Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Rhif. XXVII. MAWRTM, 184«. Cyf. III. îSucpraetfjoîífietíj, COFIANT ROGER WILLIAMS, TSA ENWÛG SYLFAENYDD TALAITH YNYS RHODE. (Parhad o <in dal. 35, Cyf. III.) Odimar natur breinnlen trefedigion Ynys Rhode, yr oedd dewisiad eu swyddogion yn gorphwys arnynt hwy eu hunain, yr hyn a wneid yn flynyddol. I ddangos eu parch i Mr. W. dewiswyd ef yn Llywydd am ddwy flynedd yn olynol; ac yr ydym yn caelei enw yn aml mewn swyddau eraiíl, byd nes y gwrthododd oddiar fethiant oedran. Fel crefyddwr, y mae rhesymau digonol i gredu iddo gadw ei gymeriad Cristionogol hyd ei fedd, Y mae ei lyfrau a'i lythyrau yn dwyn argraff enaid mewn cymdeithas â Duw. Mid oedd, o herwydd y farn a goleddai, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yn dàl perthynas ag un eglwys; amgylchiad galarus oedd hwn, oblegid, nid yn unig yroedd hyny yn niweid- iol i'w anrhydedd a'i ddefnyddioldeb, eithr hefyd yn lleifaau ei fwyniant personol, a'i gynnydd ysprydol. Fel gweinidog yr efengyl y mae genym brofion na ddarfu iddo ymattal yn hollol oddiwrth ei lafur, er ei fod yn rhwym oddiar ei farn o gyfyngu ei hun at' broph wydo,' neu ddatganiad o'r gwir, a thystio yn erbyn cyfeiliornad, yr hyn, mae yn debygol, a ddil- ynodd yn achlysurol hyd ddiwedd ei oes.— Llafurioddlawer yn mhlith y Narragansiaid; eithr, er y gwrandawent ar Mr. W. oddiar eu parch iddo fel dyn, eto yroeddent yn wrthwyn- ebwyr cryfion i'r efengyl. Er hyny, gobeithir gweled yn nydd mawr y didoliad, na fu ei laf- ur yn hollol ofer i'r anwariaid tywyllion hyny. Cyn diwedd ei oes cafodd Mr. W. ddadl ofidus â'r Crynwyr, (Quakers). Yr oeddent wedi tirio yn Massachusetts, ac wedi dyoddef îlawer iawn yn achos eu daliadau, o ddirwy- au, fflangelliadau, serio trwy eu tafoduu, a di- enyddiadau, nes iddynt o'r diwedd fudo i Drefedigaeth Rydd Ynys Rhode» O herwydd Oyp. III. 9 na chytunai y Daìaith olaf â'r lleill i'w herlid trwy gyfreithiau grymus, enllibiwyd holl dref- edigion y Dalaiíh â'r gair eu bod yn gyffelyb iddynt yn eu daliadau. Ni fedrai Mr. W. ddyoddef hyn yn daweì, o ganlyniad oddiur aidd dros y gwirionedd, yn nghydag awydd i amddiffyn y Drefedigaeth yn ngwyneb y cy- huddiadau disail hyn, arweíniwyd ef i yspryd dadl gyda'i boethder arferol. A phan ddaeth yr enwog George Fox i Ynys Rhode, cymer- odd achlysur i'w wahodd i ddadleuaeth gy- hoeddus trwy yr hèriaeth ganlynol:—' At G. Fox, neu rywun arall o'm cydwladwyryn Newport, y rhai a ddy wedant eu bod yn apos- tolion ac yn genhadon Iesu Grist. Mewn hyder gostyngedig o gymhorth y Goruchaf, yr wyf yn cynhyg profi, yn erfayn pawb a ddelo yn mlaen, y pedwar gosodiad ar ddeg a gan- lynant, sef, y saith cyntaf yn Newport, a'r saith eraill yn Providence. Am yr amser a'r pryd yr wyf yn gadaei ar G. Fox a'i gyf- eillion, yn Newport.' Amcan yr holl osodiadau uchod oedd, profi fod athrawiaeth.au y Crynwyr yn anysgryth- yrol ac yn niweidiol. Cynnaliwyd y ddadl gan y gwron, er ei fod yn 73 mlwydd oed, yn Newport am dridiau, ac un diwrnod yn Pro- vidence ; a dybenodd fel y cyfryw ddadleuon yn gyffredin, heb effeithio dim cyfnewidiad yn ngolygiadau y naill na'r llall. Ysgrifenwyd llyfrau wedi hyny o bob ochr ar yr un achos. Yr ydym yn ei gael wedi hyny yn 77 ml. oed, yn derbyn teitlcadben, ac yn ymarfogi i gynnorthwyo ei gydwladwyr yn ngwyneb yr ymosodiad a'r frwydr waediyd a dinystriol a ganlynodd trwy yr enwog Indiad, Phylip, ail fab Massasoit, hen gyfaill Roger Williams.— Yr oedd galwad parhaus ar Mr. W., yn awr ac yn y man, i gyfryngu ei ddylanwad er cadw heddwch rhwng yr Indiaid a'r sefydl- wyr—ac yr oedd yn gyffifcditi yn Uwyddiann- us. Pan neshaodd yr Indiaid i Proyidence, cymerodd Mr. W. ei ffon yn ei law, ac aeth ì'w cyfarfod. Ymresymodd a'u Snchemiaid, a rhybuddiodd hwynt i ochelyd gallu a d'íal y Saeson :—' Geill Massachusetts,' eb efe, ' ar- wain i'r maes filoedd o ddynion y fynyd yma, a phe Uaddech hwynt,anfonai Brenhin Lloegr rai i lanw eu Ue cyn gynted ag y syrthient.'— 1 Wel,' atebai un o'u penaethiaid, ' bydded