Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Khif. XXXV. IACH WE»1>, 1840. Cyf, III. îSttcpraetfjoîraet!). COPIANT AMRAI GYMRY O WAEDOLIAETH.----AR- WYDDWYR DADGANIAD ANNIBYNIAETH YR UNOL DALEITHAÜ. GAN DANIEL 1«. JONES, C. N. Gan y bwriedir gorphen buchdraethodaeth y nifer hyny o enwogion Cymreig a arwyddas- ant y Dadganiad o Annibyniaeth yn y gyfrol hon, rhaid talfyru gyda'r gweddill,—Cyhoedd- wyd eisoes wyth o honynt. Enwir yn IX. RICHARD HENRY LEE. Ganwyd R. H. Lee yn Statford, swydd Westmoreland, Virginia, ar yr 20fed o Ion., 1732. Enw ei dad oedd Thomas, a'i fam Hannah. Bu ei dad yn enwog, megys Llyw- ydd Cynghoifa Brenhin Prydain yn flaenorol i'r Chwildioad. Ei daid, a'i hendaid o'r un enw, Richard Lee, mab Edward Donn Lee, oeddent frodorion o Abercoyvon, Cymru, ac a fudasant i'r wlad hon yn amser teyrnasiad Siarls L—Gwnaeth ei hen-daid amryw fôr- deithiau drachefn yn ol ac yn mlaen o Gymru yma, gan ddwyn gydag ef bob tro lawer o drigolion Prydain i sefydlu yn Virginia. Yr oedd yn cael darn o dir dan yr enw Pen-hawl am bob person a ennillai i'r anturiaeth. R. H. Lee, gwrthddrych y Cofiant hwn, a gafodd ei ddysgeidiaeth yn Lloegr, lle y daeth yn gydnabyddus â Syr William Jones, gyda'r hwn y bu yn cyfeilíachu llawer. Wedi ei ddyehweliad adrefdewiswyd ef yn y flwyddyn 1757 yn aelod o Dŷ y Bwrdeis- wyr. Amlygoddeiddoninuynmlaenaf mewn gwrthwynebiad i ysgrif ormesawl Prydain yn sefydliad y weithred argrafF-nodawl (stamp act), ac o hyny allan esgynodd mewfi poblog- eidd-dra. Yn y flwyddyn 1773, cynhygiodd Mr. Lee yn y Bwrdeis-dŷ, ei gynllun clodfawr er ffurf-' iad Cyfeisteddfod Ohebiaethawl.dyben yr hon oedd gwasgaru gwybodaeth, ac ennyn fflam rhyddid trwy yr holl gýfandir, i'r hyn y bu yn dra effeithiol. Cyf. III. 41 Dewiswyd ef yn 1774 a 1775 yn gynnrych- iolwr dros Dalaith Virginia i'r Eisteddfod Gyfandirawl, ac yn y flwyddyn ganlynol ca- fodd yr anrhydedd, nid yn unig o arwyddo y Dadganiad a roddodd fod i'r Gyffrediniaeth Americanaidd, ond efe a gynhygiodd y pen- derfyniad a arweiniodd i gyfansoddiad yr ys- grif ryfeddol hono. Wedi gwasanaethu ei genedl yn y swyddi anrhySeddusaf, a derbyn cydnabyddiaeth gy- hoeddus droion, galwyd ei enaid i fyd yr ys- brydion ar y 19eg o Fehefin, 1794, pan yn 03 mlwydd oed.—Bu yn briod ddwy waith, a gadawodd ar ei ol lawer o blant. Cyhoedd- wyd hanes ei fywyd mewn dwy gyfrol gan ei ŵyr, o'r un enw, sef Richard Henry Lee, i'r hwn yr ydwyf yn ddyledus am yr hanes byr blaenorol. X. FFRANCIS LIGHTFOOT LEE. Yr ydoedd Fí'. L. Lee yn frawd o'r un dad a'r un fam i wrthddrych y Cofiant blaenorol —gan hyny nid oes anghenreidrwydd myned dros eiddisgyniad Cymreig. Ganwyd ef ar y 14eg o Hydref, 1734. Nid oedd yn ol mewn hynodrwydd i'w l'rawd R. H. Lee, ond gan fod y terfynau yn galw am dalfyriad, rhaid i mi gyfeirio y neb a chwennycho hanes helaeth- ach a mwy manwl am dano, at' SaundeìSfm's Biography,' fyc, ' Enapp's History of the U. States,' yn nghydag ' Allen's Amerìcan Bio- graphy' &c. Dewiswyd ef yn y flwyddyn 1765 yn aelod o Fwrdeis-dŷ Virginia, Ue y bu am lawer o flynyddau, nes ei ddanfon yn gennad i gynnrychioli yr unrhyw dalaith i'r Eistedd- fod Gyfandirawl yn 1774-75-76, lle y gosod- odd ei enw wrth yr offeryn hwnw a ryddhâodd America oddiwrth ormes Prydeinig, ac sydd, ac a fydd yn gofadail o'i wladgarwch a'i wr- oldeb. Bu yn cyflenwi amryw o swyddau uchel hyd derfyniad ei yrfa ddaearol,yr hyn a gymerodd le ar y 4ydd o Ebrill, 1797. XI. JOHN PENN. Ganwyd John Penn yn swydd Carolina, Talaith Virginia, aryr 17eg o fis Mai, 1741 Efe oedd unig blentyn Mr. Moses Penn, yr hwn y bernir ei fod o'r un teulu a'r tra enwog William Penn, sylfaenydd hybarch Pennsyl- vania. Am hawl y Cymry i arddel perthynas