Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Khíf. XXXIII. MEDI, 1840. Cyf. III. iSuc^Uraetiöoîíaftfí* COPIÀNT STEPHEN HOPEINS: CYMR0 O WAEDOLIAETH : UN O ARWYDDWYR DAD- GANIAD ANNIBYNIAETH Y TALEIT.HAU UNAWL'. &c. 6AN DANIEL L. JONES, C. N. Yr oedd Stephen Hopkins yn frodor o'r rhan hyny o Providence a elwir Scituate, yn Ynýs Rhodë, lle y'i ganwyd ar y 7fed o Fawrth, 1707. Ymfudasai ei' hen daid, Thomas Hop- kins, o Gaerdydd, swydd Forganwg, Cymru, yn y flwyddyn 1630, fel y crybwyllwyd yn y Cofiant blaenorol, yn nghyfeillach I. Williams, tad W. Williams, hynaf,pregethwr,o Hatfield, Mass., ac amrai Gymry eraill. Wedi cyrhaedd yma, yrnbriododd i deulu cyfrifol ac anrhyd- eddus, sef â 'merch Mr. Benedict Arnold, Llywiawdwr cyntaf Ynys Rhode, dan y freinnlen gyntaf a gafwyd trwy lafur ac ym- drech personol ein hybarch gydwladwr, y Parch. Roger Williams, yn y flwyddyn 1644. Tad gwrthddrych y Cofiant hwn, William Hopkins, ydoedd unig blentyn ei dad, Wm. ap Thomas Hopkîns. Efe a briododd Ruth, merch y Parch. William WiIkinson, pregeth- wr gyda'r Bedyddwyryn Provídence. Stephen ei ail fab, ydoedd frawd i E?ekiel Hopkins, y môr-raglaw, yr hwn a wnaed yn brif Archwr Llynges y'r Unòl Dáleithau, yn Rhagfyr, 1775. Gwrthddrych y Cofiant hwn, S. H., a gaf- * Y raae llawer o'i berthyhasau yn awr yn fyw, ac yn dílyn galwedigaethau ÿn, Nghaerdydd. Miriam Hopkins, merch Thomas Hopkins, a briododd yn - 1828,â Thomas Walters, ieu., o Abertawy, mab Thos. Walters, diweddar brynydd yr Hen Gastell, yn Aber- tawy, swydd Forganwg, Deheudir Cymru. Hefyd, Edward Hopkins, ei ewythr, a adawodd Gaerdýdd ac a aeth i Lundain, a dàeth yn fasgnachwr enwog yno. Tiriodd yn yr America yn Mehefin, J637, ac ymsefydl- odd yn Hartfford, Cunnecticut, a dewiswyd ef i fodyn Llywydd. o'r flwyddyn 1648 hyd y 'flwyddyn 1654. Wedi hyn dychwelodd i Lundain Ue y bu farw, Mawrth, 1657. Gwel ' Historical Collection' of Rhode Islaud,' Vol. II., page 213, and 'Hutchinson's History of Mas- sachusetts,' p. 81, and his Coìlectíon of Cons. Sander- son^s Biography of the Signers of Declaration of In- dependence, Vol. VI., p. 225. Cyf. III. 33 odd ei addysgu yn yr ysgol gyffredin, ac a yfodd ỳn ddwfn o ffynnon dysgeidiaeth. Yr oedd yn hynod gyfarwydd yn y celfyddydáu; . a bu yn Arolygwr rhagorol ar y cyfryw am lawer o flynyddau. Cyflawnodd swydd Barnwryny flwyddyn 1728, cyn bod yn 21 oed.—Dewiswyd ef yn Hedd-lëenawg tref Scituäte; ac yn fuan de- wiswyd efi gynnrychioliydref yn y Cynnull- iad Cyffredìno\(General Assembly). Yn nghylch yr un amser pennodwyd ef yn Ynad Hedd- wch y dref; a chafodd ei bennodi yn farnwr Ll.ys Dadleuaeth Gyffredin. Yn y flwyddyn 1733, pennodwyd ef yn Brif-farnwr y Llys hwnw. Y swyddau hyn a gyflawnodd gydag anrhydedd mawriddö ei hun, a manteisiol i'r wlad. Hydref, 1742, gwerthodd ei etifeddiaeth yn Scituate, a symudodd i Providence, lle yr ad- eiladodd dŷ, yn yr hwn y trigiannodd hyd ddydd ei farwolaeth. Yn y lle olaf hwn efe a anturiodd i faterion masgnachol, adeiladu lldngau, a'u parotoi i fyned allan. Yn y dref hon (Providence) etholwyd ef i Dŷ y „Cyn- nrychiolwyr, a gwnaethpwyd ef yn Areíthiwr y Tŷ. Yn y swydd hon y parhâodd hyd y flwyddyn 1751, pan ddewiswyd ef i fod yn Brif-farnwr y Goruwch-lys, yn mha swydd y bu hyd y flwyddyn 1754, pryd y pehnodwyd ef yn Rhagswyddwr Ynys Rhode i'r Gymanfa glodfawr a gÿfarfuant yn Albany, gwrth- ddrych pa un óedd sicrhau ev/yllys da y Pum Cenedl Indiaidd yn y rhyfel Pfrengcig oedd yn agoshau, yn nghyda chael undeb rhyng- ddynt â threfedigaethau Prydeinig America. Yn foreu yn y dyryswch rhwng y trefedig- aethau a Phrydain Fawr, efe a gymerodd ran fywiog a phenderfynol yn mhlaid y cyntaf.—- Mewn llyfryn a elwid " Defion (Rights) y Trefedigaethau wedi eu Hystyried," yn mha un y dynoethodd annghyfiawnder yr argraff- weithred (stamp-act), yn nghydag amrai eraill o eiddo y Lìy wodraeth Brydeinig. Y llyfryn hwn a gyhoeddwyd trwy orchymyn yr Eis- teddfod Gyffredinol yn y flwyddyn 1765. Yn y 'flwyddyn 1774, dewiswyd ef yn Genhadwr dros Ynys Rhode i'r eisteddfod gîodfawr hono. Yn 1775 a 1776 bu yn cynnrychioli Ynys , Rhode yn yr Eisteddfod Gyfandirawl. Yn y