76 t CËRDDOR. t&orphénâf läf, 1899» galed iawn yw yr un sydd o dan driniaeth ganddo : cys- tadlu ar yr un hen ddarnau, esgeuluso offeryniaeth, &c, &c Eb efe:—"The repertoire of most of our choirs is wretchedly limited, even now the same pieces ar given for chief choral competition, that were given 30 or 40 years ago. . . . Why does not orchestral musio flourish in our midst? "We see violin cases innumerable knooking about in all parts of the country, but orchestras are not forthcoming. Even our congregational singing, which we have good reasons to be proud of, is not what it ought to be if we are as musical as is generally supposed. ... It may be not out of place to express a regret here, at the dis- graceful and irreverent abuse made of some of our beauti- ful hymns, by singing them on all sorts of hilarious occasions," &c, &c. " We never will bow down " sydd ar yr arteithglwyd yn awr, fel yr ymddengys, yn nghymydogaeth Mr. Edwards. Mewn parth arall o'r Deheudir, " Worthy is the Lamb " bia'r maes; a dyna'r prif ddarn mewn Eisteddfod a gyn- haliwyd yn ddiweddar yn nhref Gaefyrddin. O'r naw côr oedd wedi danfon eu henwau, daeth saith i'r gystadleu- aeth. Pa nifer fuasai wedi d'od rybed, pe bae rhyw ddarn newydd, neu un cymhariaethol anadnabyddus wedi ei dde- wis ? 0 bosibl dim un, ac yn bur sicr nid mwy nag un neu ddau. Yn yr Eisteddfod hon torodd Dr. Rogers, un o'r beirn- iaid, allan i ofyn yn ngwyneb yr ystumiau rhyfedd a wnaed gan un o'r arweinwyr:—" Yn enw rheswm, paham na wna arweinwyr ddysgu'r ffordd i arwain ?" Ië! paham? Y mae beirniaid Cymreig wedi pregethu am flynyddau ar y testun yna, ac wedi cael digon o'u dwrdio am hyny. Yn awr ag y mae cerddor Seisnig wedi dweyd y drefn withynt, efallai y gwrandawant arno ef. Medd y Drych :—" Ymddengys i ni mai oferedd yw beichio cystadleuaeth â chyfansoddiadau anllythrenog ac afler, rhy annheilwng i'w condemnio. Dylai ein cystad- leuwyr fod yn gwybod A. B. C. llenyddiaeth cyn meiddio anfon dim i gystadleuaeth; oblegyd nid gwaith y beirniad yw addysgu plantos llenyddol a barddonol i ysgrifenu. . . . Gresyn yw cael Uenorion a beirdd Cymreig ar ol cystadlu am 20 mlynedd, yn ysgrifenu yr un mor annghywir a phan yn dechreu." Mae y sylwadau synwyrol yna yr un mor gymhwysiadol at ein cystadleuon cerddorol—datganiadol a chyfansoddol. Ctnhaliwtd y Feis Ceoil (yr Eisteddfod Wyddelig) eleni yn Dublin, ac er ar linellau tra gwahanol i'r Eistedd- fod Gymreig, deallwn iddi brofi yn llwyddianus. Dywedir y rhagora ein cyfeillion Gwyddelig arnom yn yr adran offerynol, ond nad ydynt i fyny o gryn dipyn yn yr un leisiol, er y canmolir y lleisiau benywaidd yn fawr. Rhoddant i ni batrwn hefyd yn nglýn â darllen ar yr olwg gyntaf. Da genym wel'd fod côr Mr. Jos. Seymour, Mus. Bac, yn gyd-fuddugol ar y prif destun. Y mae Mr. Seymour yn adnabyddus i rai o honom yn Nghymru fel beirniad gwych, a mynychwr ffyddlawn o'r Eisteddfod Genhedlaethol. Dyma un o ymfflamychiadau diweddaf y bardd llawryfol —nid Tennyson, nac o gryn dipyn!