Skip to main content

122 t CËEDDOB. [Tachwedd laf, 1803, EIN CERDDORION (RHIP 43.) Mr. W. T. SAMUEL, Caerdydd. NID oes eisieu dweyd wrth ein darllenwyr yn mha le y mae Mr. Samuel yn byw er eu cynorthwyo i'w adnabod; nid oes eisieu ychwaith i ni nodi pa ganghen o gerdd- oriaeth y mae yn rhagori ynddi, gan y gwyddant i gyd mai fel athraw llwyddianuns y mae yn fwyaf adnabyddus. Da genym fod ein oerddorion yn cymeryd at ganghenau gwa- hanol, er mwyn oerdded yr holl faes cerddorol, ao yn hyn mae Mr. Samuel wedi dangos doethineb drwy astudio a meistroli y gelf o addysgu, gan nad oedd neb yn Nghymru yn enwog iawn yn y gang- hen arbenig hon. Yr ydym wedi cael y pleser o wrando a sylwi arno yn rhoddi cynllun-wersi i'r plant lawer tro yn y Cynhadleddau Sol- ffa, ac mewn cario dylanwad ac enill sylw y plant, mae o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'r un a welsom yn Nghymru hyd yn liyn. "Wrth gwrs, mae ei gred a'i gariad at y Sol-ffa yn angerddol, fel nad ydyw ameer na threuliau yn un rhwystr iddo ddilyn ei gredo gerddorol, a gwyddom fod y cynhadleddau a gynhaliwyd yn y Deheudir wedi costio mwy o amser ac arian iddo nag y mae llawer yn ei ddir- nad. Fei Sol-ffaydd y darf u i ni dd'od i gyBylltiad gyntaf â g ef; ao er iddo astudio yr Hen Nodiant pan yn y Coleg, eto Sol-ffa oedd ei fwyd a'iddiod. Yr ychydig amser fu yn Aberystwyth, cawsom yr hyfrydwch o letya gyda'n gilydd, ac er nad oedd ei iechyd yn fforddio iddo weithio yn galed iawn, eto gwnaeth ddefnydd teilwng o'r addysg gyfrenid yn y lle ar y pryd. Yma hefyd y cafodd ei "ran oreu," a phe dywedem with ein darllenwyr ein bod wedi bod o help í ddwyn y fath gwlwm dedwydd o amgylch, byddai rhai o honynt yn barod i ddweyd, "y meddyg iacha dy hun"; ond y mae yn ffaith wedi'r cwbl i mi gael y f raint o helpu yr "achos da" yn mlaen, ac y mae y cwbl wedi ei goroni â bywyd dedwydd a diddan, a hir y parhao felly. Yr ydym wedi cael cymaint os nad mwy o gyfieusderau na neb arall, i weled brwdfrydedd Mr. Samuel gyda'r Sol-ffa, ac ni welsom yr ysbryd cen- hadol morgryf mewn unrhyw un yn nglŷn â cherddor- iaeth. Yr ydym wedi synu lawer gwaith na fuasai y fath frwdaniaeth wedi ysu corph sydd hytrach yn wan. Gwel- som ef unwaith yn arwain Cymanfa Ganu, a llawer tro yn arwain rhai o'i ddarnau yn y gynhadledd. Yr oedd fel canwyll yn llosgi gyda gwynt yn chwythu arni o bedwar ban y byd, ac eto heb ei difa! Canu, arwain, a siarad mewn/wW speed. Eiddigeddwn wrth ei wedd ieuangc a bachgenaidd; ond dichon fod Uawer o hyny i'w briodoli i'r un sydd yn gofalu am dano, a'r olwg lewyrchus a ffyddiog y mae yn ffurfio am bob peth y gosod ei serch a'i feddwl arno. Gorfod iddo fel y rhan fwyaf o gerddorion ddysgu crefft, a hyny yn bur foreu; cafodd bob cefnogaeth at hyny gan ei dad, yr hwn sydd erbyn hyn wedi cyraedd yr oedran patriarchaidd o 89 o flynyddau. Mr. Samuel yw yr ieu- angaf o'r plant, ac y mae yntau erbyn hyn wedi cyrhaedd ei 47. Nid ydym yn bwriadu myned ar ol y dosbarthiadau lluosog sydd wedi bod o dan ei ofal, a'r eisteddfodau a'r cymanf aoedd y mae wedi bod yn beirniadu ac yn arwain ynddynt. Gwnaeth lawer o waith sylweddol-yn Nghaer- fyrddin a'r cylch cyn myned i Tydu, Sir Fynwy, a thra- chefn yn Abertawe lle y bu yn athraw i'r athrawon dan y Bwrdd Ysgol, yn nghyd a'i symudiad yn ddiweddarach i Gaerdydd, lle y mae yn arwain y canu yn Nghapel y Tabernacl, ac yn ymweled â'r ysgolion yn y Barry, ac wedi cael ei benodi yn arweinydd y Côr Dirwestol yn y lle. Y mae droion wedi croesi terfynau Cymru, ac wedi rhoddi arddan gosiad o' i ddawn i addysgu eraill yn Lerpwl, Caer-edin, a Llundain, ac hefyd wedi cymeryd rhan yn y Convention yn Glasgow ychydig o flynyddau yn ol. Gallem feddwl fod ei ferch fach Gwladys yn myned i'w daflu i'r cysgod, gan mor gyflym a hunan-feddianol y mae hi yn myned trwy ei gwersi cerddorol; naill ai yn y tŷ neu yn y cyhoedd. Nid ydyw yn amddifad o awen gerddorol ychwaitb, gan fod ganddi amryw dônau swynol wedi eu cyfansoddi eisioes. Gwelsom yn y Musìcal Her- ald mai Mr. Samuel oedd y cyntaf o Sol-ffawyr Cymru i uno â'r llwythau proffes- wrol (The Musical Profes- sionj ; camsyniad yw hyny, ta rhyw bwys iddo ef ac i ninau. Yr ydym wedi cael y pleser o gydweithredu gydag ef o'r cychwyn yn nglŷn â'r " Cynhadleddau Sol-ffa yn y Deheudir," ac yn barod wedi dwyn tystiolaeth na weith- iodd neb mor egniol ag ef ar ran y mudiad a'r sefydliadau hyn. Gobeithiwn y gwel ei ffordd yn glir i gael Cyn- hadledd unwaith eto o Sol-ffawr y De i ddathlu dechreu y ganrif, ac y câ bob help i ddwyn hyny oddiamgylch. Dylasem fod wedi dweyd ei fod yn ymgeisio at y syml a'r rhwydd, hytrach na'r mawr a'r aruchel yn ei gyfan- soddiadau cerddorol, ac y mae rhai o honynt wedi d'od yn boblogaidd neillduol. " Storm the fort of sin" sydd ar ben y rhestr, ac y mae " Mor hawddgar yw dy bebyll" yn dilyn ar ei hol, ac yn wir, mae y pedrawd swynol " Y deigryn" wedi cael derbyniad cynes, fel y dylai pob " deigryn " gwirioneddol gael. Credwn y gwnai ymweliad Mr. Samuel âg America ddaioni i gyfundrefn y Sol-ffa yn y wlad fawr hono, mae yno fwy o le i genhadwr nag yn y wlad yma. Eisieu ath- rawon galluog sydd yno, ac yr ydym yn synu at lawer o