Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Bhif. XXXIV. HTDBEF, 1840. Cyf. III. SSucpraetíjoîffretf). COFIANT ROBERT MORRIS: CYMR0 O WAEDOLIAETH : ÜN 0 ARWYDDWYR DAD- GANIAD ANNIByNlAETH Y TALEITHAü UNAWL, &c. GAN DANIEL L. JONES, C. N. Wrth osod o flaen darllenwyr y ' CyfailP restr o wrthddrycbau o genedl y Cymry a'u heppil, y rhai, yn eu dydd a'u cenedlaetb, a fuont o enwogrwydd yn y byd, ac o anrhyd- edd i'w cydwladwyr, braidd na feddyliem fod yn ddyledswydd arnom gydnabod rbagorol- deb gwrthddrych y Coíiant hwn, sef yr Anrh. Robert Morris, prif-gyllidwr {Jinancier) yr Unol Daleithau, yr hwn a ragorodd gymaint ar y boneddigion Americanaidd oedd yn cyd- oesoli ag ef, fel y cawn ddangos yn y Buch- draethiad byr a ganlyn. Robert Morris, Ysw., a an wyd yn Llynlleifiad ar y 20ain o Ion., 1734. Ei dad, Robt. Morris, a anwyd yn Nghymru, ond y lle a'r amser nid ydy w yn adnabyddus i ni yn America; ond y mae llythyrau ei dad, gystal a theulu ei dad yn nghyfraifh, yn Fhiladelphia, oddiwrth amry w bersonau o'r enw Morris, yn Nghym- ru, sef, John Morris a William Morris, yn Nghaerfyrddin, ac un o'r enw Robert Morris, Curad Llangynhafal, ac amryw o'r un enw o barlhau eraill o Gymru; ac yn 1770, efe ei hun a dderbyniodd lythyr oddiwrth un Henry Morris, Maer Caerfyrddin. Ac yr ydys yn barnu mai perthynasau agos iddo ef oeddynt. Eidad, yr hwnoedd fasgnachwrogymeriad uchel yn Llynlleifiad, yn 174G a symudodd i'r America, ac a drigiannodd yn Oxffbrd arFor- gilfach y Chesapeake. Yr oedd wedi gadael ei fab, ei unig blentyn, dan ofal ei fodryb, am yr hwn, yn 1747, yr anfonodd. Daeth ei fab drosodd pan yn 13 mlwydd oed, Ei dad a'i gosododd ef yn ysgol Mr. Annan, yn Phila- delphia. Yn mhen ychydig amser efe a anfon- odd lythyr at ei dad yn dywedyd, ei fod ef Wedi dysgu cymaint ag a allai Mr. Annan addysgu iddo.—Yr oedd Mr. Morris, yn lasg- nachwr eang, ac yn oruchwyliwr ar longau Cyp. III. 37 Llynlleifiad. Rhoddodd wahoddiad i lawer o'i gyfeiilion i ddyfod i giniawa ar fwrdd un o'r llongau, ac wrth ddychwelyd o'r wledd yn y bâd', y Cadben a'i cyfarchodd trwy danio cyfiegr, tusw (ward) pa un a'i tarawodd ar ei fraich, yr hyn a achosodd ei farwolaeth yn 1750, gan adael ei unig blentyn, Robert Mor- ris, yn amddifad pan yn 15 mlwydd oed.— Mewn cydfíurfiad ag amcan eidad i'wddwyn i fyny yn fasgnachwr, Mr. Charles Willing, un o'r prif fasgnachwyr y'n Philadelphia, a'i cymerodd ef i'w gyfrifdŷ ; ac efe a ymunodd mewn cyfranogaeth á Mr. Thomas Willing yn 1754; a buont y masgnachwyr enwoccaf yn nhref Philadelphia am 39 o flynyddoedd. Ar yr 2il o Fawrth, 1769, ymunodd mewn priodas â Mary White, chwaer yr Esgob White, o PhiJadelphia. • , Eu Mr. R. M. yn gyfaill gwresog yn gyn- naro blaid y Trefedigaethau yn eu hamrafael â Phrydain Fawr. Dewiswyd ef i lawer o swyddau; ac i'r Eisteddfod Gyfandirawl yn 1775; ac felly y parhâodd hyd Ddadganiad yr Annibytiiaeth, Gorph, 4ydd, 1776. Pen- nodwyd ef gan y corph hwnw i fod yn brif- gyllidwr yr Unol Daleithau. Yr oedd yn amser blin arnynt, a'r rhyfel yn eu gwasgu, pan y derbyniodd Mr. Morrislythyr oddiwrth y Cadf. George Washington yn eiawdurdodi i godi arian i gario y rhyfel yn mlaen. Cyf- arfu Crynwr ag ef pan yn dychwelyd adref, yr hwn a ofynodd iddo ' Pa newydd oedd ganddo V—Atebodd Mr. Morris, ' Mae arnaf eisiau $10,000 i'r Cadf. Washington heddyW' — ac ychwanegai,' mae yn rhaid i chwi adael i mi eu cael—fy ysgrif-nod a'm hanrhydedd fydd eich sicrwydd am dariynt.'—Safodd y Crynwr am fynyd, ac atebodd, ' Tydi a'u cei.' Ac felly gyrrwyd hwynt i'r Cadfridog. Yn 1779 a 1780, ni a welwn eto angrhaifft o'i wladgarwch ef, pan oedd blynyddau blin- derus yn crogi uwch ei wlad, a'r rhyfel braidd yn amheuol, a thrysor milwraidd y fyddin wedi darfod, prynodd Mr. Morris gafnau plwm, dwfr-bibau y tai, a phwysau yr awr- leisiau, er eu toddi yn belenau i'r fyddin, pan yr ennillodd y Cadf. G. Washington frwydr fytholgof Trenton, J. N. Hefyd, yn 1781, anfonodd y Cadf. G. W. lythyrau at Mr. R. M. am arian i gynnorth- wyo y fyddin, a Mr. E. M. oèdd y blaenaf ar y