— " With wisdom, goodness, grace, she filled For sixty years the throne, And whatso'er her people willed That will she made her own. « More long, more loved, she reigned than all The kings of days gone by; Sceptre may fade and empire fall— Her name will nerer die< "Viotoria! Victoria! Long may she live and reign, The Queen of our inviolate isles And Empress of the main." Gtda rhifyn diweddar o'r Weehly Mail, Caerdydd, caed darlun o Miss Jennie Foulkes, y Soprano ieuango dalentog o Llandudno, a dysgybl i Mrs. Nofello Davies. Gwelwn fod Miss Foulkes yn canu pwy ddydd yn nwy o gyng- herddau Miss Clara Butt—un o gantoresau blaenaf y deyrnas—yn Clifton. Gwelir yr hysbysiad a ganlyn, fel esiampl o Gymraeg up-to-date, yn un o rifynau diweddaf y Drych:—" Er mwyn gwaredu y gweddill gwerthir y llyfr o hyn allan am 30 cents." Y mae Merthyr yn gwneyd ymdrech i gael yr Eistedd- fod Genhedlaethol am 1901 i'r dref boblog hono. Yn 1881 y cynhaliwyd yr olaf yno—yr unig un Genhedlaethol f u yn y lle. Gwelwn fod y Lyric Glee Club, Milwaukee, a ar- weinir gan Mr. Dan Protheroe, yn parhau yn weithgar. Ceir nodiad ar y program—" Ladies will please remove their hats." Nodiad da iawn hefyd. Yn y Christian Admnce, New York, cer darlun a byr- hanes o Mr. George Marks Evans. Gwnaeth Madame Patti ei hymddangosiad gyng- herddol cyntaf ar ol priodi, yn Neuadd Albert, Llundain, yn Mai. Yr oedd mewn llais rhagorol, a chafodd dder- byniad brwdfrydig fel arfer. Y mae genym i groniclo marwolaeth Ap Mawrth yn yr Amerig, a Strauss yn Germani—" Brenin y Waltz," ac awdwr y "Blue Danube," a nifer o ddawns-gerddau a darnau eraill tra phoblogaidd, nid yn unig yn yr Almaen, ond yn mhob gwlad. Bwriada Mr. Parson Price, ei briod, a'i ferch, o New York, dalu ymweliad â'r hen wlad y mis hwn, ac i fod yn bresenol yn mhiif ŵyl y genedl yn Nghaerdydd. Ebai Leonardo da Vinci, "Ni wiw i bawb y mae ganddynt lygaid, feddwl y gallant weled o herwydd hyny o reswm; rhaid cofio mai dim ond y llygaid agorir gan wybodaeth yw y rhai a fedrant weled." Y mae mwy o'r rhyw dêg yn myd y cyfansoddiadau, nag a dybir yn gyffredin, efallai. Yn eu plith gellir enwi Miss Hope Temple (Mrs. André Messager), Miss Florence Aylward, Miss Maude Valerie White, Mrs. Meadows White, Miss Sybil Palliser (dim perthynas i'r gantores o'r un cyfenw), Miss Liza Lehmann (Mrs. Her- bert Bedford), a Madame "Guy d' Hardelot." Fe ŵyr y darllengar am dalent Fanny, hoff chwaer Mendelssohn ; ond yr oedd ganddi wrthwynebiad anorfod i gyhoeddi dim o dan ei henw ei hun, ac o ganlyniad cynwysir rai o'i darnau yn mysg gweithiau ei brawd; er esiampl, y ddwyawd hyfryd " Zuleika a Hassan." Jín JK t m* tiam Mr. JOHN JONES (Eos BradwenJ. Gopidus genym groniclo marwolaeth y cerddor a'r bardd adnabyddus Eos Bradwen, Mai 29ain, yn ei 66 mlwydd oed, ar ol nychu am rai misoedd. Ganed ef yn Corris, Meirionydd, a bu am dymor yn gôr-feistr yn Eglwys Gad- eiriol, Llanelwy. Oddiyno symudodd i Rhyl, ac wed'yn i Gaernarfon, lle y trigianai bellach er's rhai blynyddoeddé