Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Ri»if. xxviai. E BRII.L, 184©. Cyf. III. î3ucpra0t$oîraet$» COFIANT MR. THOS. JEFFERSON, Cynlluniwr Datganìad Annibynawl y Taleiíh- au Unawl; un o arwyddwyr yr unrhyw; aü Is-lywydd a thrydydd Llyicydd y Gyffredin- iaeth (Repubiic) Americanaidd. Efallai yr ystyrir rhyw ymesgusodiad yn anghenreidiol wrth osod Buchdraeth y gŵr úchod o flaen enwogion eraill, brodorion Cymreig, gan nad ydym yn hòni iddo ef yr hawl o fod yn Gymro cyflawn-waed. Y rhe- swm yw, am mai efe a gyrhaeddodd y râdd wladwriaethol uchelaf, ac nad ydyw ond yn ail i George Washington ei hun mewn enw- ogrwydd yn America; ac y .mae clod ei gynneddfau uchel-ryw yn daenedig drwy yr holl fyd adnabyddus. Nid oes nemawr ag a glywsant son am America, na chlywsant hefyd am Jefferson enwog. O barthed ei haniad Cymreig, y mae genym y sicrwydd goreu, sef eì dystiolaeth ef ei hun; a chun mai at hyny y tynnir sylw darllenwyr y Cyfaill, efallai, yn benaf, rhagflaenaf ei gofiant â phrawf o hyny, wedi ei dynu allan o'i' Ddyddlyfr,' yr hwn a ysgrifenwyd ganddo Ion. 6fed, 1821, pryd yr oedd Mr. JeíFerson yn 77 mlwydd oed: ' Mae y traddodiad yn nheulu fy nhad idd eu hynafiad ddyfod i'r wlad yma o Gymru, ae o ardal yr Wŷddfa, y mynydd uchaf yn Mhrydain Fawr. Gwelais unwaith mewn achos o Gymru, yn yr adroddion brawdlysawl, ein henw ni ar un o'r personau, naill ai yr er- lynydd neu y diffynydd; ac yr oedd un o'r enw yn ysgrifenydd i Gydfasgnachyddion Virginia. Y rhai hyn oeddent yr unig eng- rheifftiau a gyfarfyddais o'r enw yn y wlad hono.' Rhaid cyfaddef nad yw y dystiolaeth hon ond bèr, ond y mae yn ddigonol i brofi hawl y Cymry yn ngwrthddrych y cofiant hwn; a chan nad oedd y gwr ei hun yncywilyddiaw arddel ein cenedl, oni ddylem ninau ei arddel ef yn frwdfrydig ac yn ëofn î Ganwyd Thomas Jefferson ar yr 2il dydd Crr. III. 13 o Ebrill, 1743, mewn lle a elwir Shadwell, yn swydd Albemarle, Virginia. Yr oedd ei deulu yn anrhydeddus yn y wladwriaeth, ac yn byw mewn amgylchiadau goludawg. Enw ei dad oedd Peter Jefferson. Yr oedd yn dra adnab- yddus fel gwr o gynneddfau celfyddgar uchel. Ar farwolaeth ei dad daeth y mab hwn i fedd- iant o'i etifeddiaeth. Nid oes ar glàwr nemawr o hysbysiaeth am dymhor boreuawl Mr. J., Ond yr ydwyf yn deall íddo gael ei dderbyn i Ysgoldŷ Gwilym a Mari, yn Williamsburgh, Va., pan yn ieuangc. Wedi hyny aeth i astudio y gyfraith dan gyfarwyddyd yr enwog Wythe, lle y'i cynnysgaeddwyd a'r destlusrwydd di- gydradd, a threfti ragorol mewn trafodaeth hyny a roddodd iddo, trwy ystod ei fywyd, yr hwylusdra a'r dylanwad a nodweddent ei holl weithredoedd swyddogawl. Galwyd ef i ymarferu yn y brawdlysoedd, ond nid hir y bu yno cyn i'r wladwríaeth alw am ei döoniau; a phan yn yr oedran íeuangc o 25, anfonwyd ef i Dŷ Bwrdeisiawl Virgin- ia; ac yno yr ardystiodd ei hun gyntaf oblaid iawnderau y trefedigaethau. Rhoddir ganddo mewn ychydig eiriau ei resymau dros ymuno âg eraill o wladgarwyr Americanaidd yn er- byn Llywodraeth Prydain Fawr: ' Yr oedd y trefedigaethau,' meddai, ' wedi eutrethu yn dufewnol ac yn allanol: eu brein- niau hanfodol wedí eu haberthu i unigolion yn Mhrydain Fawr; eu llysoedd deddf 'iawl wedi eu dirymu ; eu breinnléni wedi eu dileu; eu personau yn ddarostyngedig i gael eu traws- fudo dros y Môr Werydd i'w profi mewn llysoedd pellenig; eu herfyniadau am es- mwythâd yn cael eu hystyried îslaw ateb iddynt; hwy eu hunain yn cael eu cyhoeddi megys llwfr-gŵn yn nghynghorfâau eu mam- wlad, a llysoedd Ewrop; byddinoedd arfog- ion yn cael eu gyrru i'w mysg er gorfodi ym- ostyngiad i'r creulonderau hyn; a rhyfel weithredol wedi dechreu yn eu herbyn. Nid oedd dim i'w wneyd ond naill ai gwrthwyn- ebu neu ymostwng yn ddiammodol. Rhwng y ddau beth hyn nîs gallai fod petrusder.— Terfynodd mewn apèliad at arfau.' Ysgrifenodd hefyd lyfr o'r un natur, yn cael ei gyfeirio at Frenhin Lloegr, am yr hyn y'i bygythiwyd a chŵyn am deyrn-fradwriaeth,