Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

26 CRYBWYLLION LLENYDDOL. drafferth, yn llwr fy nghefh, y cyr- haeddais y gwaelod. Gan nad oedd genym ddhn rhagor i'w wneyd gyda golwg ar y Gloch, treuhasom y gweddül o'r dydd, a rhai dyddiau ereül, i weled y wlad o am- gylch. Bu y Gof mawr, a gofiaid ereül, yn garedig iawn i mi; ac ni ddylwn anghofio gwraig y gof, na'u chyfeilles, y " Golofn Brydferth." Galwasom i weled Gof Llandudoch— dyn galluog i'r eithaf. Mae ganddo dair Efail, ond rhaid cydnabod fod ganddo gynorfchwywyr da. Mae Eg- lwys ardderchog yn Llandudoch, yn ymyl hen Fonachdy Sant Tudwyl. Fe welais Eglwysi Llangoedmor, Monington, a Lanton (cofiaf byth am yr olaf). Y mae Eglwys Monington yr hafddaf a welais erioed, wedi ei darhwio gan foneddiges Pant y Saeson. Aeth y Gof mawr a mi i Pantgwyn, i weled cadair farddol Mrs. Griffiths. Hon oedd y gadair gywreiniaf a welais erioed. Mae cadeiriau Siencyn Parry yn rhai gwychion, ond yr oedd hon yn curo pob cadair a welais erioed o'r blaen. Yr oedd digon o le ynddi i ddau ôf cymedrol o ran maint. Yr oedd ei chefn, ei tho, a'i breichiau wedi ei gweithio megys pe y buasai cant o gyrn geifr gorn ar gorn. Can- odd rhywun yr englyn canlynol iddi:— " Cadair, mewn gair yn goron—Cadeiriau Coed derw y Brython; Yn gawell hir, neu gell Aaron, A godrau aur, yw'r Gadair non." Diolchais i'r foneddiges am ei gweled. Gwelais ofìaid enwog ereill — Gof Manor Deifì, Gof Llandygwydd, Gof Cei Newydd, &c. Dydd Iau, dychwelais adref drwy Gastellnewydd Emlyn a Llandysul. Yr oeddwn wedi arfaethu gweled gof neu ddau yn y lle olaf, ond methais. Beth bynag, daeth gwraig un o honynt i'm cyfarch yn yr orsaf, a garw mor lwcus y bu y gwr i gael gwraig cyn hardded. Cyrhaeddais gartref yn ddiogel erbyn chwech o'r gloch, a chefais Pali a'r plant yn iach; ond 'doedd ddim taw i gael ar eu holiadaii amrywiol. Cystal i mi ddyweyd yn y fan hyn, i mi fethu gael golwg ar yr hen Almanaciwr. Yr eiddoch, Yaughan y Gof. CRYBWYLLION LLENYDDOL. CYHOEDDIADAU NEWYDD- ION. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf cychwynwyd pedwar cyhoeddiad new- ydd yn Nghymru—tri o honynt yn gyhoeddiadau Eglwysig. Argrafflr tri yn y Deheu, ac un y Gogledd. Dy- wedwn ninau "hir oes iddynt," heb anghofio Llusern y Llan. |í EHOBYN DDÜ EEYBI. & Mae y bardd talentog hwn wedi cyrhaedd ei bedwar ugain mlwydd oe"d. Efe yw y bardd hynaf sydd heddyw ar dir Gwaha. Teithiodd lawer pan yn ieuanc drwy y wlad hon ac America. Cyhoeddwyd hanes ei fywyd, a llawer o'i brif weithiau, flynyadoedd yn ol. Mae yn \in o'r beirdd cywreiniaf a mwyaf naturiol. Bydd ei " Gorphen- wyd," a " Pwy yw hon," byw ar lafar gwlad am oesau lawer. Nos Lun, Ehagfyr 13eg, ymwelodd Ehobyn Ddu â Merthyr, ac adroddodd lawer iawn o ddarnau o'i farddoniaeth mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Ddir- westol. Dylai y Llywodraeth gan- iatau blwydd-dal i un a wnaeth gy- maint dros ei wlad, a thros ddirwest- iaeth. TEIMLA.D HEN FAEDD. Ymddengys mai Eisteddfod fawr Caernarfon, a gynaliwyd yn 1821, oedd yr olaf y bu yr hen fardd Dafydd Ddu ynddi. Safodd ar Iwyfan yr Eistedd- fod hono i anerch ei gydgenedl. Yr oedd ei olwg yn batriarchaidd, ac yn wir engraifft o wladwr Cymreig o fon- edd uchel. Ebe fe:— " Minau'n hen mewn annhunedd Yma'n byw yn min y bedd; Gwyro mae fy moel goryn At lawr allt dan y gwallt gwyn ; Daw ereill feirdd awdurol Yn fuan, fuan ar f'ol.