaws,—Yn ddiweddar wrth ddarllen hen lyfryn ag sydd yn fy meddiant, canfyddais ynddo benau Pregeth a bregethwyd gan y diweddar Barch. David Jones, o Langan, Mehefin y 5ed, 1798 ; ac wrth eu darllen, cefais bleser nid bychan, a meddyliais y buasai yn hoiî gan lawer o ddarllenwyr y ' Cyfaill' eu gweled ; ac oddiar hyny penderfynais eu hadysgrifenu i'r dyben o'u cynnyg i chwi iddeu cyhoeddi; ac os byddwch yn eu hystyried yn deilwng o le yn eich misolyn buddiawl, cyflëwch hwynt ynddo heb fod yn mhell oddiwrth y ' briw-fwyd gweddill.' Ydẅyf ewyllysiwr da i'r ' Cyfaill,' Carbondale. Daniel Scubrt. Col. m. 3.--" Canys meirw ydycH, a'cîi bywyd a gnddiwytl gyda CSurist ya Snw." Meirw ydych ! Gwirionedd yw hyn am bob gwir Gristion ! Y maent yn feirw i bedwar peth: I. MeIRW I BECHOD. 1. Yn feirw i gariad ato. Y mae pawb sydd yn caru pechod yn elynion i Dduw. 2. Meirw i'w gynhyrfiadau. Y maent yn ddarostyngedig i'w gynhyrfiadau, ond yn cael nerth i'w gwrthwynebu. Fel y mae y pysgotwr weithiau yn gosod un pysgodyn yn abwyd yn ei fâch i ddal y Uall, felly y mae satan yn abwydo ei fách âg un proffeswr i ddal un arall; eithr ni ddilyn y gwir Gristion un dyn yn mhellach nag y byddo ef yn dilyn Crist. 3. Meirw i'r hyfrydwch sydd mewn pechod. Y mae y gwir Gristion yn dewis yn hytrach ddyoddef adfyd gydâ phobl Dduw na mwynhau pìeserau pechod. II. Meiew i'r ddeddf. Y mae y gwir Grist- ion mór farw i'r ddeddf o ran dysgwyl iechyd- wriaeth trwyddi, ag ydyw i bechod. Yn farw i'r ddeddf seremomol, ac i'r ddeddf foesol. Y mae Crist wedi dyddimu y gyntaf, a boddloni a dystewi yr olaf. Pa beth bynag y mae y ddeddf yn ei ofyn, y mae y Cristion yn dywedyd, ' Nid oes genyf fì ddim i dalu ; nis gallaf ondyn unig apélio at Grist fy Mechniydd.' III. Meirw i'r byd. Y mae yn anmhosibl bod yn wir Gristion a pheidio bod yn farw i'r byd. Y mae pob gwir Gristion yn ddyn wedi ei groeshoelio; wedi ei groeshoelio i'r byd, (fel y dywed yr Apostol,) i wêniadau y byd yn gystal ag i'w ŵg ; i'w bethau goreu yn gystal ag i'w bethau gwaethaf. Marw i gyfoeth y byd. Y mae tri pheth yn blino, neu yn dwyn meddwl y dyn cyfoethog:—1. Y mae arno eisiau ychwaneg. 2. Y mae yn ofhi cael Hai: sc yn fwy na dim, Cyf. IV, 21 yn 3. Y mae yn arswydo gadael y cwbi—dros byth'. IV. Meirw i hunan. Er mór gaied yw y wers hon, sef, ' dysgu marw i hunan,' y mae yn cael eí dysgu gan yr Ysbryd Glârt. Hunan yw gelyn mwyaf y Cristion, hyd yn nôd, pan fyddo gelynion craill yn gorwedd yn lladdedig ar y maes, y mae 'r anghenfil hwn, sef hunan, yn dyfod i mewn ác yn hóni hawl i'r fuddygoliaëth. Mae rhai dynion yn hoff o gadw gwas dû yn mysg eu gosgordd, ond y mae 'r Cristion yn teimlo llawer o drallod o blegid y dyhiryn dû hwn, sef hunan, yr hwn sydd yn ei ddilyn mór agos ac mór gysson : y mae yn dra mynych yn esgyn i'r areithfa, ac yn andwyo y bregeth; ond ffyddlon yw Duw, yr hwn a addawodd ddwyn ei bobl yn ddiogel trwy eu holl gyfyngderau, a'u gwaredu oddiwrth eu holl elynion. Sylwch yn mhellach. Y mae y dynìön meirw hyn yn fyw ! Beth yw bywyd y Cristion? 1. Crist yw yr awâwr o hono: ac (er mór ddyeithr y dichon ymddangos) y mae 'r bywyd hwn yn gwneuthur dyn yn farw i bob peth ond Crist. 2. Crisí yw cynnaliwr y bywyd hwn, yn gys- tal a'r awdwr o hono. Tybia rhai, yn ol iddynt gael grâs, y rhaid iddynt gymeryd gofal i'w gadw ; ond yr wyf fì yn gweled y rhaid i ras fy nghadw i, neu na bydd i mi gadw fy hun. Yr ydym weithiau yn siarad am gynnal achos Duw, eithr yr achos sydd yn ein cynnal ni. 3. Crist yw gwrthildrych a dyben y bywyd hwn. Yr ydym yn byw amo ef yma, ac yn go- beithio cael byw gydag ef dros fyth ynol hyn. Ond y mae y bywyd hwn wedi ei onDDio—si guddio gyda Christ yn Nuw; y mae yn gudd-